Search Legislation

Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

Legislation Crest

Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023

2023 dsc 2

Deddf gan Senedd Cymru i wahardd cyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol, i alluogi gwahardd cyflenwi cynhyrchion plastig untro ychwanegol, ac at ddibenion cysylltiedig.

[6 Mehefin 2023]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Gwaharddiad ar gyflenwi cynhyrchion plastig untro penodol

1Cysyniadau allweddol: “cynnyrch plastig”, “untro” a “plastig”

(1)Mae’r adran hon yn diffinio cysyniadau allweddol penodol at ddibenion y Ddeddf hon.

(2)Ystyr “cynnyrch plastig” yw cynnyrch—

(a)y mae ei holl brif gydrannau strwythurol, neu unrhyw un neu ragor o’r prif gydrannau hynny, wedi ei wneud o blastig yn gyfan gwbl neu’n rhannol, neu

(b)sydd â leinin neu araen sydd wedi ei gwneud o blastig yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

(3)Ystyr “untro”, mewn perthynas â chynnyrch plastig, yw cynnyrch nad yw wedi ei ddylunio neu ei weithgynhyrchu i’w ddefnyddio at y diben y’i dyluniwyd neu y’i gweithgynhyrchwyd ar ei gyfer fwy nag unwaith (neu ar fwy nag un achlysur) cyn ei waredu.

(4)Ystyr “plastig” yw deunydd ar ffurf polymer, ac eithrio adlyn, paent neu inc, ac mae’n cynnwys deunydd ar ffurf polymer‍ sydd â sylweddau eraill wedi eu hychwanegu ato.

(5)Yn is-adran (4), o ran y cyfeiriad at “polymer”—

(a)mae’n golygu polymer sy’n gallu gweithredu fel prif gydran strwythurol cynnyrch;

(b)nid yw’n cynnwys polymer naturiol nad yw wedi ei addasu yn gemegol.

(6)At ddibenion is-adran (3), ystyrir bod bag siopa wedi ei ddylunio i’w ddefnyddio i gludo nwyddau fwy nag unwaith cyn ei waredu oni bai ei fod wedi ei wneud o ffilm blastig o ddim mwy na 49 micron o drwch (ac os felly caiff ei ystyried yn gynnyrch plastig untro).

2Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig

(1)At ddibenion y Ddeddf hon, mae cynnyrch plastig untro wedi ei wahardd—

(a)os yw’n gynnyrch a restrir yng ngholofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen, a

(b)os nad yw unrhyw esemptiad mewn cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw yn gymwys mewn cysylltiad‍ â’r cynnyrch hwnnw.

(2)Yn y Ddeddf hon cyfeirir at gynnyrch sy’n dod o fewn is-adran (1) fel “cynnyrch plastig untro gwaharddedig”.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi canllawiau ynghylch—

(a)y cynhyrchion plastig untro sydd wedi eu gwahardd o dan y Ddeddf hon;

(b)cymhwyso unrhyw esemptiadau a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen

3Cynhyrchion plastig untro gwaharddedig: pŵer i ddiwygio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Atodlen—

(a)i ychwanegu cynnyrch at golofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1, neu i ddileu cynnyrch o’r golofn honno;

(b)i ychwanegu esemptiad at golofn 2 o’r Tabl ym mharagraff 1, neu i ddileu esemptiad o’r golofn honno, neu i ddiwygio esemptiad yn y golofn honno;

(c)i ychwanegu diffiniad at baragraff 2, neu i ddileu diffiniad o’r paragraff hwnnw, neu i ddiwygio diffiniad yn y paragraff hwnnw.

(2)Cyn gwneud rheoliadau o dan yr adran hon rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)awdurdodau lleol;

(b)Corff Adnoddau Naturiol Cymru ac unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ymwneud â hybu diogelu’r amgylchedd yng Nghymru;

(c)y personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau cynhyrchwyr neu gyflenwyr cynhyrchion plastig untro yng Nghymru;

(d)y personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn cynrychioli buddiannau pobl sydd â nodwedd warchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (p.15), ac y gall y rheoliadau gael effaith benodol arnynt am y rheswm hwnnw;

(e)y personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

4Pŵer i ddiwygio: dyletswyddau sy’n ymwneud â datblygu cynaliadwy ac adrodd

(1)Wrth ystyried pa un ai i arfer y pŵer yn adran 3, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried eu dyletswydd i—

(a)hybu datblygu cynaliadwy o dan adran 79(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a

(b)ymgymryd â datblygu cynaliadwy o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2).

(2)Yn yr adroddiad y mae’n ofynnol iddynt ei gyhoeddi o dan adran 79(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rhaid i Weinidogion Cymru nodi gwybodaeth am eu hystyriaeth ynghylch pa un ai i arfer y pŵer yn adran 3 gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i’w hystyriaeth ynghylch pa un ai—

(a)i ychwanegu‍ weips a bagiau bach o saws at golofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen;

(b)i ddileu esemptiad o golofn 2 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen, neu ddiwygio esemptiad yn y golofn honn‍o mewn cysylltiad â chwpanau, cynhwysyddion cludfwyd a chaeadau ar gyfer y cynhyrchion hyn nad ydynt wedi eu gwneud o bolystyren.

Trosedd

5Y drosedd o gyflenwi cynhyrchion plastig untro gwaharddedig

(1)Mae person o ddisgrifiad y cyfeirir ato yn is-adran (2) (“P”) yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw—

(a)yn cyflenwi (ynglŷn â hynny gweler is-adran (3)) gynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr sydd yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys trefnu i ddanfon y cynnyrch at ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru;

(b)yn cynnig mewn mangre yng Nghymru (ynglŷn â hynny gweler is-adran (4)) cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig i ddefnyddiwr.

(2)Y disgrifiadau o berson a all gyflawni trosedd o dan yr adran hon yw—

(a)corff corfforedig (gan gynnwys corff sy’n arfer unrhyw swyddogaeth o natur gyhoeddus);

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig;

(d)person sy’n gweithredu fel unig fasnachwr.

(3)Mae P yn cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig os yw P, neu unrhyw berson sy’n atebol i P—

(a)yn gwerthu’r cynnyrch, neu

(b)yn darparu’r cynnyrch am ddi‍m.

(4)Mae P yn cynnig cyflenwi cynnyrch plastig untro gwaharddedig os yw P, neu unrhyw berson sy’n atebol i P—

(a)yn arddangos y cynnyrch yn y fangre, neu

(b)fel arall yn cadw’r cynnyrch yn y fangre yn y fath fodd fel ei fod yn hygyrch i ddefnyddiwr, neu ar gael i ddefnyddiwr, yn y fangre.

(5)Mae person yn atebol i P—

(a)os yw’r person hwnnw—

(i)yn gyflogai i P,

(ii)â chontract ar gyfer gwasanaethau gyda P,

(iii)yn asiant i P, neu

(iv)fel arall yn ddarostyngedig i reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P, a

(b)os yw’r person hwnnw—

(i)yn gweithredu yng nghwrs busnes, crefft neu broffesiwn P,

(ii)yn gweithredu mewn perthynas ag arfer swyddogaethau P gan P,

(iii)yn gweithredu mewn perthynas ag amcanion neu ddibenion P, neu

(iv)fel arall yn gweithredu o dan reoli, rheolaeth neu oruchwyliaeth P.

(6)Pa‍n ddangosir bod P wedi trefnu i ddanfon cynnyrch at ddefnyddiwr mewn cyfeiriad yng Nghymru cymerir bod y cynnyrch wedi ei gyflenwi gan P i’r defnyddiwr hwnnw hyd yn oed os (am ba reswm bynnag)—

(a)danfonwyd y cynnyrch i gyfeiriad gwahanol, neu

(b)na ddanfonwyd y cynnyrch i unrhyw gyfeiriad hysbys.

(7)Mewn achos am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad i P ddangos bod P wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd.

(8)Cymerir bod P wedi dangos bod P wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy ac wedi cymryd pob rhagofal rhesymol i osgoi cyflawni’r drosedd—

(a)os dygir tystiolaeth ddigonol o hyn i godi mater yn ei gylch, a

(b)os na phrofir i’r gwrthwyneb y tu hwnt i amheuaeth resymol.

(9)Mewn achos am drosedd o dan is-adran (1), bydd honiad bod cynnyrch yn gynnyrch plastig untro‍ o fath a restrir yng ngholofn 1 o’r Tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen yn cael ei dderbyn fel ei fod wedi ei brofi yn absenoldeb tystiolaeth i’r gwrthwyneb.

(10)Pan gyflenwir dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, neu pan gynigir cyflenwi dau neu ragor o gynhyrchion plastig untro gwaharddedig, gyda’i gilydd, at ddibenion is-adran (1) mae hyn i’w drin fel un weithred gyflenwi, neu gynnig i gyflenwi, cynnyrch plastig untro gwaharddedig.

(11)Yn‍ yr adran hon, ystyr “defnyddiwr” yw unigolyn sy’n gweithredu at ddibenion sy’n gyfan gwbl neu’n bennaf y tu allan i grefft, busnes neu broffesiwn yr unigolyn hwnnw (pa un ai’r unigolyn a brynodd y cynnyrch ai peidio).

6Trosedd: dull treial a chosb

Mae person sy’n euog o drosedd o dan adran 5 yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gorfodi

7Camau gorfodi gan awdurdod lleol

(1)Caiff awdurdod lleol—

(a)ymchwilio i gwynion mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 yr honnir eu bod wedi eu cyflawni yn ei ardal;

(b)dwyn erlyniadau mewn cysylltiad â throseddau o dan adran 5 a gyflawnwyd yn ei ardal;

(c)cymryd unrhyw gamau eraill gyda’r nod o leihau mynychder troseddau o dan adran 5 yn ei ardal.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn gyfeiriadau at unrhyw berson a awdurdodir gan awdurdod lleol at ddibenion y Ddeddf hon.

8Pŵer i wneud pryniannau prawf

Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol wneud y pryniannau hynny a’r trefniadau hynny, a sicrhau y darperir y gwasanaethau hynny, y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arfer swyddogaethau’r awdurdod lleol o dan y Ddeddf hon.

9Pŵer mynediad

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre ar unrhyw adeg resymol—

(a)os oes gan y swyddog seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw trosedd o’r fath wedi ei chyflawni.

(2)Nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre‍ breswyl.

(3)Ni chaiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol fynd i fangre drwy rym o dan yr adran hon.

(4)Cyn mynd i fangre o dan yr adran hon rhaid i swyddog awdurdodedig, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos tystiolaeth ddogfennol o’r awdurdodiad y cyfeirir ato yn adran 7(2).

(5)At ddibenion yr adran hon ac adrannau 10 ac 11, ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

10Pŵer mynediad: mangreoedd preswyl

(1)Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant yn awdurdodi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i fynd i fangre‍ breswyl, drwy rym os oes angen, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol, a

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r drosedd honno wedi ei chyflawni.

(2)Mae’r warant yn parhau i fod mewn grym hyd ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

11Pŵer mynediad: amgylchiadau eraill pan fo gwarant yn angenrheidiol

(1)Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant sy’n awdurdodi swyddog awdurdodedig awdurdod lleol i fynd i fangre, ac eithrio mangre‍ breswyl, drwy rym os oes angen, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod seiliau rhesymol dros gredu bod trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni yn ardal yr awdurdod lleol,

(b)ei bod yn angenrheidiol mynd i’r fangre at ddiben canfod a yw’r drosedd honno wedi ei chyflawni, ac

(c)bod gofyniad a nodir yn is-adran (2) neu (3) wedi ei fodloni.

(2)Y gofyniad yw—

(a)bod gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)bod hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon wedi ei roi i’r meddiannydd, neu i berson yr ymddengys yn rhesymol i’r awdurdod lleol ei fod yn ymwneud â rheoli’r fangre.

(3)Y gofyniad yw bod gofyn am fynd i’r fangre, neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan yr adran hon, yn debygol o danseilio diben y mynediad.

(4)Mae’r warant yn parhau mewn grym hyd ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

12Pwerau mynediad: atodol

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, fynd ag unrhyw bersonau eraill ac unrhyw gyfarpar y mae’r swyddog yn ystyried eu bod yn briodol.

(2)Mae’r pwerau mynediad sy’n arferadwy o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

(3)Os yw meddiannydd mangre yn bresennol ar yr adeg y mae’r swyddog awdurdodedig yn ceisio gweithredu gwarant o dan adran 10 neu 11 a mynd i’r fangre, rhaid i’r swyddog—

(a)hysbysu’r meddiannydd ynghylch enw’r swyddog;

(b)cyflwyno tystiolaeth ddogfennol i’r meddiannydd o awdurdodiad y swyddog;

(c)cyflenwi copi o’r warant i’r meddiannydd.

(4)Os nad yw mangre y mae swyddog awdurdodedig wedi ei awdurdodi i fynd iddi gan warant o dan adran 10 neu 11 wedi ei meddiannu, neu os yw’r meddiannydd yn absennol dros dro, yna wrth adael y fangre rhaid i’r swyddog ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan aeth y swyddog iddi.

13Pŵer arolygu

(1)Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n mynd i fangre o dan adran 9, 10 neu 11, neu yn rhinwedd yr adrannau hynny, wneud unrhyw un neu ragor o’r canlynol os yw’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni—

(a)cynnal arolygiadau ac archwiliadau yn y fangre;

(b)ei gwneud yn ofynnol cyflwyno unrhyw beth yn y fangre, ei arolygu, a chymryd a chadw samplau ohono neu echdynion ohono am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(c)cymryd meddiant o unrhyw beth yn y fangre, a’i gadw am gyhyd ag y mae’r swyddog yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at y diben hwnnw;

(d)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi gwybodaeth am faterion sydd o fewn rheolaeth y person, neu ddarparu cyfleusterau a chymorth mewn cysylltiad â hwy.

(2)Os yw swyddog awdurdodedig awdurdod lleol yn ystyried ei bod yn angenrheidiol at ddiben canfod a yw trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, caiff y swyddog drefnu i unrhyw beth a gyflwynir o dan is-adran (1)(b) neu unrhyw beth y mae’r swyddog wedi cymryd meddiant ohono o dan is-adran (1)(c) gael ei ddadansoddi.

(3)Os yw swyddog awdurdodedig awdurdod lleol, yn rhinwedd is-adran (1)(c), yn cymryd unrhyw beth o’r fangre, rhaid i’r swyddog adael yn y fangre ddatganiad—

(a)sy’n rhoi manylion yr hyn sydd wedi ei gymryd ac sy’n datgan bod y swyddog wedi cymryd meddiant ohono, a

(b)sy’n nodi’r person y caniateir gofyn iddo i’r eiddo gael ei ddychwelyd.

(4)Mae’r pwerau a roddir gan yr adran hon yn cynnwys y pŵer—

(a)i gopïo dogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre;

(b)i osod gofynion o ran sut y darperir dogfennau (a gaiff gynnwys gofynion i ddarparu copïau darllenadwy o ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre ac a gedwir yn electronig).

(5)At y diben hwn, mae “dogfennau” yn cynnwys gwybodaeth sydd wedi ei chofnodi ar unrhyw ffurf; ac mae cyfeiriadau at ddogfennau y deuir o hyd iddynt yn y fangre yn cynnwys—

(a)dogfennau a gedwir ar gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre, a

(b)dogfennau a gedwir yn rhywle arall ac y gellir cael mynediad iddynt drwy gyfrifiaduron neu ddyfeisiau electronig eraill yn y fangre.

(6)Nid yw’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath.

(7)Mae’r adran hon yn gymwys i gerbyd fel pe bai’n fangre.

14Y drosedd o rwystro etc. swyddogion

(1)Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol swyddog awdurdodedig awdurdod lleol sy’n arfer swyddogaethau o dan adrannau 9 i 13 yn cyflawni trosedd.

(2)Mae unrhyw berson sydd, heb achos rhesymol yn methu â chydymffurfio â gofyniad o dan adran 13(1)(b) neu (d) neu 13(4)(b) yn cyflawni trosedd.

(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Pan na fo person yn ateb unrhyw gwestiwn neu gyflwyno unrhyw ddogfen y byddai hawl gan y person i wrthod ei ateb neu wrthod ei chyflwyno mewn achos mewn llys yng Nghymru neu yn Lloegr neu at ddibenion achos o’r fath (gweler adran 13(6)), nid yw hyn yn gyfystyr â rhwystro o dan yr adran hon.

15Eiddo a gedwir: apelau

(1)Caiff person (“A”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth yr eir ymaith ag ef o dan adran 13(1)(c) (“eiddo a gedwir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon am orchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau, naill ai i A neu i berson arall.

(2)Os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni nad yw’n angenrheidiol parhau i gadw’r eiddo a gedwir at ddiben canfod a oes trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, caiff wneud gorchymyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r eiddo a gedwir gael ei ryddhau.

(3)Caiff gorchymyn o dan yr adran hon gynnwys pa ddarpariaeth bynnag y mae’r llys yn meddwl ei bod yn briodol er mwyn gohirio ei ddwyn i rym wrth aros i apêl (gan gynnwys cais o dan adran 111 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43)) gael ei gwneud a dyfarnu arni.

(4)Os yw’r llys yn gohirio gwrandawiad cais o dan yr adran hon, caiff wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir sy’n para tan wrandawiad terfynol y cais neu hyd nes y gwneir unrhyw orchymyn pellach, os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.

(5)Nid oes dim yn yr adran hon sy’n effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan y llys i wneud gorchymyn mewn cysylltiad â’r eiddo a gedwir, gan gynnwys unrhyw bŵer i wneud gorchymyn o dan adran 1 o Ddeddf yr Heddlu (Eiddo) 1897 (p. 30) (pŵer i wneud Gorchymyn mewn cysylltiad ag eiddo sydd ym meddiant yr heddlu).

16Eiddo a gyfeddir: digolledu

(1)Caiff person (“A”) a chanddo fuddiant mewn unrhyw beth y mae swyddog awdurdodedig awdurdod lleol wedi cymryd meddiant ohono o dan adran 13(1)(c) (“eiddo a gyfeddir”) wneud cais drwy gŵyn i unrhyw lys ynadon i gael ei ddigolledu.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys os yw’r llys, ar gais o dan yr adran hon, wedi ei fodloni—

(a)bod A wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd bod y swyddog awdurdodedig wedi cymryd meddiant o’r eiddo a gyfeddir, neu ei gadw, o dan amgylchiadau pan nad oedd yn angenrheidiol gwneud hynny at ddiben canfod a oedd trosedd o dan adran 5 wedi ei chyflawni, a

(b)na ellir priodoli’r golled neu’r difrod i esgeulustod neu ddiffyg A.

(3)Caiff y llys orchymyn i’r awdurdod lleol dalu digollediad i A.

17Sancsiynau sifil

(1)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2008” yw Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth, mewn perthynas â’r drosedd o dan adran 5, y gellid ei gwneud o dan Ran 3 o Ddeddf 2008 (sancsiynau sifil)—

(a)os oedd awdurdod lleol yn rheoleiddiwr at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf honno, a

(b)os oedd y drosedd yn drosedd berthnasol mewn perthynas â swyddog gorfodi at ddibenion Rhan 3 o’r Ddeddf honno.

(3)Mae adrannau 63 i 70 o Ddeddf 2008 (canllawiau; arfer pwerau; talu i’r Gronfa Gyfunol) yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan yr adran hon fel y maent yn gymwys i ddarpariaeth a wneir o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

(4)Mae adran 60(1) a (2) o Ddeddf 2008 (ymgynghori) yn gymwys i reoliadau o dan is-adran (1) fel y maent yn gymwys i orchymyn o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno.

(5)At ddibenion is-adran (3) a (4), mae cyfeiriadau at reoleiddiwr yn adrannau 60 a 63 i 70 o Ddeddf 2008 i’w darllen fel cyfeiriadau at awdurdod lleol.

18Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig eraill

(1)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig.

(4)Mae Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth fel y mae yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(5)Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)Mae dirwy a osodir ar gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o gronfeydd y gymdeithas.

19Atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—

(a)corff corfforedig;

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—

(a)un o uwch-swyddogion y corff corfforedig neu’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig, neu

(b)unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),

mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r gymdeithas) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i gorff llywodraethu.

(4)Yn is-adran (3), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Cyffredinol

20Dehongli

Yn y Ddeddf hon–

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol ar gyfer ardal yng Nghymru;‍

  • mae i “bag siopa” (“carrier bag”) yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 o’r Atodlen;

  • mae i “cynnyrch plastig” (“plastic product”) yr ystyr a roddir yn adran 1(2);

  • mae i “cynnyrch plastig untro gwaharddedig” (“prohibited single-use plastic product”) yr ystyr a roddir yn adran 2(2);

  • mae i “defnyddiwr” (“consumer”) yr ystyr a roddir yn adran 5(11);

  • ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—

    (a)

    partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39), neu

    (b)

    partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24);

  • mae i “plastig” (“plastic”) yr ystyr a roddir yn adran 1(4);

  • mae i “swyddog awdurdodedig awdurdod lleol” (“authorised officer of a local authority”) yr ystyr a roddir yn adran 7(2);

  • mae i “untro” (“single-use”), mewn perthynas â chynnyrch plastig, yr ystyr a roddir yn adran 1(3).

21Rheoliadau

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed, gan gynnwys darpariaeth sy’n diwygio’r Ddeddf hon.

(3)Ni chaniateir i offeryn statudol a wneir o dan y Ddeddf hon gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

22Dod i rym

(1)Daw’r adran hon, ac adrannau 3, 4, 17, 21, a 23 i rym ar y diwrnod drannoeth y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)gwneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed;

(b)pennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

23Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.

A gyflwynir gan adran 2

ATODLENCYNHYRCHION PLASTIG UNTRO GWAHARDDEDIG

1Hwn yw’r Tabl y cyfeirir ato yn adran 2.

TABL

CynnyrchEsemptiad
Cynhyrchion ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod
Caeadau ar gyfer cwpanau neu gynhwysyddion cludfwydCaead nad yw wedi ei wneud o bolystyren.
CwpanauCwpan nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog.
Cynhwysyddion cludfwydCynhwysydd cludfwyd nad yw wedi ei wneud o bolystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog.
Cytleri
‍Gwellt
  • Esemptiad 1

    Mewn cysylltiad â gwerthu gwelltyn gan berson (“P”) sy’n cynnal yn gyfreithlon fusnes fferyllfa fanwerthu—

    (a)

    pan—

    (i)

    fo P yn unig fasnachwr a’r trafodiad yn cael ei gynnal gan P ei hun, neu’n cael ei gynnal ar ran P gan fferyllydd neu unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd (gan gynnwys P), neu

    (ii)

    na fo P yn unig fasnachwr a’r trafodiad yn cael ei gynnal ar ran P gan fferyllydd neu unigolyn sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth fferyllydd, a

    (b)

    pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod ef angen y gwelltyn, neu fod person y byddant yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.

  • Esemptiad 2

    Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo (“A”)—

    (a)

    yng ngofal P, a

    (b)

    pan fo P, neu unigolyn sy’n darparu gofal i A ar ran P, yn credu yn rhesymol fod angen y gwelltyn ar A am resymau iechyd neu anabledd.

  • Esemptiad 3

    Mewn cysylltiad â darparu gwelltyn am ddim gan berson (“P”), pan fo’r defnyddiwr y mae P yn cyflenwi’r gwelltyn iddo yn datgan ei fod angen y gwelltyn, neu fod unigolyn y bydd y person yn rhoi’r gwelltyn iddo angen y gwelltyn, am resymau iechyd neu anabledd.

  • Esemptiad 4

    Gwelltyn a gyflenwir am bwrpas sy’n gysylltiedig â darparu gofal meddygol neu driniaeth feddygol.

Platiau
Tröydd diod
Cynhyrchion eraill
Bagiau siopa
  • Esemptiad 1

    Bag siopa—

    (a)

    sydd ag uchafswm dimensiynau o 125mm (uchder) x 125mm (lled),

    (b)

    nad oes ganddo gwysed, ac

    (c)

    nad oes ganddo handlenni.

  • Esemptiad 2

    Bag siopa, o faint sy’n gymesur â maint neu natur yr eitemau sydd i’w cludo, a gyflenwir at ddiben cludo eitemau o’r disgrifiad a ganlyn—

    (a)

    pysgod amrwd, cig amrwd neu ddofednod amrwd (gan gynnwys cynhyrchion pysgod amrwd, cynhyrchion cig amrwd neu gynhyrchion dofednod amrwd) i’w bwyta gan bobl neu anifeiliaid (pa un a yw’r eitem wedi ei becynnu ai peidio);

    (b)

    unrhyw fwyd arall i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid sydd heb ei becynnu;

    (c)

    bwyd i’w fwyta gan bobl neu anifeiliaid (i’r graddau nad yw’r eitem yn dod o fewn paragraff (a) neu (b)) a ddarperir am ddim;

    (d)

    hadau, bylbiau, cormau neu risomau heb eu pecynnu;

    (e)

    nwyddau heb eu pecynnu a halogwyd gan bridd;

    (f)

    llafnau neu eitemau â llafnau heb eu pecynnu;

    (g)

    eitemau heb eu pecynnu a wnaed o bapur;

    (h)

    cynhyrchion hylendid personol a ddarperir am ddim;

    (i)

    creaduriaid dyfrol byw mewn dŵr.

  • Esemptiad 3

    Bag siopa a gyflenwir at ddiben cludo alcohol neu dybaco mewn ardal a ddynodwyd yn ardal o dan gyfyngiad diogelwch o dan adran 11A o Ddeddf Diogelwch wrth Hedfan 1982 (p. 36).

Ffyn balwnau
Ffyn cotwm
Cynhyrchion a wnaed o blastig ocso-ddiraddiadwy

Unrhyw gynnyrch a wnaed o gynnyrch plastig ocso-ddiraddiadwy—

(a)

pa un a yw’r cynnyrch hwnnw yn ymddangos yn rhywle arall yn y tabl hwn ai peidio, a

(b)

pa un a fyddai’r math penodol o gynnyrch, neu’r diben y cyflenwir y cynnyrch hwnnw (neu fath penodol o gynnyrch) ar ei gyfer, fel arall wedi ei esemptio oherwydd cofnod yng ngholofn 2 ai peidio.

2At ddibenion y Tabl—

  • ystyr “bag siopa” (“carrier bag”) yw bag, gyda handlenni neu hebddynt, a ddarperir at ddiben cludo eitemau a werthwyd neu a ddarparwyd gyda’r bag (a gweler hefyd adran 1(6));

  • ystyr “busnes fferyllfa fanwerthu” (“retail pharmacy business”) yw busnes (ac eithrio practis proffesiynol sy’n cael ei gynnal gan feddyg neu ddeintydd) ar ffurf, neu sy’n cynnwys, manwerthu cynhyrchion meddyginiaethol nad ydynt ar werth yn gyffredinol;

  • ystyr “caead” (“lid”) yw clawr a ddyluniwyd i gadw’r cynnwys mewn cwpan neu gynhwysydd cludfwyd neu i helpu i gynnal tymheredd cynnwys y cwpan neu’r cynhwysydd cludfwyd;

  • ystyr “cwpan” (“cup”) yw cwpan a ddyluniwyd i ddal bwyd hylifol neu ddiod i’w yfed;‍

  • ystyr “cynhwysydd cludfwyd” (“takeaway food container”) yw daliedydd ac eithrio plât (er enghraifft bowlen, bocs, côn neu hambwrdd), a ddyluniwyd neu a weithgynhyrchwyd i’w ddefnyddio i fynd â bwyd i ffwrdd o’r fan lle y’i darperir, a bod y bwyd hwnnw—

    (a)

    yn barod i’w fwyta heb unrhyw baratoi pellach, megis coginio, berwi neu wresogi, a

    (b)

    fel arfer yn cael ei fwyta ar unwaith;‍

  • ystyr “cytleri” (“cutlery”) yw fforc, cyllell, llwy, gweillen fwyta neu declyn arall a ddyluniwyd i’w ddefnyddio neu ei defnyddio i fwyta bwyd neu weini bwyd;

  • ystyr “fferyllydd” (“pharmacist”) yw—

    (a)

    mewn perthynas â Phrydain Fawr, person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 1 o’r gofrestr o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol a gynhelir o dan erthygl 19(2) o Orchymyn Fferylliaeth 2010 (O.S. 2010/231), a

    (b)

    mewn perthynas â Gogledd Iwerddon, person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr o gemegwyr fferyllol ar gyfer Gogledd Iwerddon a gynhelir o dan erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976 (O.S. 1976/123 (G.I. 22));

  • ystyr “ffon balŵn” (“balloon stick”) yw ffon, gan gynnwys unrhyw fecanweithiau cysylltiedig, a ddyluniwyd i fod yn gysylltiedig â balŵn fel y gellir ei gario neu ei gynnal;

  • ystyr “ffon gotwm” (“cotton bud”) yw ffon fach, denau gyda gwlân cotwm yn gysylltiedig o amgylch un pen neu’r ddau ben, a ddyluniwyd at ddibenion defnydd cosmetig neu ar gyfer hylendid personol neu hylendid anifeiliaid;

  • ystyr “gwelltyn” (“straw”) yw gwelltyn a ddyluniwyd i’w ddefnyddio ar gyfer yfed diod a bwyd hylifol;‍

  • ystyr “plastig ocso-ddiraddiadwy” (“oxo-degradable plastic”) yw plastig sy’n cynnwys‍ unrhyw sylwedd a ychwanegir at ddiben cyflymu’r broses o ocsideiddio a darnio’r plastig wrth iddo ddod i gysylltiad â gwres neu olau (pa un a ddilynir hyn, neu y gellir dilyn hyn, gan ddadfeiliad rhannol neu ddadfeiliad llwyr y deunydd drwy weithgarwch microbaidd ai peidio);

  • ystyr “plât” (“plate”) yw daliedydd gwastad a ddyluniwyd i ddal bwyd i’w fwyta ond nid i’w weini;

  • ystyr “polystyren ehangedig neu bolystyren allwthiedig ewynnog” (“expanded or foamed extruded polystyrene”) yw polystyren lle mae’r deunydd polymerig yn cael ei ehangu ar unrhyw adeg mewn unrhyw ffordd (megis gwres o stêm ac ehangu wrth oeri) yn ystod ei weithgynhyrchu gan ddefnyddio unrhyw asiant chwythu (megis bwtan, pentan a phropan);‍

  • ystyr “tröydd diod” (“drink-stirrer”) yw ffon a ddyluniwyd i’w defnyddio i droi diod a bwyd hylifol.‍

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources