Adran 17 – Cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel
113.O dan adran 42 o Ddeddf 1979 (cyfyngiadau ar y defnydd o ddatgelyddion metel) mae’n drosedd i ddefnyddio datgelydd metel mewn man gwarchodedig yng Nghymru heb gydsyniad ysgrifenedig Gweinidogion Cymru. Mae man gwarchodedig (“protected place”) yn fan:
sy’n safle heneb gofrestredig neu heneb sydd o dan berchenogaeth neu warchodaeth Gweinidogion Cymru neu awdurdod lleol yn rhinwedd Deddf 1979, neu
sydd mewn ardal o bwys archaeolegol.
114.O dan adran 42(7), mae’n amddiffyniad i’r cyhuddedig brofi ei fod wedi cymryd yr holl ragofalon rhesymol i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig a’i fod yn credu nad oedd y man hwnnw yn fan gwarchodedig. Mae’r amddiffyniad hwn yn gosod cyfrifoldeb ar y cyhuddedig i ddangos bod y rhagofalon priodol wedi eu cymryd, ond nid yw’n profi a oedd cred y cyhuddedig, sef nad oedd y safle yn safle gwarchodedig, yn gred resymol.
115.Mae adran 17 yn datgymhwyso amddiffyniad adran 42(7) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei le yr amddiffyniad newydd yn adran 42(8), sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r cyhuddedig brofi bod pob cam rhesymol wedi ei gymryd i ganfod a oedd y man lle y defnyddiwyd y datgelydd metel yn fan gwarchodedig, ac nad oedd yn gwybod bod y man yn fan gwarchodedig, ac nad oedd reswm ganddo dros gredu hynny.