Cod ymarfer
Adran 4 - Cod anghenion dysgu ychwanegol
16.Mae adran 4 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddyroddi a chyhoeddi cod (‘y Cod’) ar ADY ar eu gwefan. Gall hyn gynnwys canllawiau ynghylch arfer swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Ddeddf, ac ynghylch materion eraill sy’n ymwneud ag ADY a rhaid iddo gynnwys canllawiau ar ddyletswydd corff llywodraethu i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau darpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer disgybl neu fyfyriwr tra bo CDU yn cael ei lunio ar gyfer y person hwnnw (gweler adran 47(3)). Rhaid i’r personau a restrir yn adran 4(3) roi sylw i’r cod wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag ADY. Mae hyn yn golygu y dylid glynu wrth y canllawiau yn y cod oni bai bod rheswm da dros wyro oddi wrthynt. Mae is-adran (4) yn cyfeirio at adran 153 o Ddeddf Addysg 2002 sydd, fel y’i diwygir gan y Ddeddf hon (gweler Atodlen 1), yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth gyllido darparwyr addysg feithrin nas cynhelir, ei gwneud yn ofynnol i'r darparwr roi sylw i ganllawiau perthnasol yn y cod.
17.Caiff y cod hefyd osod gofynion ar awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir neu sefydliadau addysg bellach mewn cysylltiad â materion penodol (gweler is-adran (5)) Caiff hefyd nodi’r hyn y mae’n ofynnol i awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol ei wneud er mwyn cyflawni eu dyletswyddau yn adrannau 7(1) ac 8(1) i roi sylw dyladwy i Gonfensiynau penodol y Cenhedloedd Unedig (gweler adrannau 7(4) ac 8(4)).
18.Mae gofynion penodol ar gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol y mae rhaid i’r cod eu cynnwys (is-adran (6)). Rhaid iddo gynnwys un neu ragor o ffurfiau safonol ar gyfer CDU a’i gwneud yn ofynnol i’r ffurf briodol gael ei defnyddio. Rhaid iddo hefyd ei gwneud yn ofynnol i’r cyrff hynny wneud y canlynol o fewn cyfnod amser a nodir gan y cod, yn ddarostyngedig i unrhyw eithriadau (y darperir ar eu cyfer yn y cod hefyd):
rhoi unrhyw hysbysiad nad oes gan blentyn neu berson ifanc ADY; a
pan fo wedi ei benderfynu bod gan y plentyn neu’r person ifanc ADY, llunio’r CDU a rhoi copi ohono.
19.Caiff y cod wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer achosion gwahanol, a gwneud darpariaeth ddarfodol, drosiannol neu arbed mewn perthynas â gofyniad a osodir o dan is-adran (5) neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 7 neu 8.
20.Rhaid i’r Tribiwnlys roi sylw i’r cod pan fo’n berthnasol i unrhyw gwestiynau a gyfyd ar apêl o dan Ran 2 (is-adran (10)).
Adran 5 - Y weithdrefn ar gyfer gwneud y cod
21.Mae adran 5 yn sicrhau bod ymgynghori ar y cod (neu god diwygiedig) a bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu arno cyn ei ddyroddi. Mae is-adran (1) yn rhestru’r cyrff cyhoeddus neu’r personau y mae rhaid ymgynghori â hwy ar god drafft neu god diwygiedig drafft, sy’n cynnwys unrhyw un arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol. Yna, ni ellir dyroddi cod arfaethedig na chod diwygiedig (a all fod wedi ei addasu o’r drafft yr ymgynghorwyd arno) oni bai bod y drafft wedi ei osod gerbron y Cynulliad a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad. Os caiff y drafft ei gymeradwyo, rhaid iddo gael ei ddyroddi fel y cod. Daw’r cod i rym ar y diwrnod neu’r diwrnodau a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn. Rhaid cyhoeddi’r cod ar wefan Gweinidogion Cymru (adran 4(11)).