Paragraff 13 o Atodlen 1
27.Mae paragraff 13 yn gymwys i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmnïau cofrestredig y mae eu cofrestriad fel landlord cymdeithasol wedi ei gofnodi gan y Cofrestrydd Cwmnïau.
28.Mae adran 899 o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn caniatáu i gwmni wneud cais am orchymyn llys i ddod i gyfaddawd neu wneud trefniant â’i gredydwyr neu ei aelodau. Mae adran 900 o’r Ddeddf honno yn caniatáu i’r cwmni wneud cais am orchymyn llys i drosglwyddo’r cyfan neu unrhyw ran o’i ymgymeriad, neu ei eiddo neu ei rwymedigaethau, at ddibenion atgyfansoddi neu gyfuno’r cwmni, ymhlith pethau eraill. Rhaid i’r cwmni anfon y copi swyddfa o’r gorchymyn at y Cofrestrydd Cwmnïau.
29.Gall landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni hefyd basio penderfyniad o dan adran 115 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 i drosi yn gymdeithas gofrestredig a rhaid iddo anfon copi o’r penderfyniad at y Cofrestrydd Cwmnïau.
30.Gall cyfarwyddwr, gweinyddwr neu ddatodwr i’r cwmni hefyd wneud trefniant gwirfoddol â chredydwyr y cwmni o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986. Rhaid i aelodau a chredydwyr y cwmni gymeradwyo’r trefniant hwn.
31.Gall cwmni basio penderfyniad arbennig ei fod yn cael ei ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986, ac yn unol ag adran 30 o Ddeddf Cwmnïau 2006, rhaid anfon copi o’r penderfyniad at y Cofrestrydd Cwmnïau.
32.Gwneir newidiadau i baragraff 13 o Atodlen 1 i ddileu’r gofynion bod landlord cymdeithasol cofrestredig sy’n gwmni yn cael cydsyniad Gweinidogion Cymru er mwyn cymryd unrhyw un neu ragor o’r camau a restrir yn y pedwar paragraff blaenorol.
33.O ganlyniad i’r diwygiad a wneir gan adran 4, mae’r sefyllfa o dan baragraff 13 fel a ganlyn:
Nid oes angen i gwmni gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud cais am orchymyn llys o dan adran 899 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
Nid oes angen i gwmni gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud cais am orchymyn llys o dan adran 900 o Ddeddf Cwmnïau 2006, ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
Os yw cwmni’n pasio penderfyniad o dan adran 115 o Ddeddf Cymdeithasau Cydweithredol a Chymdeithasau Budd Cymunedol 2014 i drosi’r cwmni yn gymdeithas gofrestredig, nid oes angen iddo gael cydsyniad Gweinidogion Cymru ond rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
Nid yw mwyach yn ofynnol i gael cydsyniad Gweinidogion Cymru i unrhyw drefniant gwirfoddol o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 mewn perthynas â chwmni ond rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
Nid yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru roi eu cydsyniad cyn i gwmni basio penderfyniad arbennig ei fod i’w ddirwyn i ben yn wirfoddol o dan Ddeddf Ansolfedd 1986. Rhaid i’r landlord cymdeithasol cofrestredig hysbysu Gweinidogion Cymru a chydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau hysbysu a roddir ganddynt.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfarwyddydau hysbysu gweler paragraff 13A o Atodlen 1, a fewnosodir gan adran 5 o’r Ddeddf.