Adran 125 – Cyfarwyddiadau
224.Rhaid i awdurdod tai lleol y rhoddir iddo, neu i unrhyw un o’i swyddogion, gyfarwyddyd neu arweiniad gydymffurfio ag ef. Caniateir i gyfarwyddiadau neu arweiniadau gael eu rhoi mewn cysylltiad â phwerau neu ddyletswyddau sy’n arferadwy fel rheol yn ddarostyngedig i farn yr awdurdod neu farn ei swyddogion. Er enghraifft, ni chaiff pŵer a roddir i awdurdod fod yn arferadwy ond os yw’r awdurdod wedi ei fodloni y byddai ei arfer yn debyg o sicrhau canlyniad penodol. Os câi awdurdod ei gyfarwyddo i arfer y pŵer gan y Gweinidogion, byddai’n rhaid iddo arfer y pŵer ni waeth beth fo’i farn am debygrwydd sicrhau’r canlyniad o dan sylw. Gall cyfarwyddiadau a roddir o dan y Rhan hon gael eu hamrywio neu eu dirymu gan gyfarwyddyd diweddarach a gellir eu gorfodi drwy orchymyn gorfodi ar gais Gweinidogion Cymru.