Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Newidiadau dros amser i: RHAN 5

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 01/12/2022

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 05/08/2016. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) part yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, RHAN 5 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 06 Mehefin 2024. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 5LL+CDARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL

Yn ddilys o 01/12/2022

PENNOD 1LL+CTROSOLWG

102Trosolwg o’r RhanLL+C

(1)Nid yw Penodau 1 i 5 o’r Rhan hon ond yn gymwys i gontractau diogel, ac maent yn ymwneud ag—

(a)amrywio contractau diogel,

(b)cyd-ddeiliaid contract yn tynnu’n ôl,

(c)delio (hynny yw, cymryd lletywr a throsglwyddo’r contract), a

(d)arddodi contractau safonol ymddygiad gwaharddedig (pan fo’r landlord yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig).

(2)Mae Pennod 6 yn cynnwys darpariaeth sylfaenol ynghylch trosglwyddo contract diogel i berson sy’n ddeiliad contract o dan gontract diogel arall; mae’r ddarpariaeth sylfaenol hon yn gymwys i gontractau diogel y mae’r landlord oddi tanynt yn landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ddilys o 01/12/2022

PENNOD 2LL+CAMRYWIO CONTRACTAU

103AmrywioLL+C

(1)Ni chaniateir amrywio contract diogel ac eithrio—

(a)yn unol ag adrannau 104 i 107, neu

(b)drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(2)Rhaid i unrhyw amrywiad a wneir i gontract diogel (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad) fod yn unol ag adran 108.

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori is-adrannau (1)(b) a (2) o’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

104Amrywio’r rhentLL+C

(1)Caiff y landlord amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan gontract diogel drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(3)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd rhent newydd effaith ddiwethaf.

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae rhent yn daladwy oddi tano [, ac eithrio contract diogel sy’n denantiaeth cymdeithas dai].

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I4S. 104 in force at 1.12.2022 by S.I. 2022/906, art. 2

105Amrywio cydnabyddiaeth arallLL+C

(1)Pan fo cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy o dan gontract diogel, caniateir amrywio swm y gydnabyddiaeth—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)gan y landlord yn unol ag is-adrannau (2) i (4).

(2)Caiff y landlord roi hysbysiad i ddeiliad y contract sy’n nodi swm newydd o gydnabyddiaeth sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract a’r dyddiad a bennir fod yn llai na dau fis.

(4)Yn ddarostyngedig i hynny—

(a)caiff yr hysbysiad cyntaf bennu unrhyw ddyddiad, a

(b)ni chaiff hysbysiadau diweddarach bennu dyddiad sy’n gynharach na blwyddyn ar ôl y dyddiad pan gafodd swm newydd o gydnabyddiaeth effaith ddiwethaf.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae cydnabyddiaeth heblaw rhent yn daladwy oddi tano.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

106Amrywio telerau sylfaenolLL+C

(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract (yn ddarostyngedig i adran 108).

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

107Amrywio telerau atodol a thelerau ychwanegolLL+C

(1)Caniateir amrywio unrhyw un o delerau atodol neu delerau ychwanegol contract diogel (yn ddarostyngedig i adran 108)—

(a)drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract, neu

(b)wrth i’r landlord roi hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract.

(2)Cyn rhoi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord roi hysbysiad rhagarweiniol i ddeiliad y contract—

(a)yn hysbysu deiliad y contract fod y landlord yn bwriadu rhoi hysbysiad amrywio,

(b)yn nodi’r amrywiad arfaethedig ac yn hysbysu deiliad y contract o’i natur a’i effaith, ac

(c)yn gwahodd deiliad y contract i roi sylwadau ar yr amrywiad arfaethedig o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Rhaid i’r cyfnod a bennir roi cyfle rhesymol i ddeiliad y contract wneud sylwadau.

(4)Rhaid i’r hysbysiad amrywio bennu’r amrywiad y mae’n rhoi effaith iddo a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith.

(5)Ni chaiff y cyfnod rhwng y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad amrywio i ddeiliad y contract a’r dyddiad y mae’r amrywiad yn cael effaith fod yn llai na mis.

(6)Wrth roi hysbysiad amrywio rhaid i’r landlord hefyd roi i ddeiliad y contract unrhyw wybodaeth y mae’r landlord yn ei hystyried yn angenrheidiol er mwyn hysbysu deiliad y contract o natur ac effaith yr amrywiad.

(7)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

108Cyfyngiad ar amrywioLL+C

(1)Ni chaniateir amrywio unrhyw un o delerau sylfaenol contract diogel sy’n ymgorffori unrhyw un o’r darpariaethau sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddynt (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad).

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i’r darpariaethau sylfaenol a ganlyn—

(a)adran 103(1)(b) a (2) a’r adran hon,

(b)adran 45 (gofyniad i ddefnyddio cynllun blaendal),

(c)adran 52 (cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract meddiannaeth),

(d)adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall),

(e)adran 148 (terfynu a ganiateir),

(f)adran 149 (hawliadau meddiant),

(g)adran 155 (marwolaeth unig ddeiliad contract), ac

(h)adran 158 (sicrhau contract drwy ddatganiad ffug).

(3)Nid yw amrywiad i unrhyw deler sylfaenol arall (ac eithrio drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad) yn cael unrhyw effaith—

(a)oni bai, o ganlyniad i’r amrywiad—

(i)y byddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori heb ei haddasu, neu

(ii)na fyddai’r ddarpariaeth sylfaenol y mae’r teler yn ei hymgorffori wedi ei hymgorffori neu y byddai wedi ei hymgorffori ynghyd ag addasiadau iddi, ond F1... effaith hyn fyddai bod sefyllfa deiliad y contract yn gwella;

(b)pe byddai’r amrywiad (boed o fewn paragraff (a) ai peidio) yn golygu bod y teler sylfaenol yn anghydnaws â theler sylfaenol sy’n ymgorffori darpariaeth sylfaenol y mae is-adran (2) yn gymwys iddi.

(4)Nid yw amrywiad i un o delerau contract diogel yn cael unrhyw effaith pe byddai’n golygu bod un neu ragor o delerau’r contract yn anghydnaws â theler sylfaenol (oni bai yr amrywir y teler sylfaenol hwnnw hefyd yn unol â’r adran hon mewn ffordd a fyddai’n osgoi‘r anghydnawsedd).

(5)Nid yw is-adran (4) yn gymwys i amrywiad a wneir drwy neu o ganlyniad i ddeddfiad.

(6)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel; mae adran 20 yn darparu—

(a)bod rhaid ymgorffori’r adran hon, a

(b)na chaniateir ymgorffori’r adran hon ynghyd ag addasiadau iddi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

109Datganiad ysgrifenedig yn cofnodi amrywiadLL+C

(1)Os yw contract diogel yn cael ei amrywio yn unol â’r contract neu drwy neu o ganlyniad i unrhyw ddeddfiad, rhaid i’r landlord, cyn diwedd y cyfnod perthnasol, roi i ddeiliad y contract—

(a)datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau sy’n cael ei amrywio neu eu hamrywio, neu

(b)datganiad ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth fel y’i hamrywiwyd,

oni bai bod y landlord wedi rhoi hysbysiad o’r amrywiad yn unol ag adran 104, 105(2) i (4) neu 107(1)(b) a (2) i (6).

(2)Y cyfnod perthnasol yw’r cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod yr amrywir y contract.

(3)Ni chaiff y landlord godi ffi am ddarparu datganiad ysgrifenedig o dan is-adran (1).

(4)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

110Methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.LL+C

(1)Os yw’r landlord wedi methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 109 mae’r landlord yn atebol i dalu tâl digolledu i ddeiliad y contract o dan adran 87.

(2)Mae’r tâl digolledu yn daladwy mewn perthynas â’r dyddiad perthnasol a phob diwrnod ar ôl y dyddiad perthnasol—

(a)hyd y diwrnod y mae’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r teler neu’r telerau a amrywiwyd, neu o’r contract fel y’i hamrywiwyd, i ddeiliad y contract, neu

(b)os yw hynny’n gynharach, hyd ddiwrnod olaf y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau â’r dyddiad perthnasol.

(3)Mae llog yn daladwy ar y tâl digolledu os yw’r landlord wedi methu â rhoi datganiad ysgrifenedig i ddeiliad y contract ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b) neu cyn hynny.

