Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1940 (Cy. 138 )

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

19 Gorffennaf 2000

Yn dod i rym

1 Awst 2000

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 87(1) a (2) a 91(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf honno ag Asiantaeth yr Amgylchedd, unrhyw gorff neu bersonau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol a diwydiant fel y gwêl yn briodol, ac unrhyw gorff neu bersonau eraill y gwêl yn briodol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 a deuant i rym ar 1 Awst 2000.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig .

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn,

  • ystyr “amcan ansawdd aer” (“air quality objective”) yw'r ystyr a roddir gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn,

  • ystyr “yr Atodlen” (“the Schedule”) yw'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn,

  • ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd 1995,

  • ystyr “sylwedd” (“substance”) yw sylwedd a restrir yng ngholofn chwith y Tabl;

  • acystyr “y Tabl” (“the Table”) yw'r Tabl yn Rhan I o'r Atodlen.

(2Bydd darpariaethau Rhan II o'r Atodlen yn effeithiol at ddibenion dehongli'r Atodlen.

Cyfnodau perthnasol

3.  Y cyfnod sy'n dechrau â'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ac sy'n dod i ben ar y dyddiad a ragnodir yng ngholofn dde y Tabl gyferbyn â'r amcan ansawdd aer perthnasol yw'r cyfnod perthnasol a ragnodir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf 1995(3) mewn perthynas ag amcan ansawdd aer.

Amcanion ansawdd aer

4.—(1Mae yn amcan ansawdd aer ar gyfer pob sylwedd fod lefel y sylwedd hwnnw yn yr aer wedi'i gyfyngu i'r lefel a ragnodir yng ngholofn chwith y Tabl ar gyfer y sylwedd hwnnw erbyn dyddiad nad yw'n ddiweddarach na'r dyddiad a ragnodir yng ngholofn dde'r Tabl ar gyfer y sylwedd hwnnw, neu, os rhagnodir mwy nag un amcan ansawdd aer ar gyfer sylwedd, y dyddiad a ragnodir yn y golofn dde gyferbyn â'r amcan ansawdd aer perthnasol ar gyfer y sylwedd hwnnw.

(2Rhaid penderfynu a yw amcan ansawdd aer a ragnodir yn unol â pharagraff (1) wedi'i gyflawni neu'n debygol o gael ei gyflawni drwy gyfeirio at ansawdd yr aer mewn lleoliadau

(a)sydd y tu allan i adeiladau neu strwythurau naturiol neu artiffisial eraill uwchlaw neu islaw'r ddaear; a

(b)lle mae aelodau o'r cyhoedd yn bresennol yn rheolaidd.

Diddymu

5.  Mae Rheoliadau Ansawdd Aer 1997(4) wedi'u diddymu drwy hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymruo dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis Thomas

Y Llywydd

19 Gorffennaf 2000

Rheoliadau 2, 3 a 4

YR ATODLEN

RHAN I

TABL

AMCANION ANSAWDD AER

Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd AerY dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan
Bensen: 16.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol cyfredol31 Rhagfyr 2003
1, 3 Biwtadïen: 2.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol cyfredol31 Rhagfyr 2003
Carbon monocsid: 11.6 miligram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 8 awr cyfredol31 Rhagfyr 2003
Nitrogen deuocsid: 200 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr yn ôl yr awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 18 gwaith y flwyddyn31 Rhagfyr 2005
Nitrogen deuocsid: 40 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol31 Rhagfyr 2005
Plwm: 0.5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol31 Rhagfyr 2004
Plwm: 0.25 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol31 Rhagfyr 2008
PM10: 50 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 24 awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 35 gwaith y flwyddyn31 Rhagfyr 2004
PM10 40 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol31 Rhagfyr 2004
Sylffwr deuocsid: 125 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 24 awr na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 3 gwaith y flwyddyn31 Rhagfyr 2004
Sylffwr deuocsid: 350 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr yn ôl yr awr, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 24 gwaith y flwyddyn31 Rhagfyr 2004
Sylffwr deuocsid: 266 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr 15 munud, na ellir mynd yn uwch na hynny fwy na 35 gwaith y flwyddyn31 Rhagfyr 2005

RHAN II

Dehongli

At ddibenion yr Atodlen hon:

1.—(1Cymedr blynyddol cyfredol yw cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr blynyddol cyfredol yr awr. Y cymedr blynyddol cyfredol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol yw cymedr y lefelau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno a'r 8759 o oriau blaenorol.

(2Er mwyn cyfrifo cymedr blynyddol cyfredol, y lefel yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yw naill ai:

(a)y lefel lle cofnodir bod y sylwedd hwnnw yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr ar sail sampl barhaus o aer a gymerir yn ystod yr awr honno am 30 munud o leiaf; neu

(b)cymedr y lefelau a gofnodir yn y lleoliad hwnnw ar sail 2 neu ragor o samplau o aer a gymerir yn ystod yr awr am gyfnod agregedig o 30 munud o leiaf.

2.  Cymedr a gyfrifir ar sail oriau ac sy'n ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr yw cymedr 8 awr cyfredol. Cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol am awr benodol a'r 7 awr flaenorol yw'r cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am yr awr honno.

