Adran 33 – Penderfynu ar apelau gan berson a benodir: darpariaeth atodol
221.Mae adran 33 yn mewnosod paragraff newydd 7(3) yn Atodlen 3 i Ddeddf 1990 (penderfynu ar apelau penodol gan berson a benodir gan Weinidogion Cymru). Mae’r paragraff newydd yn darparu, pan fo Gweinidogion Cymru yn penodi aelod o staff Llywodraeth Cymru i benderfynu ar apêl o dan Atodlen 3, fod y swyddogaethau o benderfynu ar yr apêl a’r swyddogaethau o wneud unrhyw beth mewn cysylltiad â’r apêl i gael eu trin fel swyddogaethau Llywodraeth Cymru at ddibenion Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005. Mae hyn yn galluogi Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i unrhyw honiadau o gamweinyddu a wneir mewn perthynas â’r ffordd y mae’r person a benodir yn cyflawni’r swyddogaethau hynny.