(4)Mae’r llog yn dechrau cronni ar y diwrnod y cyfeirir ato yn is-adran (2)(b), ar y raddfa sy’n bodoli o dan adran 6 o Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998 (p. 20) ar ddiwedd y diwrnod hwnnw.

(5)Y dyddiad perthnasol yw’r dyddiad yr amrywiwyd y contract.

(6)Nid yw is-adrannau (1) i (5) yn gymwys os gellir priodoli methiant y landlord i gydymffurfio â’r gofyniad i weithred neu anwaith ar ran deiliad y contract.

(7)Os, o dan adran 109, yw’r landlord yn rhoi datganiad ysgrifenedig o’r contract fel y’i hamrywiwyd i ddeiliad y contract, mae adrannau 36 a 37 (datganiadau anghyflawn ac anghywir) yn gymwys i’r datganiad fel pe bai[F2, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd”].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

PENNOD 3LL+CCYD-DDEILIAID CONTRACT: TYNNU’N ÔL

Yn ddilys o 01/12/2022

111Tynnu’n ôlLL+C

(1)Caniateir i gyd-ddeiliad contract o dan gontract diogel dynnu’n ôl o’r contract drwy roi hysbysiad (“hysbysiad tynnu’n ôl”) i’r landlord.

(2)Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl bennu’r dyddiad y mae cyd-ddeiliad y contract yn bwriadu peidio â bod yn barti i’r contract (y “dyddiad tynnu’n ôl”).

(3)Rhaid i ddeiliad y contract roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract pan fydd yn rhoi’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r landlord; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.

(4)Rhaid i’r landlord roi rhybudd ysgrifenedig i gyd-ddeiliaid eraill y contract cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r landlord dderbyn yr hysbysiad tynnu’n ôl; a rhaid atodi copi o’r hysbysiad tynnu’n ôl i’r rhybudd.

(5)Mae’r cyd-ddeiliad contract yn peidio â bod yn barti i’r contract ar y dyddiad tynnu’n ôl.

(6)Mae hysbysiad a roddir i’r landlord gan un neu ragor (ond nid pob un) o gyd-ddeiliaid y contract sy’n honni ei fod yn hysbysiad o dan adran 163 (hysbysiad gan ddeiliad contract i derfynu contract) i’w drin fel hysbysiad tynnu’n ôl, ac mae’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad i’w drin fel y dyddiad tynnu’n ôl.

(7)Nid yw is-adran (3) yn gymwys i hysbysiad sy’n cael ei drin fel hysbysiad tynnu’n ôl oherwydd is-adran (6).

(8)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 111 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

112Tynnu’n ôl: pŵer i ragnodi terfynau amserLL+C

Rhaid i Weinidogion Cymru ragnodi darpariaethau atodol sy’n pennu’r cyfnod byrraf a ganiateir rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 111 i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 112 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I13A. 112 mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(a), Atod. Rhn. 1

Yn ddilys o 01/12/2022

PENNOD 4LL+CDELIO

LletywyrLL+C

113LletywyrLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 113 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

TrosglwyddoLL+C

114Trosglwyddo i olynydd posiblLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.

(2)Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i—

(a)olynydd posibl, neu

(b)os oes dau neu ragor o olynwyr posibl, yr holl olynwyr posibl sy’n dymuno cael eu cynnwys yn y trosglwyddiad.

(3)Os un deiliad contract yn unig sydd, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu deiliad y contract pe byddai deiliad y contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad.

(4)Os oes cyd-ddeiliaid contract, olynydd posibl yw person a fyddai, o dan adran 74, yn gymwys i olynu cyd-ddeiliad contract—

(a)pe byddai’r cyd-ddeiliad contract yn marw yn union cyn y trosglwyddiad, a

(b)ar adeg y farwolaeth, os cyd-ddeiliad y contract oedd unig ddeiliad y contract.

(5)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 114 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

115Trosglwyddo i olynydd posibl: cydsyniad y landlordLL+C

Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 114, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 115 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

PENNOD 5LL+CCONTRACTAU SAFONOL YMDDYGIAD GWAHARDDEDIG

116Gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedigLL+C

(1)Os yw’r landlord o dan gontract diogel yn landlord cymunedol neu’n elusen gofrestredig, caiff y landlord wneud cais i’r llys am orchymyn o dan yr adran hon ar y sail fod deiliad y contract wedi torri adran 55 (ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ymddygiad gwaharddedig arall).

