Adran 11 – Gofyniad i asiantau fod yn drwyddedig i ymgymryd â gwaith rheoli eiddo
22.Mae person sy’n gweithredu ar ran landlord ac sy’n ymgymryd â gwaith rheoli eiddo heb drwydded, a heb esgus rhesymol am beidio â meddu ar drwydded, yn cyflawni trosedd ac yn agored ar gollfarn i ddirwy, nad yw wedi ei chyfyngu gan unrhyw lefelau ar y raddfa safonol, ac y caiff ei swm felly ei benderfynu gan y llys ynadon.