Adran 57 – A yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety
120.Nid yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety os yw’n gosod person neu aelod o aelwyd y person hwnnw mewn perygl o gael ei gam-drin. Mae is-adran (2) yn esbonio bod “aelod o aelwyd y person” yn golygu rhywun sy’n preswylio fel arfer gyda’r person hwnnw fel aelod o deulu’r person neu berson arall y gellid disgwyl yn rhesymol iddo fyw gyda’r person hwnnw. Cyfeiriodd Deddf Tai 1996 at drais (“violence”); mae hynny wedi ei newid bellach i gamdriniaeth (“abuse”) er mwyn egluro na ddylid cyfyngu’r term i drais corfforol (gweler adran 58).
121.Wrth benderfynu a yw’n rhesymol parhau i feddiannu llety, neu a fyddai wedi bod yn rhesymol parhau i’w feddiannu pan fo meddiannaeth person wedi dod i ben, caiff yr awdurdod tai lleol ystyried yr amgylchiadau cyffredinol sy’n bodoli. Yr amgylchiadau yw’r rhai mewn perthynas â thai yn ardal yr awdurdod tai lleol y mae person wedi gwneud cais iddo am gymorth i sicrhau llety ond rhaid i’r awdurdod ystyried hefyd p’un a yw’r llety yn fforddiadwy i’r person hwnnw ai peidio (is-adran (3)). Caiff Gweinidogion Cymru bennu amgylchiadau eraill lle y bydd yn cael ei ystyried yn rhesymol neu’n afresymol i barhau i feddiannu llety a materion eraill sydd i’w hystyried neu eu diystyru.