(2)Effaith gorchymyn o dan yr adran hon yw—

(a)terfynu’r contract diogel o ddyddiad a bennir yn y gorchymyn, a

(b)os yw deiliad y contract yn parhau i feddiannu ar ôl y dyddiad penodedig, creu contract safonol cyfnodol y mae ei ddyddiad meddiannu ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn (ac sy’n gontract safonol cyfnodol hyd ddiwedd y cyfnod prawf).

(3)Ni chaiff y llys wneud gorchymyn o dan yr adran hon onid yw’n fodlon—

(a)bod deiliad y contract wedi torri adran 55,

(b)y byddai wedi gwneud gorchymyn adennill meddiant ar y sail yn adran 157 (tor contract) ar sail yr achos hwnnw o dor contract yn unig,

(c)y bydd y landlord yn sicrhau bod rhaglen o gymorth cymdeithasol ar gael i ddeiliad y contract, sydd â’r nod o atal ymddygiad gwaharddedig, a

(d)ei bod yn rhesymol gwneud y gorchymyn.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynglŷn â’r gweithgareddau a’r gwasanaethau (gan gynnwys gwasanaethau cymorth, cyngor a chwnsela) y caniateir eu cynnwys mewn rhaglen o gymorth cymdeithasol at ddibenion is-adran (3).

(5)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnodau prawf, ynghylch y weithdrefn ar gyfer cael gorchymyn o dan yr adran hon, ac ynghylch telerau contract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu o dan yr adran hon.

(6)Yn y Ddeddf hon, ystyr “contract safonol ymddygiad gwaharddedig” yw contract sy’n gontract safonol cyfnodol sy’n cael ei greu yn sgil gorchymyn o dan yr adran hon, ac nad yw ei gyfnod prawf wedi dod i ben eto.

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 116 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

I18A. 116(4) mewn grym ar 5.8.2016 at ddibenion penodedig gan O.S. 2016/813, ergl. 2(b), Atod. Rhn. 2

Yn ddilys o 01/12/2022

117Trosi i gontract diogelLL+C

(1)Mae contract safonol cyfnodol a ddaeth i fodolaeth yn sgil gorchymyn o dan adran 116 ac sy’n bodoli ar ddiwedd y cyfnod prawf—

(a)yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod prawf, a

(b)yn cael ei ddisodli gan gontract diogel sydd â dyddiad meddiannu sy’n dod yn union ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r cyfnod prawf yn dod i ben oherwydd paragraff 3(9) o Atodlen 7.

(3)Mae Atodlen 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau contract diogel sy’n bodoli yn sgil diwedd cyfnod prawf.

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 117 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ddilys o 01/12/2022

PENNOD 6LL+CDARPARIAETHAU NAD YDYNT OND YN GYMWYS I GONTRACTAU DIOGEL GYDA LANDLORDIAID CYMUNEDOL

118Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arallLL+C

(1)Caiff deiliad y contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol drosglwyddo’r contract fel y disgrifir yn yr adran hon, ond dim ond os yw’r landlord yn cydsynio.

(2)Caiff deiliad y contract drosglwyddo’r contract i berson—

(a)sydd, cyn y trosglwyddiad, yn ddeiliad contract o dan gontract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol, a

(b)a fydd, yn union cyn y trosglwyddiad, yn peidio â bod yn ddeiliad y contract o dan y contract a grybwyllir ym mharagraff (a).

(3)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract diogel y mae’r landlord oddi tano yn landlord cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 118 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

119Trosglwyddo i ddeiliad contract diogel arall: cydsyniad y landlordLL+C

Pan fo landlord yn gwrthod cydsynio neu’n cydsynio yn ddarostyngedig i amodau i drosglwyddiad a ddisgrifir yn adran 118, mae’r hyn sy’n rhesymol at ddibenion adran 84 (cydsyniad y landlord) i’w benderfynu gan roi sylw i Atodlen 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 119 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 257(2)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

You have chosen to open The Whole Act

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act as a PDF

The Whole Act you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open The Whole Act without Schedules as a PDF

The Whole Act without Schedules you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan

Y Ddeddf Gyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

You have chosen to open y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni

Y Ddeddf Gyfan heb Atodlenni you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.

Would you like to continue?

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill