Adran 71 — Trin a diogelu darganfyddiadau
232.Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer trin a diogelu unrhyw wrthrychau o ddiddordeb archaeolegol neu hanesyddol a gymerir i warchodaeth dros dro gan berson wrth ymgymryd â’r gweithgareddau a grybwyllir yn is-adran 1(a) i (c).
233.Mae’r pŵer hwn yn caniatáu i archaeolegwyr ac arbenigwyr canfyddiadau, sy’n gweithredu ar ran awdurdod priodol fel y’i diffinnir yn is-adran (4), ddiogelu a dadansoddi unrhyw wrthrychau a gaiff eu hadennill yn briodol. Mae gwrthrychau o’r fath o werth archaeolegol a hanesyddol ynddynt eu hunain ond gallant hefyd ddarparu gwybodaeth werthfawr am natur ac oed yr heneb o ddiddordeb hanesyddol arbennig y maent yn deillio ohoni. Gallant gynorthwyo Gweinidogion Cymru ac awdurdodau lleol i arfer eu cyfrifoldebau a’u pwerau o dan y Rhan hon.
234.Mae is-adran (5) yn egluro nad yw’r adran hon yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan y Goron o dan Ddeddf Trysorau 1996 (p. 24) (“