3.—(1Cymedr a gyfrifir ar sail flynyddol ac sy'n ildio un cymedr blynyddol y flwyddyn galendr yw cymedr blynyddol. Y cymedr blynyddol ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol mewn blwyddyn galendr benodol yw:

(a)o ran plwm, cymedr y lefelau dyddiol ar gyfer y flwyddyn honno;

(b)o ran nitrogen deuocsid, cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y flwyddyn honno; ac

(c)o ran PM10, cymedr y cymedrau 24 awr ar gyfer y flwyddyn honno;

(2At ddibenion cyfrifo'r cymedr blynyddol ar gyfer plwm, y lefel ddyddiol ar gyfer plwm mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod plwm yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr wythnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol yr wythnos honno (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod o'r wythnos honno).

(3Ystyr “PM10” yw mater gronynnol sy'n llwyddo i fynd drwy fewnfa dethol maint gyda therfyn effeithlonrwydd o 50% pan fydd y diamedr aerodynamig yn 10μm.

(4At ddibenion is-baragraff (2) ystyr “wythnos” yw wythnos gyflawn sy'n dechrau ar ddydd Llun, ac eithrio ei bod hefyd yn cynnwys unrhyw gyfnod o lai na saith diwrnod o ddechrau'r flwyddyn galendr hyd at y dydd Llun cyntaf yn y flwyddyn honno neu o ddechrau'r dydd Llun olaf yn y flwyddyn galendr hyd at ddiwedd y flwyddyn honno.

4.  Cymedr a gyfrifir bob awr yw cymedr yn ôl yr awr. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod awr benodol yw'r cymedr yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw yn ystod yr awr honno.

5.  Cymedr a gyfrifir bob 24 awr yw cymedr 24-awr. Y lefel lle cofnodir bod sylwedd yn bresennol yn yr aer mewn lleoliad penodol ar sail sampl barhaus o aer a gymerir drwy gydol y cyfnod o 24 awr yw'r cymedr 24-awr ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y cyfnod hwnnw.

6.  Cymedr a gyfrifir bob 15 munud yw cymedr 15-munud. Cymedr y lefelau a gofnodir, ar fynychder o nid llai nag unwaith bob 10 eiliad, ar gyfer sylwedd mewn lleoliad penodol yn ystod cyfnod o 15 munud yw'r cymedr 15-munud ar gyfer y sylwedd hwnnw yn y lleoliad hwnnw am y 15 munud hynny.

7.  Mae'r cyfeiriad at nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o sylwedd yn gyfeiriad at y nifer o ficrogramau neu filigramau y metr ciwbig o'r sylwedd hwnnw o'i fesur gyda'r cyfaint wedi'i safoni ar dymheredd o 293 K ac ar bwysedd o 101.3 kPa.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru adolygu ansawdd yr aer yn eu hardaloedd. Rhaid i'r adolygiadau ystyried ansawdd yr aer ar y pryd ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol yn ystod y “cyfnod perthnasol” (cyfnod sydd i'w ragnodi gan reoliadau).

Ynghyd â'r adolygiadau hyn, rhaid asesu a yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir gan reoliadau, yn cael eu cyflawni neu yn debygol o gael eu cyflawni o fewn y cyfnod perthnasol.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n dod i rym ar 1 Awst 2000, yn rhagnodi'r cyfnod perthnasol y cyfeirir ato uchod (rheoliad 3) a'r amcanion ansawdd aer sydd i'w cyflawni erbyn diwedd y cyfnod hwnnw (rheoliad 4 a'r Atodlen). Yr un yw'r amcanion â'r rhai a nodir yn y Strategaeth Ansawdd Aer i Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (Cm 4548, Ionawr 2000) ac a gyhoeddwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 80 o Ddeddf 1995.

Os yw'n debygol na chyflawnir un neu fwy o'r amcanion ansawdd aer a ragnodir gan y Rheoliadau hyn o fewn unrhyw ran o ardal cyngor o fewn y cyfnod perthnasol, bydd rhaid i'r cyngor o dan sylw ddynodi'r rhan honno o'i ardal yn ardal rheoli ansawdd aer (adran 83(1) o Ddeddf 1995). Yna, bydd rhaid paratoi cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r ardal ddynodedig ac yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu arfer ei bwerau mewn perthynas â'r ardal ddynodedig er mwyn cyflawni'r amcanion rhagnodedig (adran 84(2) o Ddeddf 1995).

Mae'r Rheoliadau hyn yn diddymu Rheoliadau Ansawdd Aer 1997. Roedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Brydain Fawr ond maent wedi'u diddymu eisoes i'r graddau yr oeddent yn gymwys i'r Alban gan Reoliadau Ansawdd Aer (Yr Alban) 2000 (O.S.A. 2000/97) ac i'r graddau yr oeddent yn gymwys i Loegr gan Reoliadau Ansawdd Aer (Lloegr) 2000 (O.S. 2000/928).

(1)

1995 p.25. Gweler y diffiniad o “prescribed”, “regulations” a “the relevant period” yn adran 91(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 91 o Ddeddf 1995 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(3)

Gweler adrannau 82 i 85 o Ddeddf 1995.

(4)

O.S. 1997/3043. Diddymwyd y Rheoliadau hyn, a oedd yn gymwys i Brydain Fawr, i'r graddau yr oeddent yn gymwys i'r Alban gan O.S.A. 2000/97 ac i'r graddau yr oeddent yn gymwys i Loegr gan O.S. 2000/928.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill