Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf
10.Ceir 98 o adrannau a phedair Atodlen i’r Ddeddf, ac mae wedi ei rannu’n chwe Rhan fel a ganlyn:
Rhan 1 - Trosolwg
Mae’r Rhan hon yn nodi sut y mae’r Ddeddf wedi ei strwythuro.
Rhan 2 – Y Dreth a Gwarediadau Trethadwy
Mae’r Rhan hon yn sefydlu TGT ac yn nodi’r cysyniadau sylfaenol sy’n sail i weithrediad y dreth.
Rhan 3 - Gwarediadau Trethadwy a Wneir ar Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig
Mae’r Rhan hon yn nodi pwy sy’n agored i dalu treth ar warediad trethadwy a wneir ar safle tirlenwi awdurdodedig; sut y caiff swm y dreth ei gyfrifo; y ddwy gyfradd dreth a gaiff fod yn gymwys i warediad o’r fath (sef y gyfradd safonol a’r gyfradd is); y rhyddhadau rhag treth y caniateir eu hawlio; y gweithdrefnau cofrestru a chyfrifyddu; y gofynion talu; a darpariaethau ar gyfer adennill treth. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 1, sy’n nodi pa ddeunyddiau a all fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is ac unrhyw amodau cysylltiedig y mae’n rhaid i’r deunyddiau hynny eu bodloni; Atodlen 2, sy’n nodi cynnwys y gofrestr o weithredwyr safleoedd tirlenwi; ac Atodlen 3, sy’n nodi cynnwys anfoneb dirlenwi.
Rhan 4 - Gwarediadau Trethadwy mewn Lleoedd heblaw Safleoedd Tirlenwi Awdurdodedig
Mae’r Rhan hon yn darparu y gall gwarediad hefyd fod yn ddarostyngedig i TGT os y’i gwneir yn rhywle heblaw safle tirlenwi awdurdodedig a’i fod yn warediad y mae trwydded amgylcheddol yn ofynnol ar ei gyfer. Gelwir gwarediad o’r fath yn “warediad heb ei awdurdodi”. Mae’r Rhan hon yn nodi pwy a all fod yn agored i dreth ar warediadau sydd heb eu hawdurdodi; sut y rhoddir hysbysiad am rwymedigaeth i dreth; y gyfradd dreth a fydd yn gymwys i warediad o’r fath (sef y gyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi); a’r gofynion o ran talu. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth i’w gwneud yn ofynnol i dalu llog taliadau hwyr ar dreth nas talwyd.
Rhan 5 – Darpariaeth Atodol
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth atodol sy’n gysylltiedig â’r dreth. Mae’r ddarpariaeth hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth ar gyfer credydau treth, darpariaeth ar gyfer creu a rheoleiddio mannau nad ydynt at ddibenion gwaredu o fewn safle tirlenwi awdurdodedig, darpariaeth ar gyfer pwerau archwilio ychwanegol, a darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth a chosbau. Mae’r Rhan hon hefyd yn nodi sut y cymhwysir darpariaethau’r Ddeddf mewn achosion arbennig, megis pan fo safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cael eu gweithredu gan grwpiau corfforaethol neu bartneriaethau. Mae’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru roi sylw i’r amcan o leihau gwarediadau tirlenwi yng Nghymru wrth arfer swyddogaethau o dan y Ddeddf ac yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Cynllun Cymunedau y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a’i gyhoeddi. Mae’r Rhan hon hefyd yn cyflwyno Atodlen 4, sy’n nodi’r diwygiadau a wneir i DCRhT gan y Ddeddf hon.
Rhan 6 – Darpariaethau Terfynol
Mae’r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau ynghylch gweithdrefnau is-ddeddfwriaeth, pwerau trosiannol, canlyniadol etc., cychwyn, dehongli a darpariaethau terfynol ac ategol eraill.