Adrannau 49 a 50 – Pŵer i ddyroddi hysbysiad codi treth ar ôl dyroddi hysbysiad rhagarweiniol a heb ddyroddi hysbysiad rhagarweiniol
92.Ar ôl i gyfnod o 45 o ddiwrnodau o leiaf fynd heibio ers dyroddi hysbysiad rhagarweiniol mewn perthynas â gwarediad, ac ar ôl ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig gan y sawl a gafodd yr hysbysiad rhagarweiniol, rhaid i ACC naill ai ddyroddi:
hysbysiad codi treth i’r person mewn perthynas â’r gwarediad; neu
hysbysiad i’r person sy’n datgan nad yw’n bwriadu dyroddi hysbysiad codi treth mewn perthynas â’r gwarediad.
93.Dim ond os yw’n fodlon bod gwarediad trethadwy wedi ei wneud y tu allan i safle tirlenwi awdurdodedig y caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth. Rhaid iddo hefyd fod yn fodlon bod y person yn bodloni’r amod ar gyfer codi treth mewn perthynas â’r gwarediad. Rhaid i hysbysiad codi treth gynnwys y materion a restrir yn 49(5).
94.Caiff ACC ddyroddi hysbysiad codi treth heb iddo fod wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol os yw’n meddwl, yn ogystal â bod wedi ei fodloni ynghylch y materion uchod, ei bod yn debygol y caiff treth ei cholli os yw ACC yn dyroddi hysbysiad rhagarweiniol (oherwydd, er enghraifft, y posibilrwydd y gallai’r person fynd i ddwylo’r gweinyddwyr). Yn yr amgylchiadau hynny, rhaid i’r hysbysiad hefyd gynnwys rhesymau ACC dros ddyroddi hysbysiad codi treth heb iddo fod wedi dyroddi hysbysiad rhagarweiniol.