Adran 4 – Diwygiadau sy’n ymwneud â’r Gofrestr: darpariaeth ganlyniadol
32.Mae adran 4 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Ddeddf 1979 o ganlyniad i gyflwyno’r darpariaethau o ran ymgynghori, gwarchodaeth interim ac adolygu.
33.Mae adran 4(1) yn mewnosod is-adran newydd (5A) yn adran 1 o Ddeddf 1979 (cofrestr o henebion), sy’n cyfeirio at y darpariaethau newydd ynghylch ymgynghori gan Weinidogion Cymru ar gynigion i gynnwys heneb yn y Gofrestr, i eithrio heneb o’r Gofrestr neu i wneud diwygiad perthnasol mewn perthynas â’r Gofrestr.
34.Mae adran 4(2) yn mewnosod is-adrannau newydd (6B) a (6C) yn adran 1 o Ddeddf 1979. Mae adran 1(6B) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru hysbysu perchennog a meddiannydd heneb, a’r awdurdod lleol y mae’r heneb yn ei ardal, pan fo diwygiad wedi ei wneud i’r ardal a ddangosir ar gyfer yr heneb ar y map cofrestru, ac anfon copi o’r map diwygiedig atynt. Mae adran 1(6C) yn cyfeirio at ddarpariaethau ynghylch yr wybodaeth ychwanegol y mae angen ei darparu i berchenogion a/neu feddianwyr pan wneir diwygiadau penodol mewn perthynas â’r Gofrestr, sef gwybodaeth ynghylch yr hawl i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad i wneud y diwygiad.
35.Mae adran 4(3) yn cymhwyso adran 27 o Ddeddf 1979, sy’n nodi’r modd y mae digollediad ar gyfer y dibrisiant yng ngwerth buddiant mewn tir i gael ei asesu, i’r digollediad sy’n daladwy o dan adran 1AD am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim.
36.Mae adran 4(4) yn cymhwyso is-adran (3) o adran 51 o Ddeddf 1979 (eiddo eglwysig) i unrhyw ddigollediad am golled neu ddifrod a achosir gan warchodaeth interim ar gyfer heneb ar dir sy’n eiddo eglwysig. Ystyr “eiddo eglwysig”, yn y cyd-destun hwn, yw tir sy’n eiddo i Eglwys Loegr, ac effaith y ddarpariaeth yw ei gwneud yn ofynnol i unrhyw ddigollediad o’r fath gael ei dalu i’r Bwrdd Cyllid Esgobaethol ar gyfer yr esgobaeth lle y mae’r heneb.
37.Mae adran 4(5) yn cymhwyso adran 55 o Ddeddf 1979 (achosion ar gyfer cwestiynu dilysrwydd gorchmynion penodol) i benderfyniad ynghylch adolygiad o dan adran 1AE, fel mai dim ond ar seiliau penodol y caniateir i benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch adolygiad gael ei gyfeirio at yr Uchel Lys.