Rhan 3 – Safonau ar gyfer tai cymdeithasol
266.Mae’r Rhan hon yn diwygio adran 24 o Ddeddf Tai 1985 i ddileu is-adrannau (3) a (4), sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol, wrth osod rhenti rhesymol, roi sylw i’r egwyddor y dylai’r rhenti ar gyfer tenantiaeth neu feddiannaeth o’i dai fod at ei gilydd yn gymesur â rhenti yn y sector preifat. Rhaid i awdurdod tai lleol, wrth osod rhenti rhesymol o dan adran 24 o Ddeddf Tai 1985, gydymffurfio â safonau ynglŷn â ffioedd rhent neu ffioedd gwasanaeth a osodir o dan adran 111 a chanllawiau perthnasol a ddyroddir o dan adran 112 o’r Ddeddf hon.
267.O ganlyniad i ddiwygiad i Ddeddf Tai 1996, caniateir ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gydymffurfio â rheolau a bennir mewn safonau a osodir o dan adran 33A o Ddeddf 1996. Caiff Gweinidogion Cymru adolygu a thynnu’n ôl ganllawiau ar y safonau. Rhaid iddynt gyhoeddi unrhyw ganllawiau a ddyroddir. Rhaid iddynt ymgynghori hefyd wrth osod, adolygu neu dynnu’n ôl safonau ac wrth osod, adolygu neu dynnu’n ôl unrhyw ganllawiau.