- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Deddfwyd) - Cymraeg
Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ATODLEN 11 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 01 Mai 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Act (including any effects on those provisions):
(a gyflwynir gan adrannau 210 a 222)
1(1)Mae’r Atodlen hon yn gymwys at ddibenion—
(a)gorchymyn adennill meddiant o dan adran 210 (seiliau rheoli ystad), neu
(b)gorchymyn o dan adran 222(3)(b) (apêl yn dilyn meddiant am gefnu ar annedd).
(2)Yn yr Atodlen hon cyfeirir at yr annedd yr arferai deiliad y contract ei meddiannu neu y ceisir meddiant ohoni fel “yr annedd bresennol”, a chyfeirir at y contract meddiannaeth y mae neu yr oedd yr annedd honno’n ddarostyngedig iddo fel “y contract presennol”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 11 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I2Atod. 11 para. 1 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210, a
(b)os nad yw’r landlord o dan y contract presennol yn awdurdod tai lleol.
(2)Mae tystysgrif yr awdurdod tai lleol ar gyfer yr ardal y mae’r annedd bresennol wedi ei lleoli ynddi, yn tystio y bydd yr awdurdod yn darparu llety arall addas ar gyfer deiliad y contract erbyn dyddiad a bennir ar y dystysgrif, yn dystiolaeth ddigamsyniol y bydd llety arall addas ar gael iddo erbyn y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 11 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I4Atod. 11 para. 2 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 210 a naill ai—
(i)na chyflwynir tystysgrif o’r math y cyfeiri ati ym mharagraff 2(2) i’r llys, neu
(ii)mae’r landlord mewn perthynas â’r annedd bresennol yn awdurdod tai lleol, neu
(b)os yw’r Atodlen hon yn gymwys oherwydd adran 222.
(2)Mae llety yn addas—
(a)os yw i gael ei feddiannu gan ddeiliad y contract o dan gontract meddiannaeth sy’n rhoi [F1sicrwydd iddo o ran meddiannaeth] sy’n rhesymol gyfatebol i’r hyn y mae’r contract presennol yn ei roi, a
(b)os yw, ym marn y llys, yn rhesymol addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu (sydd i’w ddyfarnu yn unol â pharagraff 4).
(3)Os yw’r contract presennol yn ymwneud ag annedd ar wahân, nid yw llety yn addas oni bai ei fod yn annedd ar wahân.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 11 para. 3(2)(a) wedi eu hamnewid (7.6.2021) gan Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (asc 3), a. 19(3), Atod. 5 para. 11(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 11 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I6Atod. 11 para. 3 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
4(1)Rhaid i’r llys ddyfarnu a yw llety yn rhesymol addas mewn perthynas ag anghenion deiliad y contract a’i deulu yn unol â’r paragraff hwn.
(2)Rhaid i’r llys ystyried (ymysg pethau eraill)—
(a)anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran maint y llety,
(b)os yw’r landlord yn landlord preifat, anghenion deiliad y contract a’i deulu o ran cymeriad y llety,
(c)modd deiliad y contract a’i deulu,
(d)os yw deiliad y contract neu aelod o’i deulu yn gweithio neu’n derbyn addysg, pellter y llety o’r man (neu’r mannau) gwaith neu addysg,
(e)os yw agosrwydd at gartref unrhyw aelod o deulu deiliad y contract yn hanfodol i lesiant deiliad y contract neu’r aelod hwnnw o’i deulu, agosrwydd y llety at y cartref hwnnw,
(f)telerau’r contract presennol a thelerau’r contract meddiannaeth y mae’r llety i’w feddiannu oddi tano, ac
(g)os oedd y landlord yn darparu dodrefn/celfi o dan y contract presennol, pa un a yw dodrefn/celfi i’w darparu at ddefnydd deiliad y contract a’i deulu ac, os felly, natur y dodrefn/celfi hynny.
(3)Os yw’r landlord yn landlord cymunedol, rhaid i’r llys hefyd ystyried natur y llety y mae’n arfer gan y landlord ei ddyrannu i bersonau sydd ag anghenion tebyg.
(4)Os yw’r landlord yn landlord preifat, caiff y llys ystyried, fel dewis arall i’r materion yn is-baragraff (2)(a) i (c), pa un a yw’r llety yn debyg o ran rhent a maint i’r llety a ddarperir yn y gymdogaeth gan landlordiaid cymunedol ar gyfer personau cyffelyb.
(5)Ystyr “personau cyffelyb” yw’r rheini y mae eu hanghenion, o ran maint, yn debyg ym marn y llys i rai deiliad y contract a theulu deiliad y contract.
(6)At ddibenion is-baragraff (4) mae tystysgrif awdurdod tai lleol sy’n datgan—
(a)maint y llety a ddarperir gan yr awdurdod i ddiwallu anghenion personau sydd â theuluoedd o ba faint bynnag a bennir yn y dystysgrif, a
(b)swm y rhent a godir gan yr awdurdod am lety o’r maint hwnnw,
yn dystiolaeth ddigamsyniol o’r ffeithiau sydd wedi eu datgan felly.
(7)Wrth ystyried y materion yn is-baragraff (2)(f) ni chaiff y llys ystyried unrhyw un neu ragor o delerau’r contract meddiannaeth sy’n ymwneud â lletywyr ac isddeiliaid.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 11 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I8Atod. 11 para. 4 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
5Nid yw llety yn addas ar gyfer anghenion deiliad y contract a’i deulu pe byddai’r llety, o ganlyniad i’w feddiannu ganddynt, yn ffurfio annedd wedi ei gorlenwi at ddibenion Rhan 10 o Ddeddf Tai 1985 (p. 68) (gweler adran 324 o’r Ddeddf honno).
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 11 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I10Atod. 11 para. 5 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
6Mae dogfen sydd i bob golwg yn dystysgrif yr awdurdod tai lleol a enwir ar y dystysgrif, a ddyroddwyd at ddibenion yr Atodlen hon, ac a lofnodwyd gan y person priodol ar ran yr awdurdod—
(a)i’w derbyn fel tystiolaeth, a
(b)oni bai y dangosir i’r gwrthwyneb, i’w thrin fel tystysgrif o’r fath heb dystiolaeth bellach.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 11 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)
I12Atod. 11 para. 6 mewn grym ar 1.12.2022 gan O.S. 2022/906, ergl. 2
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Rhestrau you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys