Adran 25 – Dirymu trwydded
54.Gall trwydded gael ei dirymu gan awdurdod trwyddedu mewn amgylchiadau penodol. Caiff wneud hyn os yw un o amodau’r drwydded wedi ei dorri, os nad yw’r awdurdod yn fodlon mwyach bod deiliad y drwydded yn berson addas a phriodol, os yw deiliad y drwydded, heb esgus rhesymol, wedi methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd i ddiweddaru gwybodaeth o dan adran 23, neu os yw deiliad y drwydded a’r awdurdod trwyddedu ill dau wedi cytuno y dylai’r drwydded gael ei dirymu.
55.Cyn dirymu trwydded, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded am ei fwriad i wneud hynny a’r rhesymau dros ei dirymu. Rhaid iddo ganiatáu digon o amser i ddeiliad y drwydded gyflwyno sylwadau. Y cyfnod a ganiateir i ddeiliad y drwydded gyflwyno sylwadau yw 21 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod yr hysbyswyd deiliad y drwydded am fwriad yr awdurdod i ddirymu’r drwydded. Ond nid yw’r ddyletswydd i ganiatáu i ddeiliad trwydded gael cyfle i gyflwyno sylwadau yn gymwys pan fo deiliad y drwydded wedi cytuno i’r dirymiad neu os yw’r awdurdod o’r farn bod amgylchiadau eithriadol sy’n cyfiawnhau dirymu trwydded yn ddi-oed.
56.Ar ôl dirymu trwydded, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu deiliad y drwydded am y dirymu a’r rhesymau dros wneud hynny. Os nad yw deiliad trwydded wedi cydsynio â’r dirymiad, rhaid i’r awdurdod ddarparu gwybodaeth am hawliau deiliad y drwydded i apelio yn erbyn y penderfyniad. Y cyfnod apelio yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y dyddiad yr hysbyswyd deiliad y drwydded am benderfyniad yr awdurdod, fel a nodir yn adran 27(3)(a). Mae’r dirymiad yn cymryd effaith yn unol â’r dyddiad a benderfynir gan is-adran (5).
57.Pan fydd trwydded landlord wedi ei dirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu tenantiaid neu feddianwyr eiddo cofrestredig y landlord hwnnw sydd ar rent. Pan fydd trwydded person i ymgymryd â gwaith gosod neu waith rheoli eiddo ar ran landlord wedi ei dirymu, rhaid i’r awdurdod trwyddedu hysbysu’r landlord a benododd y person. Pe bai trwydded landlord yn cael ei dirymu, byddai angen i’r landlord drefnu bod asiant awdurdodedig yn gwneud y gwaith gosod a’r gwaith rheoli eiddo ar ran y landlord.