Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

(a gyflwynir gan adran 240)

ATODLEN 12TROSI TENANTIAETHAU A THRWYDDEDAU PRESENNOL SY’N BODOLI CYN I BENNOD 3 O RAN 10 DDOD I RYM

Nodiadau EsboniadolDangos EN

Diffiniadau

1(1)Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “contract diogel wedi ei drosi” (“converted secure contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig;

  • ystyr “contract safonol wedi ei drosi” (“converted standard contract”) yw contract wedi ei drosi a ddaeth yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig;

  • ystyr “contract wedi ei drosi” (“converted contract”) yw tenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ac a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod hwnnw;

  • mae i “cyfnod darparu gwybodaeth” (“information provision period”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 11(1);

  • y “cyfnod hysbysu cychwynnol” (“initial notice period”) yw’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.

(2)Gweler adran 242 am ddiffiniadau o dermau eraill a ddefnyddir yn yr Atodlen hon.

Penderfynu a yw tenantiaeth neu drwydded sy’n bodoli eisoes yn gontract meddiannaeth

2(1)Mae Atodlen 2 yn gymwys i—

(a)tenantiaeth neu drwydded a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig, a

(b)tenantiaeth a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig ond nad yw o fewn paragraff (a),

fel pe bai paragraffau 3(2)(b) a 4 (sefydliadau gofal) wedi eu hepgor.

(2)Mae Atodlen 2 yn gymwys i denantiaeth a oedd yn denantiaeth ddiogel, yn denantiaeth sicr, yn denantiaeth ragarweiniol neu’n denantiaeth isradd yn union cyn y diwrnod penodedig fel pe bai paragraffau 3(2)(c) a 5 (trefniadau hwylus dros dro) wedi eu hepgor.

(3)Caiff y landlord, mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded a fodolai yn union cyn y diwrnod penodedig, roi hysbysiad o dan baragraff 1 neu 3 o Atodlen 2 ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

(4)Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r denantiaeth neu’r drwydded i’w thrin fel pe bai wedi dod yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

Penderfynu a yw contract wedi ei drosi yn gontract diogel neu’n gontract safonol

3(1)Mae adrannau 11 i 17 (landlordiaid cymunedol a landlordiaid preifat) yn gymwys i gontract wedi ei drosi—

(a)y mae’r landlord oddi tano yn landlord preifat, a

(b)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel yr oedd y landlord oddi tani yn landlord preifat,

fel pe bai’r landlord yn landlord cymunedol.

(2)Ond yn adran 14 (adolygu hysbysiad o gontract safonol) mae is-adran (1) yn gymwys fel pe bai “a bod penderfyniad y landlord i roi’r hysbysiad yn ddarostyngedig i adolygiad barnwrol” wedi ei fewnosod ar ôl “adran 13”.

4(1)Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi roi hysbysiad o dan adran 11(2)(b) (hysbysiad o gontract safonol) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

(2)Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract safonol ar y diwrnod penodedig.

(3)Caiff y landlord o dan gontract wedi ei drosi roi hysbysiad o dan adran 17(1) (hysbysiad o gontract diogel) ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod hysbysu cychwynnol.

(4)Os yw’r landlord yn gwneud hynny, mae’r contract i’w drin fel pe bai wedi dod yn gontract diogel ar y diwrnod penodedig.

5Mae contract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ragarweiniol yn union cyn y diwrnod penodedig yn cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol (gweler paragraff 23).

6Mae contract wedi ei drosi yn cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig (gweler paragraff 24) os, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (tenantiaeth fyrddaliol sicr isradd) yn gymwys iddo, neu

(b)oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (tenantiaethau isradd) yn gymwys iddo.

7(1)Mae contract wedi ei drosi y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo yn eithriad ychwanegol i adran 11(1) (contractau a wneir â landlord cymunedol yn gontractau diogel).

(2)Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth neu’n drwydded am gyfnod penodol yn union cyn y diwrnod penodedig, cyn belled â—

(a)bod premiwm wedi ei dalu am y contract, a

(b)cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig, bod deiliad y contract yn penderfynu y dylai’r contract ddod yn gontract safonol cyfnod penodol.

(3)Cyn y diwrnod penodedig, rhaid i landlord cymunedol sy’n landlord o dan denantiaeth neu drwydded am gyfnod penodol, ac y talwyd premiwm ar ei chyfer—

(a)hysbysu deiliad y contract o’i hawl i benderfynu o dan is-baragraff (2)(b) y dylai’r contract ddod yn gontract safonol, ac erbyn pryd y mae’n rhaid gwneud y penderfyniad, a

(b)egluro sut y bydd adran 11 yn gymwys i’r contract os nad yw deiliad y contract yn gwneud y penderfyniad.

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo landlord cymunedol yn dod yn landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig.

(2)Mae adran 12 (contractau a fabwysiedir gan landlord cymunedol) yn gymwys fel pe bai, yn is-adran (8)(b), “cyn diwedd y cyfnod o fis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (o fewn ystyr adran 242)” yn cael ei roi yn lle “cyn i’r landlord cymunedol ddod yn landlord arno”.

(3)Rhaid i’r landlord roi’r hysbysiad sy’n ofynnol yn ôl adran 15(1) i ddeiliad y contract ar y diwrnod penodedig neu cyn y diwrnod penodedig.

9(1)Mae’r canlynol yn eithriadau ychwanegol i adrannau 11(1) a 12(3) (contractau a wneir neu a fabwysiedir gan landlord cymunedol yn gontractau diogel).

(2)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth ddiogel, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 89, 91 neu 93 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth, aseinio ac is-osod).

(3)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth ragarweiniol, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth).

(4)Contract wedi ei drosi a oedd, cyn y diwrnod penodedig—

(a)wedi bod yn denantiaeth isradd, ond

(b)wedi peidio â bod yn denantiaeth o’r fath oherwydd adran 143I o Ddeddf Tai 1996 (olyniaeth).

10Mae contract diogel wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ddiogel yn union cyn y diwrnod penodedig yn dod yn gontract safonol—

(a)os bu’r tenant farw cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ddiogel o dan adran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (olyniaeth).

Datganiad ysgrifenedig o gontract wedi ei drosi a darparu gwybodaeth

11(1)Rhaid i’r landlord roi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n dechrau â’r diwrnod penodedig (y “cyfnod darparu gwybodaeth”).

(2)Mae unrhyw gyfeiriadau yn y Ddeddf hon at rwymedigaeth y landlord o dan adran 31(1) i’w darllen, mewn perthynas â chontractau wedi eu trosi, fel cyfeiriadau at rwymedigaeth y landlord o dan is-baragraff (1).

12Mae adrannau 36 a 37 (ceisiadau i’r llys) yn gymwys mewn perthynas â datganiad ysgrifenedig a ddarperir oherwydd paragraff 11(1) fel pe bai’r geiriau a ganlyn wedi eu rhoi yn lle’r geiriau yn adran 36(3) a 37(3),

Os oedd yn ofynnol i’r landlord ddarparu’r datganiad ysgrifenedig o dan baragraff 11(1) o Atodlen 12, ni chaiff deiliad y contract wneud cais i’r llys o dan is-adran (1) cyn—

(a)diwedd y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12), neu

(b)os yw’n gynharach, y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddodd y landlord y datganiad ysgrifenedig.

13(1)Mae adran 39(1) (gwybodaeth am gyfeiriad y landlord) yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi fel pe bai “y cyfnod darparu gwybodaeth (o fewn ystyr Atodlen 12)” yn cael ei roi yn lle “y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â dyddiad meddiannu’r contract”.

(2)Mae adran 40(2) (tâl digolledu) yn gymwys mewn perthynas ag adran 39(1), fel y’i diwygir gan is-baragraff (1), fel pe bai’r cyfeiriad at y dyddiad perthnasol yn gyfeiriad at ddiwrnod cyntaf y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dod i ben â diwrnod olaf y cyfnod darparu gwybodaeth (ac yn unol â hynny mae adran 40 i’w darllen fel pe bai is-adran (5) wedi ei hepgor).

Amrywio

14(1)Ni chaniateir amrywio contract wedi ei drosi cyn bod y landlord wedi rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract i ddeiliad y contract.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i amrywiad o dan adran 104 neu 123 (amrywio rhent).

15(1)Mae adrannau 104 a 123 (amrywio rhent) yn gymwys i gontract wedi ei drosi fel pe bai unrhyw amrywiadau yn y rhent sy’n daladwy o dan y contract cyn y diwrnod penodedig yn amrywiadau o dan ba rai bynnag o’r adrannau hynny sy’n berthnasol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau—

(a)sy’n galluogi deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, ar ôl derbyn hysbysiad o dan adran 104 neu 123, wneud cais i berson neu bersonau rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd, a

(b)i’r rhent a bennir gan y person neu’r personau rhagnodedig, yn unol ag unrhyw ragdybiaethau a gaiff eu rhagnodi, fod y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract (oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall).

(3)Mae contract yn gontract wedi ei drosi perthnasol os oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth yr oedd adran 13 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (codiadau rhent o dan denantiaethau cyfnodol sicr) yn gymwys iddi.

Gwast ac ymddwyn fel tenant

16Nid yw adran 101 yn gymwys i gontract wedi ei drosi; felly—

(a)mae deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi yn ddarostyngedig i’r un atebolrwydd am wast mewn perthynas â’r annedd ag yr oedd yn ddarostyngedig iddo yn union cyn y diwrnod penodedig, a

(b)mae’r rheol gyfreithiol sy’n golygu bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio mangre sydd ar les yn gymwys i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi fel yr oedd yn gymwys iddo yn union cyn y diwrnod penodedig.

Delio

17(1)Mae’r paragraff hwn yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol wedi ei drosi a oedd yn denantiaeth ddiogel yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Caiff deiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.

18(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi—

(a)sy’n gontract diogel neu’n gontract safonol cyfnodol, a

(b)y mae cyd-ddeiliaid contract oddi tano a oedd yn denantiaid cydradd mewn ecwiti yn union cyn y diwrnod penodedig.

(2)Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.

19(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi sy’n gontract safonol cyfnod penodol.

(2)Mae’r darpariaethau contractau safonol cyfnod penodol a grybwyllir yn is-adran (1) o bob un o adrannau 139, 140, 141 a 142 (trosglwyddiadau) yn delerau’r contract, ac mae is-adrannau (2) a (3) o bob un o’r adrannau hynny yn gymwys yn unol â hynny.

(3)Nid yw is-baragraff (2) yn gymwys i’r graddau y mae unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hynny yn anghydnaws ag un o delerau presennol y contract.

Olyniaeth

20(1)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 6,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac

(c)os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

TABL 6

Y MATH O DENANTIAETHY DDARPARIAETH FREINIOY DARPARIAETHAU CYMHWYSO
Tenantiaeth ddiogelAdran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)Adrannau 87 a 113(1)(a) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth ragarweiniolAdran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)Adrannau 131 a 140(1)(a) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth israddAdran 143H o Ddeddf Tai 1996Adran 143P(1)(a) neu (b) o’r Ddeddf honno

(2)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi hefyd i’w drin fel olynydd â blaenoriaeth mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac

(c)os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord cymunedol.

21(1)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract wedi ei drosi, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth o ddisgrifiad sydd yng ngholofn 1 o Dabl 7,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan y ddarpariaeth sydd yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, ac

(c)os oedd deiliad y contract yn gymwys i olynu oherwydd y darpariaethau sydd yng ngholofn 3 o’r Tabl hwnnw.

TABL 7

Y MATH O DENANTIAETHY DDARPARIAETH FREINIOY DARPARIAETHAU CYMHWYSO
Tenantiaeth ddiogelAdran 89 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68)Adrannau 87(b) a 113(1)(b) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth ragarweiniolAdran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52)Adrannau 131(b) a 140(1)(b) o’r Ddeddf honno
Tenantiaeth israddAdran 143H o Ddeddf Tai 1996Adran 143P(1)(c) o’r Ddeddf honno

(2)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr, a

(b)os oedd deiliad y contract, cyn y diwrnod penodedig, wedi dod â hawl i’r denantiaeth sicr o dan baragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) (olyniaeth).

(3)Mae deiliad y contract o dan gontract wedi ei drosi i’w drin fel olynydd wrth gefn mewn perthynas â’r contract—

(a)os oedd y contract, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr,

(b)os oedd, cyn y diwrnod penodedig, wedi ei freinio yn neiliad y contract o dan adran 17 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) (olynu i denantiaeth sicr), ac

(c)os oedd y landlord o dan y contract, ar y diwrnod penodedig, yn landlord preifat.

Gofyniad i feddiannu annedd fel prif gartref o dan gontractau penodol wedi eu trosi

22(1)Mae is-baragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â chontract wedi ei drosi y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo fel pe bai’n ddarpariaeth atodol a ragnodwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 23.

(2)Rhaid i ddeiliad y contract (neu o leiaf un ohonynt, os oes mwy nag un) feddiannu’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract fel ei unig gartref neu ei brif gartref.

(3)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig—

(a)yn denantiaeth warchodedig neu denantiaeth statudol,

(b)yn denantiaeth ddiogel,

(c)yn denantiaeth sicr,

(d)yn denantiaeth ragarweiniol, neu

(e)yn denantiaeth isradd.

Contractau safonol rhagarweiniol

23(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol rhagarweiniol oherwydd paragraff 5.

(2)Mae cyfnod rhagarweiniol y contract yn dod i ben—

(a)os bu farw’r tenant cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os ceir digwyddiad ar ôl y diwrnod hwnnw a fyddai, oni bai am y Ddeddf hon, wedi peri i’r contract beidio â bod yn denantiaeth ragarweiniol o dan adran 133 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (olyniaeth),

ac nid yw adran 16(1)(b) o’r Ddeddf hon (trosi i gontract diogel) yn gymwys pan fo’r cyfnod rhagarweiniol yn dod i ben oherwydd yr is-baragraff hwn.

(3)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad ym mharagraff 1(7) o Atodlen 4 at ddyddiad cyflwyno’r contract yn gyfeiriad at y diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996.

(4)Mae paragraff 2 o Atodlen 4 (cyfnod rhagarweiniol pan fo contractau blaenorol) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at gontractau safonol rhagarweiniol yn gyfeiriadau at—

(a)tenantiaethau byrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tanynt yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol cofrestredig preifat, neu

(b)tenantiaethau rhagarweiniol.

(5)At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4 dyddiad cyflwyno tenantiaeth fyrddaliol sicr yr oedd y landlord oddi tani yn landlord cymdeithasol cofrestredig neu’n ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yw—

(a)y diwrnod yr oedd gan y tenant hawl i ddechrau meddiannu’r annedd, neu

(b)os na wnaed y denantiaeth â landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig, y diwrnod y daeth landlord cymdeithasol cofrestredig neu ddarparwr tai cymdeithasol preifat cofrestredig yn landlord.

(6)At ddibenion paragraff 2 o Atodlen 4 dyddiad cyflwyno tenantiaeth ragarweiniol yw’r diwrnod a oedd yn ddechrau’r cyfnod prawf o dan adran 125(2)(a) neu (b) o Ddeddf Tai 1996.

(7)Nid yw paragraff 2(5) a (6) o Atodlen 4 yn gymwys, ond mae unrhyw hysbysiad o estyniad a roddir mewn perthynas â’r contract wedi ei drosi o dan adran 125A o Ddeddf Tai 1996 yn cael effaith fel pe bai wedi ei roi o dan baragraff 3 o’r Atodlen honno.

Contract safonol ymddygiad gwaharddedig

24(1)Mae’r Ddeddf hon yn gymwys i gontract wedi ei drosi sy’n cael effaith fel contract safonol ymddygiad gwaharddedig oherwydd paragraff 6 fel pe bai—

(a)y gorchymyn israddio yn orchymyn o dan adran 116 (gorchymyn yn arddodi contract safonol cyfnodol),

(b)cyfeiriadau at ddyddiad meddiannu’r contract yn gyfeiriadau at y diwrnod y cafodd y gorchymyn israddio effaith, ac

(c)paragraffau 4 i 7 o Atodlen 7 (newid y cyfnod prawf) wedi eu hepgor.

(2)Y “gorchymyn israddio” yw—

(a)y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) neu adran 6A o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) yr oedd adran 20B o Ddeddf Tai 1988 yn gymwys o’i herwydd, neu

(b)y gorchymyn o dan adran 82A o Ddeddf Tai 1985 yr oedd adran 143A o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) yn gymwys o’i herwydd.

Y landlord yn terfynu’r contract

25Nid yw adrannau 173 i 180 (terfynu yn sgil hysbysiad y landlord) yn gymwys i gontract safonol cyfnodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr ond nid yn denantiaeth fyrddaliol sicr.

26(1)Nid yw adran 194 (cymal terfynu’r landlord) yn gymwys i’r contractau safonol cyfnod penodol a ganlyn (ac yn unol â hynny nid yw adrannau 195 i 201 wedi eu hymgorffori fel telerau contractau o’r fath).

(2)Contract safonol cyfnod penodol a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth ddiogel am gyfnod penodol.

(3)Contract safonol cyfnod penodol—

(a)a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr am gyfnod penodol, a

(b)nad yw’n gontract wedi ei eithrio.

(4)Mae contract yn gontract wedi ei eithrio pe gallai’r landlord, yn union cyn y diwrnod penodedig, fod wedi gwneud hawliad meddiant gan ddibynnu ar Sail 3 neu 4 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

27Mae Sail C o’r seiliau rheoli ystad (llety arbennig: elusennau) yn gymwys i gontract wedi ei drosi fel pe bai’r contract meddiannaeth wedi ei wneud ar y diwrnod penodedig.

Y landlord yn terfynu contract a oedd yn denantiaeth sicr: seiliau meddiant absoliwt ychwanegol

28(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr.

(2)Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 1, 2 neu 5 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50).

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract (yn unol ag adran 150) sy’n pennu’r Sail honno.

(4)Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

29(1)Mae’r paragraff hwn hefyd yn gymwys mewn perthynas â chontract wedi ei drosi a oedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn denantiaeth sicr.

(2)Caiff y landlord hawlio meddiant o’r annedd sy’n ddarostyngedig i’r contract gan ddibynnu ar Sail 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988 (p. 50)

(a)os bu farw’r tenant o dan y denantiaeth sicr cyn y diwrnod penodedig, a

(b)os yw’r denantiaeth sicr wedi disgyn o dan ewyllys y tenant neu o dan y rheolau diewyllysedd cyn y diwrnod penodedig, neu os yw’r contract wedi ei drosi yn disgyn felly ar ôl y diwrnod penodedig.

(3)Ond ni chaiff y landlord wneud hynny cyn diwedd y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r landlord yn rhoi hysbysiad adennill meddiant i ddeiliad y contract yn pennu’r Sail honno.

