Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000

 Help about what version

Pa Fersiwn

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2000 Rhif 1710 (Cy.116)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000

Wedi'u gwneud

20 Mehefin 2000

Yn dod i rym yn unol â Rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 132(4) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) ac a freinir bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflenni Cais) (Diwygio) (Cymru) 2000 a deuant i rym 14 diwrnod ar ol y dyddiad y'u gwneir.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygiadau

2.—(1Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997(3) fel a bennir yn nhestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(2Diwygir y ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999(4)) fel a bennir yn nhestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

3.  Ni fydd y Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn 3 Ebrill 2000.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Mehefin 2000

Rheoliad 2

ATODLENDIWYGIADAU I'R FFURFLEN SY'N DWYN Y TEITL “CAIS AM GRANT ADLEOLI”

1.  Ar ôl cwestiwn 4.23, mewnosodwch—

2.  Yng nghwestiwn 4.31

(a)ar ôl “Ysgoloriaethau ac addysgedau eraill etc: £ ... ... ... ... £ ... ... ... ...”,

mewnosodwch “Nodyn 46B”;

(b)ar ôl “Benthyciad myfyrwyr: £ ... ... ... ...”, mewnosodwch “Nodyn 46C

3  Yng nghwestiwn 4.34 yn lle “Nodiadau 50 a 50A” rhowch “Nodiadau 50, 50A a 50B”.

4.  Yn y pennawd o flaen cwestiwn 4.36, ar ôl “grantiau myfyrwyr” mewnosodwch “neu fenthyciadau myfyrwyr”, ac yng nghwestiwn 4.36, ar ôl “grant myfyriwr” mewnosodwch “neu fenthyciad myfyriwr”.

5.  Ar ddiwedd nodyn 30, ychwanegwch:

Dylai tâl gros gynnwys hefyd daleb ddi-arian a gymerwyd i ystyriaeth wrth gyfrifo'ch enillion yn unol â rheoliad 18(22) i (25) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cyfraniadau) 1979. (6).

6.  Ar ddiwedd nodiadau 31 a 32 ychwanegwch —

Byddwch cystal â chynnwys swm eich pensiwn p'un a delir ef i chi neu i berson arall. Nid oes rhaid i chi gynnwys swm eich pensiwn lle telir y cyfan ohono i'ch ymddiriedolwr mewn methdaliad neu i rywun arall ar ran eich credydwyr ar yr amod nad ydych chi neu aelod o'ch teulu yn cael unrhyw incwm ar wahân i'r taliad hwnnw..

7.  Ar ôl nodyn 34, mewnosodwch —

34A.  Os nad ydych chi neu'ch partner yn gwybod a oes gennych hawl i gael y lleiafswm cyflog gwladol am unrhyw swydd, llenwch weddill y ffurflen a gofyn wedyn i Adran Dai y Cyngor pan fyddwch yn anfon eich cais i mewn..

8.  Yn nodyn 45, ar ôl “Groes George” mewnosodwch—

ndash;lwfans cynhaliaeth addysgol sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996(7) (talu costau ysgol; rhoi ysgoloriaethau etc.) neu unrhyw swm mewn perthynas â chwrs astudiaeth a ddilynir gan blentyn neu berson ifanc sy'n daladwy yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 518 o Ddeddf Addysg 1996, adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980(8) (pŵer i gynorthwyo personau i fanteisio ar gyfleusterau addysgol) neu adran 12(2)(c) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (Yr Alban) 1992(9) (darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr)..

9.  Ar ôl nodyn 46A, mewnosodwch —

46B.  Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon ac eithrio i'r graddau iddo gael ei wneud ar gyfer talu eich costau, neu gostau eich teulu, ar gyfer bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu ar gyfer unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵ r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.

  • Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.

  • Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig.

46C  Dylech roi mwyafswm y benthyciad myfyriwr y gallech fod wedi'i gael, lle na chawsoch fenthyciad myfyriwr neu lle na chawsoch y mwyafswm..

10.  Ar ôl nodyn 50A, mewnosodwch —

50B  Peidiwch â chynnwys dyfarniad chwaraeon a gawsoch lai na 26 wythnos yn ôl ac eithrio i'r graddau ei fod wedi'i wneud i dalu eich costau, neu gostau eich teulu, am fwyd, dillad neu esgidiau cyffredin, tanwydd neu rent cartref, neu unrhyw dreth gyngor neu daliadau dŵ r yr ydych chi neu y mae aelod arall o'ch teulu yn atebol amdanynt.

  • Nid oes angen i chi gynnwys unrhyw daliadau am fitaminau, mwynau neu unrhyw ychwanegiadau deietegol arbennig a fwriedir i wella'ch perfformiad yn y gamp y cafodd y dyfarniad ei wneud ar ei chyfer.

  • Nid oes angen ychwaith i chi gynnwys unrhyw daliadau a wnaed am wisg ysgol neu ddillad neu esgidiau sydd i'w defnyddio ar gyfer gweithgareddau chwaraeon yn unig..

11.  Yn nodyn 52, ar ôl “grant y myfyriwr” mewnosodwch “neu fenthyciad y myfyriwr”.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a'r Ffurflen a nodir yn yr Atodlen i Reoliadiau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999 (“Rheoliadau 1999”).

Mae Rheoliadau Grantiau Adleoli 1997 (O.S. 1997/2764) yn cymhwyso Rheoliadau Grantiau Adleoli Tai 1996 (O.S. 1996/2890) fel y maent yn effeithiol o bryd i'w gilydd, gyda'r addasiadau a ragnodwyd. Mae diwygiadau i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/ 973(Cy.43) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, wedi peri bod angen diwygio Rheoliadau 1997 a Rheoliadau 1999.

(1)

1996 p.53; gall yr Ysgrifennydd Gwladol arfer y pŵer o dan yr adrannau hyn mewn perthynas â Lloegr yn unig.

(2)

Gweler Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(6)

O.S. 1979/591; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1999/561.

(7)

1996 p.56; amnewidiwyd adran 518 gan adran 129 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill