Adran 171 — Cyfraniadau tuag at wariant gan awdurdodau lleol
641.Mae adran 171 yn darparu y caiff unrhyw awdurdod lleol neu unrhyw ymgymerwr statudol gyfrannu at wariant yr eir iddo gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall wrth arfer, neu mewn cysylltiad ag arfer, swyddogaethau penodol o dan Ran 3 (gan gynnwys swyddogaethau pan gymhwysir y Rhan honno i ardal gadwraeth gan adran 163). Mae pŵer o’r fath yn debygol o gael ei arfer pan fydd awdurdod cynllunio yn arfer swyddogaeth mewn ffordd sydd o fudd i awdurdod arall neu ymgymerwr statudol arall, a allai gyfrannu at y costau yr eir iddynt i gydnabod y ffaith honno.
642.Mae is-adran (3) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud cyfraniad, neu ei gwneud yn ofynnol i gyfraniad gael ei wneud, at gost digollediad sy’n daladwy gan awdurdod cynllunio neu awdurdod lleol arall, o ganlyniad i unrhyw beth a wneir o dan Benodau 1 i 4 o Ran 3 — gan gynnwys unrhyw beth a wneir o dan Benodau 2 a 4 fel y’u cymhwysir i ardaloedd cadwraeth gan adran 163.
643.Yn y lle cyntaf, caiff Gweinidogion Cymru gyfrannu at gost digollediad os bydd y digollediad yn codi o ganlyniad i rywbeth a wneir yn gyfan gwbl neu’n rhannol er budd gwasanaeth a ddarperir gan Weinidogion Cymru. Caiff Gweinidogion Cymru hefyd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol arall wneud cyfraniad rhesymol tuag at dalu digollediad os yw’r awdurdod hwnnw wedi elwa ar y camau a arweiniodd at y digollediad.
644.Mae is-adrannau (4) i (6) yn darparu ar gyfer digollediad pan ddaw cytundeb partneriaeth adeilad rhestredig, neu ddarpariaeth mewn cytundeb o’r fath, i ben. Er y caiff mwy nag un awdurdod cynllunio fod yn barti i gytundeb, telir unrhyw ddigollediad gan yr awdurdod sy’n gwneud y gorchymyn terfynu o dan adran 115. Fodd bynnag, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r awdurdodau eraill sy’n barti i gytundeb o’r fath i ad-dalu’r awdurdod a dalodd y digollediad, yn gyfan gwbl neu’n rhannol. Dim ond ar ôl ymgynghori â’r holl awdurdodau cynllunio sy’n bartïon i’r cytundeb, neu a oedd yn bartïon i’r cytundeb, y caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd o’r fath.