Chwilio Deddfwriaeth

Deddf Tai (Cymru) 2014

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Tai (Cymru) 2014, RHAN 3. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 3LL+CSIPSIWN A THEITHWYR

Cwrdd ag anghenion lletyLL+C

101Asesu anghenion lletyLL+C

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol, ym mhob cyfnod adolygu, gynnal asesiad o anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.

(2)Wrth gynnal asesiad o dan is-adran (1) rhaid i awdurdod tai lleol ymgynghori â’r cyfryw bobl sy’n briodol yn ei farn ef.

(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adolygu” yw—

(a)y cyfnod hwnnw o flwyddyn sy’n dechrau pan ddaw’r adran hon i rym, a

[F1(b)y cyfnod o 6 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod ym mharagraff (a) i ben, a phob cyfnod dilynol o 5 mlynedd sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daeth y cyfnod adolygu blaenorol i ben.]

(4)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3)(b) drwy orchymyn.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 101 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I2A. 101 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(a)

102Adroddiad yn dilyn asesiadLL+C

(1)Ar ôl cynnal asesiad rhaid i awdurdod tai lleol baratoi adroddiad sydd—

(a)yn rhoi manylion ynghylch y modd y cynhaliwyd yr asesiad;

(b)yn cynnwys crynodeb o—

(i)yr ymgynghoriad a gynhaliodd mewn cysylltiad â’r asesiad, a

(ii)yr ymatebion (os y’u cafwyd) i’r ymgynghoriad hwnnw;

(c)yn rhoi manylion ynghylch yr anghenion llety a nodwyd gan yr asesiad.

(2)Rhaid i awdurdod tai lleol gyflwyno’r adroddiad i Weinidogion Cymru er mwyn iddynt gymeradwyo asesiad yr awdurdod.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo’r asesiad fel y’i cyflwynwyd;

(b)cymeradwyo’r asesiad gydag addasiadau;

(c)gwrthod yr asesiad.

(4)Os bydd Gweinidogion Cymru yn gwrthod yr asesiad, rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)diwygio ac ailgyflwyno ei asesiad i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (3); neu

(b)cynnal asesiad arall (yn yr achos hwn bydd adran 101(2) a’r adran hon yn gymwys eto, fel pe bai’r asesiad yn cael ei gynnal o dan adran 101(1)).

(5)Rhaid i awdurdod tai lleol gyhoeddi asesiad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 102 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I4A. 102 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(b)

103Dyletswydd i gwrdd ag anghenion asesedigLL+C

(1)Os yw asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn nodi anghenion o fewn ardal yr awdurdod mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, rhaid i’r awdurdod arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (y pŵer i ddarparu safleoedd ar gyfer cartrefi symudol) i’r graddau y bo’n angenrheidiol i gwrdd â’r anghenion hynny.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol ddarparu mewn safleoedd ar gyfer gosod cartrefi symudol, neu mewn cysylltiad â hwy, fannau gweithio a chyfleusterau ar gyfer cynnal gweithgareddau a wneir fel arfer gan Sipsiwn a Theithwyr.

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (1) at asesiad cymeradwy awdurdod tai lleol yn gyfeiriad at asesiad mwyaf diweddar yr awdurdod o anghenion llety a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 102(3).

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 103 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I6A. 103 mewn grym ar 16.3.2016 gan O.S. 2016/266, ergl. 2(a)

104Methiant i gydymffurfio â’r ddyletswydd o dan adran 103LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod awdurdod tai leol wedi methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd a osodir gan adran 103 caniateir iddynt gyfarwyddo’r awdurdod i arfer ei bwerau o dan adran 56 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i’r graddau y bo’n angenrheidiol er mwyn cwrdd â’r anghenion a nodwyd yn ei asesiad cymeradwy.

(2)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r awdurdod tai lleol y byddai’r cyfarwyddyd yn berthnasol iddo.

(3)Rhaid i awdurdod tai lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo.

(4)Mae’r canlynol yn berthnasol i gyfarwyddyd a roddir o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd pellach;

(c)gellir ei orfodi gan orchymyn gorfodi ar gais gan Weinidogion Cymru, neu ar eu rhan.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 104 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I8A. 104 mewn grym ar 16.3.2016 gan O.S. 2016/266, ergl. 2(b)

105Darparu gwybodaeth ar gaisLL+C

(1)Rhaid i awdurdod tai lleol ddarparu i Weinidogion Cymru y gyfryw wybodaeth (ar y cyfryw adegau) ag y cânt ei gwneud yn ofynnol mewn cysylltiad ag arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau o dan yr adran hon yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achos neilltuol.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 105 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I10A. 105 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(c)

106CanllawiauLL+C

(1)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon rhaid i awdurdod tai lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)rhoi canllawiau naill ai yn gyffredinol neu i awdurdodau o ddisgrifiadau penodedig;

(b)diwygio’r canllawiau drwy roi canllawiau pellach o dan yr adran hon;

(c)tynnu’r canllawiau yn ôl drwy roi canllawiau pellach neu drwy hysbysiad.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw ganllawiau neu hysbysiad o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 106 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I12A. 106 mewn grym ar 1.12.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/3127, ergl. 2(c), Atod. Rhn. 3

I13A. 106 mewn grym ar 25.2.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/380, ergl. 2(d)

107Dyletswyddau mewn perthynas â strategaethau taiLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys lle bo’n ofynnol o dan adran 87 of Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i awdurdod tai lleol fod â strategaeth mewn perthynas â chwrdd ag anghenion llety Sipsiwn a Theithwyr sy’n preswylio yn ei ardal neu sy’n cyrchu yno.

(2)Rhaid i’r awdurdod tai lleol—

(a)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth baratoi ei strategaeth;

(b)ystyried y strategaeth wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys swyddogaethau sy’n arferadwy heblaw fel awdurdod tai lleol).

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 107 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I15A. 107 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(e)

CyffredinolLL+C

108DehongliLL+C

Yn y Rhan hon—

  • mae “anghenion llety” (“accommodation needs”) yn cynnwys anghenion mewn perthynas â darparu safleoedd lle mae modd gosod cartrefi symudol, ond nid yw’n gyfyngedig iddynt;

  • mae gan “cartref symudol” (“mobile home”) yr ystyr a roddir gan adran 60 o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013;

  • ystyr “Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsies and Travellers”) yw—

    (a)

    personau sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—

    (i)

    personau sydd, ar sail eu hanghenion addysg, eu hanghenion iechyd neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg, anghenion iechyd neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol, a

    (ii)

    aelodau o grŵp trefnedig o siwemyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio), a

    (b)

    unrhyw bersonau eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 108 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I17A. 108 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(f)

109Pŵer i ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a TheithwyrLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio’r diffiniad o Sipsiwn a Theithwyr yn adran 108 drwy—

(a)ychwanegu disgrifiad o bersonau;

(b)addasu disgrifiad o bersonau;

(c)dileu disgrifiad o bersonau.

(2)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon hefyd wneud ba bynnag ddiwygiadau i Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 ag y bydd Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn angenrheidiol neu’n briodol o ganlyniad i newid i’r diffiniad a grybwyllir yn is-adran (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 109 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I19A. 109 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(g)

110Diwygiadau canlyniadolLL+C

Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn gwneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Rhan hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 110 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 145(3)

I21A. 110 mewn grym ar 25.2.2015 gan O.S. 2015/380, ergl. 2(h)

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Nodiadau Esboniadol

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the National Assembly for Wales.

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill