Adran 19 – Gofynion cais am drwydded
41.Rhaid gwneud cais am drwydded yn unol ag adrannau 6, 7, 9 neu 11 ar y ffurf sy’n ofynnol gan yr awdurdod; rhaid gyrru gydag ef unrhyw wybodaeth y bydd Gweinidogion Cymru yn ei phennu drwy reoliadau; rhaid gyrru gydag ef unrhyw wybodaeth arall sy’n ofynnol gan yr awdurdod; a rhaid gyrru gydag ef y ffi sy’n ofynnol (fel y’i pennir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru). Cyn rhoi trwydded, rhaid i’r awdurdod gymryd camau i fodloni ei hun bod y ceisydd yn berson addas a phriodol (gweler adran 20) a bod y gofynion ynglŷn â hyfforddiant, fel y’u nodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru o dan is-adran (2)(b), wedi eu bodloni neu y byddent yn cael eu bodloni.
42.Mae adran 19(3) yn nodi’r hyn y caiff rheoliadau o dan 19(2)(b), gynnwys. Nid yw’r rhestr a nodir yn yr is-adran hon yn gynhwysfawr a chaiff y rheoliadau gynnwys pethau eraill. Caniateir gwneud rheoliadau i awdurdodi awdurdod trwyddedu i bennu gofynion mewn perthynas â chynnwys hyfforddiant. Caniateir i reoliadau gael eu gwneud i ffioedd gael eu codi i gynnwys awdurdodi darparwyr hyfforddiant gan yr awdurdod trwyddedu neu gymeradwyo cyrsiau hyfforddi. Caiff yr hyfforddiant gynnwys, ymhlith pethau eraill, rwymedigaethau statudol landlordiaid a thenantiaid, y berthynas gontractiol, rôl asiant, a’r arferion gorau mewn gwaith gosod a gwaith rheoli eiddo