Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 975 (Cy.45)

ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU

Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'i wneud

21 Mawrth 2000

Yn dod i rym

31 Mawrth 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 147(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1), ac a freiniwyd ynddo bellach i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  

(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) (Diwygio) (Cymru) 2000 a daw i rym ar 31 Mawrth 2000

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Blwyddyn berthnasol

2.  Yn erthygl 2 o Orchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 (“Gorchymyn 1991”)(3) , yn y diffiniad o “relevant year”, ar ôl “subsequent financial year” ychwaneger “until, and including, the financial year beginning in 1999”.

Addasiadau ardrethu hwyr

3.  Ym mharagraff (2) o erthygl 3 o Orchymyn 1991, ar ôl “as mentioned in paragraph (1),” ychwaneger “and on or before 31st March 2001.”

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Mawrth 2000

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Gorchymyn Ardrethi a Phraeseptau (Addasiadau Terfynol) 1991 (“Gorchymyn 1991”) yn darparu ar gyfer addasiadau ariannol, rhwng cyrff penodol a oedd, ynglŷn â'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 1989, yn awdurdodau praeseptu (neu eu holynwyr) a'r cyrff a oedd, ynglŷn â'r flwyddyn honno'n awdurdodau ardrethu.

Mae'r addasiadau'n ymwneud â symiau sy'n adferadwy, neu a ddilëwyd fel rhai anadferadwy neu a ad-dalwyd, ar 1 Ebrill 1990 neu wedi hynny, a briodolir i ardrethi am gyfnod sy'n dod i ben cyn y dyddiad hwnnw, ac i gostau gweinyddol cysylltiedig.

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru'n unig, yn diwygio'r diffiniad o “relevant year” yn erthygl 2 o Orchymyn 1991 fel na fydd yr addasiadau'n gymwys ar ôl y flwyddyn ariannol 1999/2000 (erthygl 2).

Mae'r Gorchymyn hefyd yn diwygio erthygl 3 o Orchymyn 1991 fel bod rhaid gwneud hysbysiad o gyfrif a wnaed yn unol â'r erthygl honno ar 31 Mawrth 2001 neu cyn hynny (erthygl 3).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill