Adran 15 – Rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig
107.Mae adran 15 yn mewnosod adran newydd 2(8A) yn Neddf 1979 i addasu un o’r amddiffyniadau i’r drosedd o wneud gwaith anawdurdodedig i heneb gofrestredig.
108.Mae adran 2 o Ddeddf 1979 yn darparu ar gyfer rheoli gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig drwy ei gwneud yn ofynnol i gael cydsyniad heneb gofrestredig a chefnogir hynny, yn is-adrannau (1) a (6), gan droseddau. O dan adran 2(8), mae’n amddiffyniad i rai o’r troseddau hynny i’r cyhuddedig brofi, yn ôl pwysau tebygolrwydd, nad oedd yn gwybod ac nad oedd ganddo reswm dros gredu bod yr heneb yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni, neu fod yr heneb wedi ei chofrestru.
109.Mae adran 15 yn datgymhwyso amddiffyniad adran 2(8) o ran Cymru ac yn rhoi yn ei le yr amddiffyniad newydd yn adran 2(8A). Mae’r amddiffyniad newydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi ei gyhuddo o wneud gwaith anawdurdodedig, neu achosi neu ganiatáu gwaith o’r fath, mewn perthynas â heneb gofrestredig yng Nghymru brofi, hefyd, iddo gymryd pob cam rhesymol i ganfod a oedd heneb gofrestredig yn yr ardal yr oedd y gwaith yn effeithio arni. Gallai camau o’r fath gynnwys, er enghraifft, edrych ar wybodaeth sydd ar gael ar-lein ar gyfer y cyhoedd gan Cadw ynghylch lleoliad a rhychwant heneb gofrestredig.