Adran 48 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol
91.Caiff ACC ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol i berson os yw’n ymddangos i ACC bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig a bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth ar y gwarediad hwnnw (hynny yw, bod y person wedi achosi neu ganiatáu gwneud y gwarediad, a hynny o fwriad). Caiff yr hysbysiad rhagarweiniol ymwneud â mwy nag un gwarediad trethadwy. Rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a restrir yn is-adran (2) a rhoi gwybod i’r person am y materion a restrir yn is-adran (3). Ni chaniateir dyroddi hysbysiad rhagarweiniol fwy na 4 blynedd ar ôl i ACC ddod i wybod am y gwarediad trethadwy, a dim mwy nag 20 mlynedd ar ôl yr adeg y mae ACC yn credu i’r gwarediad trethadwy gael ei wneud, beth bynnag.