Cymhwyso’R Ddeddf
8.Mae’r Ddeddf yn sefydlu treth ar warediadau tirlenwi yng Nghymru. ACC sy’n gyfrifol am gasglu a rheoli’r dreth. Bydd gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn gyfrifol am gofrestru gydag ACC, rhoi hysbysiadau a thalu trethi ar yr holl warediadau perthnasol a wneir ar eu safle(oedd) tirlenwi. Bydd hynny’n cynnwys dychwelyd ffurflen dreth chwarterol a hunanasesir a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn diwrnod gwaith olaf y mis canlynol. Cyfrifir y rhwymedigaeth dreth drwy gyfeirio at bwysau trethadwy’r deunydd a waredir fel gwastraff drwy dirlenwi yng Nghymru. Cymhwysir cyfradd dreth is i ddeunyddiau cymwys neu gymysgeddau cymwys o ddeunyddiau a chymhwysir cyfradd safonol i bob deunydd arall. Ceir rhai esemptiadau a fydd yn golygu, os ydynt yn gymwys, nad oes unrhyw rwymedigaeth i dreth, a bod rhai rhyddhadau a allai effeithio ar ba un a oes treth i’w chodi, a swm y dreth a godir. Mae’r Ddeddf hefyd yn estyn cwmpas TGT i warediadau a wneir mewn mannau ac eithrio safleoedd tirlenwi awdurdodedig (“gwarediadau heb eu hawdurdodi”) ac yn darparu ar gyfer cyfradd dreth ar gyfer gwarediadau heb eu hawdurdodi. Caiff holl gyfraddau treth TGT eu pennu drwy reoliadau.
9.Ar y lefel fwyaf sylfaenol, mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yng Nghymru yn gyfrifol am gofrestru ar gyfer pob gwarediad trethadwy a wneir ar safleoedd tirlenwi awdurdodedig yng Nghymru, rhoi cyfrif amdanynt a thalu treth arnynt. Pan wneir gwarediad heb ei awdurdodi, mae gan ACC y pŵer i ddyroddi hysbysiad sy’n codi TGT ar berson am y gwarediad. Bydd yn ofynnol i berson y dyroddir hysbysiad codi treth iddo dalu’r dreth honno.