Adran 67 – Amgylchiadau pan fo‘r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben
140.Nodir yr amgylchiadau pan fo’r ddyletswydd yn adran 66 yn dod i ben yn is-adrannau (2), (3), neu (4). Mae’r rhain yn ymdrin â’r achosion a ganlyn:
pan fo’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd wedi dod yn ddigartref;
pan fo’r awdurdod yn fodlon nad yw’r ceisydd bellach o dan fygythiad o ddigartrefedd a bod llety addas yn debyg o fod ar gael i’r ceisydd am chwe mis o leiaf; neu
pan fo’r awdurdod yn fodlon bod y ceisydd, ar ôl cael ei hysbysu gan yr awdurdod am ganlyniadau posibl gwrthod neu dderbyn y cynnig, yn gwrthod cynnig o lety y mae’r awdurdod o’r farn ei fod yn addas i’r ceisydd ac sy’n debyg o fod ar gael i’r ceisydd ei feddiannu am 6 mis o leiaf.
141.Mae adran 79 yn nodi amgylchiadau eraill pan y gallai’r ddyletswydd yn adran 66 ddod i ben. Er enghraifft, pan fo camgymeriad wedi ei wneud am ddyletswydd i geisydd, pan fo ceisydd yn tynnu ei gais yn ôl, neu mewn achosion pan fo ceisydd yn methu, a hynny’n afresymol, â chydweithredu â’r awdurdod mewn cysylltiad â helpu i sicrhau nad yw’r ceisydd yn dod yn ddigartref.