Adran 57 – Cymhwyso’r enillion
222.O dan adran 57(1), rhaid i reoliadau bagiau siopa ei gwneud yn ofynnol i werthwyr gymhwyso’r enillion net o’r tâl at ddibenion elusennol sy’n ymwneud â diogelu neu wella’r amgylchedd ac sydd o fudd i Gymru. Mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (2), sy’n darparu bod rhaid i reoliadau gynnwys eithriad ar gyfer gwerthwyr sydd â threfniadau presennol i gymhwyso’r arian a enillir ganddynt drwy werthu bagiau siopa at ddibenion elusennol eraill.
223.Diffinnir “enillion net o’r tâl” yn adran 63, sef yr enillion gros ar ôl tynnu unrhyw swm y caiff y rheoliadau eu pennu megis, er enghraifft, costau gweinyddol. Ystyr “enillion gros o’r tâl” yw’r swm y mae’r gwerthwr yn ei dderbyn o ganlyniad i’r isafswm tâl. Nid yw’n cynnwys arian sy’n dod i law sydd uwchlaw’r isafswm tâl; pe bai’r gwerthwr yn codi 8c am fag a 5c fyddai’r isafswm tâl yna’r enillion net o’r tâl fyddai 5c.
224.Rhaid i’r enillion net gael eu cymhwyso at “dibenion elusennol”, a diffinnir yn is-adran (8) bod i “ddiben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” yn adran 2 o Ddeddf Elusennau 2011 (p.25). Disgrifir y dibenion hynny yn adran 3 o’r Ddeddf honno ac maent yn cynnwys hybu’r gwaith o ddiogelu neu wella’r amgylchedd.
225.O dan is-adran (8) caiff rheoliadau addasu’r diffiniad o “diben elusennol” pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus gwneud hynny er mwyn sicrhau bod yr enillion net o’r tâl yn cael eu defnyddio’n briodol. Gallai’r pŵer hwn gael ei arfer, er enghraifft, pe bai’r diffiniad yn adran 2 o’r Ddeddf Elusennau wedi ei ddiwygio ac nad ystyrir bod y diffiniad newydd yn briodol bellach at ddiben y rheoliadau.
226.Pan fo gan werthwyr drefniadau presennol cyn i’r rheoliadau ddod i rym a’u bod yn rhoi arian y maent yn ei gael am fagiau siopa yn wirfoddol at ddibenion elusennol nad ydynt yn dod o fewn is-adran (1), mae is-adran (2) yn darparu bod rhaid i’r rheoliadau gynnwys eithriad sy’n eu galluogi i roi’r enillion net o’r tâl at y dibenion hynny. Mae hyn yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth a wneir gan y rheoliadau o dan is-adrannau (2) a (3).
227.O dan is-adran (2)(a), rhaid i’r rheoliadau bennu o fewn pa gyfnod y mae’n ofynnol bod y gwerthwr wedi rhoi taliadau at ddibenion elusennol eraill. Er enghraifft, gallai’r rheoliadau ddarparu nad yw’r eithriad yn gymwys onid yw’r gwerthwr wedi gwneud taliad yn ystod y flwyddyn cyn i’r rheoliadau ddod i rym.
228.O dan is-adran (2)(b), rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i werthwyr roi hysbysiad eu bod yn dymuno parhau â’r trefniadau hyn er mwyn dibynnu ar yr eithriad. Mae is-adran (3) yn darparu y caiff rheoliadau gynnwys manylion ynghylch sut y cymhwysir yr eithriad, fel sut y mae’n rhaid rhoi hysbysiad, yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo, ac unrhyw amodau.
229.Mae is-adran (4) yn darparu y caiff y rheoliadau o dan is-adran (1) roi disgresiwn i’r gwerthwr i ddewis y diben elusennol, neu bennu un diben elusennol neu ragor (ond rhaid iddo fod yn ddiben elusennol sy’n dod o fewn is-adran (1)).
230.Mae is-adran (5) yn darparu y caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch y trefniadau ar gyfer cymhwyso’r enillion net a’r person a gaiff dderbyn yr enillion hynny ar ran yr elusen. O dan is-adran (6), caiff y rheoliadau roi’r pwerau i Weinidogion Cymru orfodi’r rheoliadau os yw’r gwerthwr yn methu â chymhwyso’r enillion net yn ôl y gofyn.