(4)Yn ddarostyngedig i adran 204 (hawliadau meddiant: pwerau’r llys) (sy’n gymwys fel pe bai is-adran (1)(a) yn cynnwys cyfeiriad at is-baragraff (3)), os yw’r llys wedi ei fodloni bod y Sail wedi ei phrofi rhaid iddo wneud gorchymyn adennill meddiant (yn ddarostyngedig i unrhyw amddiffyniad sydd ar gael ar sail hawliau Confensiwn deiliad y contract).

Tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig

30(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw annedd, yn union cyn y diwrnod penodedig, yn cael ei meddiannu fel cartref gan berson sy’n dresmaswr mewn perthynas â’r annedd honno.

(2)Mae adran 238 (tenantiaethau a thrwyddedau goblygedig)—

(a)yn gymwys i daliadau a wnaed gan y person cyn y diwrnod penodedig fel y mae’n gymwys i daliadau a wneir ganddo ar ôl y diwrnod penodedig, a

(b)yn gymwys fel pe bai diwedd y cyfnod perthnasol yn ddiwedd y cyfnod a grybwyllir yn adran 238(3) neu, os yw’n hwyrach, y diwrnod penodedig.

Y dyddiad meddiannu

31Y dyddiad meddiannu, mewn perthynas â chontract wedi ei drosi, yw’r diwrnod y daeth deiliad y contract i fod â hawl i feddiannu’r annedd o dan y denantiaeth neu’r drwydded a ddaeth yn gontract meddiannaeth ar y diwrnod penodedig.

Contractau meddiannaeth sy’n cymryd lle contractau eraill

32(1)Os oes, ar ôl i gontract wedi ei drosi ddod i ben, un neu ragor o gontractau pellach yn cymryd ei le, at ddibenion yr Atodlen hon (ac eithrio paragraff 28), mae’r contract sy’n cymryd ei le i’w drin fel pe bai (neu’r contractau sy’n cymryd ei le i’w trin fel pe baent) yr un denantiaeth neu drwydded â’r contract sydd wedi ei drosi.

(2)Mae’r canlynol yn gontractau sy’n cymryd lle contract arall.

(3)Contract meddiannaeth rhwng—

(a)deiliad contract a oedd, yn union cyn dyddiad meddiannu’r contract, yn ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi neu o dan gontract sy’n cymryd lle contract arall, a

(b)landlord a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn landlord o dan y contract wedi ei drosi neu o dan y contract sy’n cymryd lle contract arall,

sy’n ymwneud â’r un annedd (neu’r un annedd i raddau helaeth) â’r contract wedi ei drosi neu’r contract sy’n cymryd lle contract arall.

(4)Ond pan fo contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall yn gontract safonol cyfnod penodol, nid yw contract meddiannaeth sy’n bodoli yn sgil adran 184(2), neu sydd o fewn adran 184(6) (contractau pellach ar ddiwedd cyfnod penodol), yn gontract sy’n cymryd lle contract arall.

(5)Os yw contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall yn dod i ben o dan adran 12(3)(a) (contract safonol a fabwysiedir gan landlord cymunedol), y contract meddiannaeth sy’n codi o dan adran 12(3)(b).

(6)Os terfynir contract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall o dan adran 220 (cefnu), ac os yw’r llys o dan adran 222(3)(b) yn gorchymyn i’r landlord ddarparu llety arall addas, contract meddiannaeth a wneir yn unol â’r gorchymyn.

(7)Os yw’r llys o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad) yn gwneud gorchymyn i adennill meddiant o annedd sy’n ddarostyngedig i gontract wedi ei drosi neu gontract sy’n cymryd lle contract arall, contract meddiannaeth a wneir i ddarparu llety arall addas i ddeiliad y contract.

Pŵer i ddiwygio’r Atodlen

33Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Atodlen hon drwy reoliadau.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Dangos Nodiadau Eglurhaol ar gyfer Adrannau: Yn arddangos rhannau perthnasol o’r nodiadau esboniadol wedi eu cydblethu â chynnwys y ddeddfwriaeth.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill