Rhan 3 - Amodau ar gyfer gweithredu rhyddhadau etc.
314.Mae Rhan 3 yn nodi’r amodau y cyfeirir atynt yn Rhan 4 sydd i’w bodloni er mwyn i’r rhyddhadau perthnasol fod yn gymwys, sef:
mae person (A) yn trosglwyddo buddiant mewn tir i ddyroddwr y bond (B) (“y trafodiad cyntaf”), ac mae’r buddiant hwnnw i’w drosglwyddo’n ôl i A pan ddaw’r trefniant i ben;
mae B yn ymrwymo i drefniant bond buddsoddi cyllid arall gyda deiliaid y bond, ac mae’r buddiant yn nhir A yn cael ei ddal fel ased bond;
mae B yn lesu (neu’n islesu) y tir yn ôl i A (a’r rhent a delir yw’r elw ar fuddsoddiad deiliaid y bond);
mae B yn cofrestru pridiant tir cyntaf ar ei fuddiant mewn tir o blaid ACC (cyn diwedd y cyfnod o 120 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad y mae’r trafodiad yn cael effaith), a fyddai’n bodloni unrhyw dreth trafodiadau tir a fyddai wedi bod i’w chodi oni bai am y rhyddhadau, ynghyd ag unrhyw gosbau a llog;
nid yw’r taliadau cyfalaf y mae A yn eu gwneud i B ar gyfer llai na 60% o werth marchnadol y buddiant mewn tir ar y dyddiad y mae’r trafodiad cyntaf yn cael effaith;
nid yw’r trefniant yn para mwy na 10 mlynedd o’r trafodiad cyntaf. Yn ystod yr amser hwnnw rhaid i B ddal y buddiant yn y tir fel ased bond nes i’r bond ddod i ben. Pan ddaw’r bond i ben rhaid i B drosglwyddo’r buddiant i A cyn diwedd 30 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad nad yw’r buddiant yn cael ei ddal fel ased bond mwyach.