- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Addysg a Hyfforddiant (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Awst 2001.
(2) Maent yn gymwys i Gymru yn unig.
(3) Yn y Rheoliadau hyn mae'r cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “adroddiad arolygu” (“inspection report”) yw adroddiad ar arolygiad neu arolygiad ardal y mae'n ofynnol i'r Prif Arolygydd ei wneud o dan adran 76(2)(c), 77(3) neu 83(8);
ystyr “arolygiad” (“inspection”) (heb ragor) yw arolygiad addysg neu hyfforddiant y mae adran 75 wedi dod ag ef o fewn cylch gwaith y Prif Arolygydd, ond nid yw'n cynnwys arolygiad ardal;
ystyr “arolygiad ardal” (“area inspection”) yw arolygiad o dan adran 83;
ystyr “cynllun gweithredu” (“action plan”) yw'r datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn adran 80(3), 84(2) neu 84(3);
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly” ) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵ yl banc nac yn rhan o wyliau hwy nag wythnos sy'n cael eu cymryd gan y sefydliad o dan sylw (pan fydd yr addysg a'r hyfforddiant sy'n cael eu harolygu yn cael eu darparu mewn sefydliad addysgol); ac
ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(1).
2. Mae arolygiadau i'w cynnal o fewn pum mlynedd i'r dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym, ac yna o fewn pob pum mlynedd i'r arolygiad diweddaraf.
3. Rhaid gwneud adroddiadau arolygu o fewn y cyfnod o 55 niwrnod gwaith o'r dyddiad y mae'r arolygiad neu'r arolygiad ardal yn cael ei gwblhau, neu pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 65 niwrnod gwaith o'r dyddiad hwnnw.
4.—(1) Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu o fewn y cyfnod o 40 niwrnod gwaith neu, pan fydd angen darparu cyfieithiad i'r Gymraeg neu'r Saesneg, y cyfnod o 50 niwrnod gwaith o'r dyddiad (yn y naill achos neu'r llall) y cafodd y corff o dan sylw gopi o'r adroddiad arolygu.
(2) Rhaid cyhoeddi cynllun gweithredu drwy drefnu ei fod ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y corff o dan sylw, ac ar unrhyw wefan sydd gan y corff hwnnw ar y rhyngrwyd.
(3) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu at bob un o'r canlynol—
(a)y Prif Arolygydd;
(b)y Cynulliad Cenedlaethol;
(c)Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant;
(ch)unrhyw awdurdod addysg lleol neu gorff neu berson arall sy'n darparu cymorth ariannol ar gyfer unrhyw addysg neu hyfforddiant a arolygwyd (oni bai mai'r awdurdod, y person neu'r corff hwnnw sydd wedi paratoi'r cynllun gweithredu).
(4) Rhaid anfon copi o gynllun gweithredu hefyd at unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n gofyn am gopi (yn ddi-dâl).
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y corff o dan sylw” (“the body concerned”) yw'r corff y mae'n ofynnol, o dan adran 80(3) neu is-adran (2) neu (3) o adran 84 (yn ôl fel y digwydd), iddo baratoi'r cynllun gweithredu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D.Elis Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Gorffennaf 2001
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys