Adrannau 90-91 – Gwneud gwybodaeth a dogfennau yn ofynnol mewn perthynas â grŵp o ymgymeriadau neu am bartneriaeth
93.Mae adran 90 yn darparu trefniadau ar gyfer dyroddi hysbysiadau trydydd parti pan fo ACC eisiau gwirio sefyllfa dreth naill ai riant-ymgymeriad neu unrhyw un neu ragor o’i is-ymgymeriadau (er enghraifft, naill ai riant-gwmni (“parent company”) ac unrhyw un neu ragor o’i is-gwmnïau (“subsidiary companies”); mae ystyr manwl y termau hyn i’w weld yn adrannau 1161-1162 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46) ac Atodlen 7 iddi).
94.Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i unrhyw berson at ddibenion gwirio sefyllfa dreth rhiant-ymgymeriad neu unrhyw un neu ragor o’r is-ymgymeriadau, mae is-adran (2) yn gymwys. Yn yr amgylchiadau hyn, caiff ACC ddyroddi hysbysiad os oes ganddo gytundeb y rhiant-ymgymeriad, neu gymeradwyaeth y tribiwnlys, hynny yw, caiff cytundeb y rhiant-ymgymeriad ei drin fel pe bai hefyd yn cynnwys unrhyw is-ymgymeriad.
95.Pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i’r rhiant-ymgymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth is-ymgymeriad, mae is-adran (3) yn gymwys. Yn yr amgylchiadau hyn, rhaid i ACC sicrhau cymeradwyaeth y tribiwnlys cyn dyroddi’r hysbysiad. I bob pwrpas caiff hysbysiad trydydd parti a ddyroddir i riant-ymgymeriad mewn perthynas ag is-ymgymeriad ei drin fel pe bai’n hysbysiad trethdalwr a roddir i’r rhiant-ymgymeriad sy’n rheoli’r is-ymgymeriad.
96.Nid yw’r newidiadau a wneir gan yr adran hon yn gymwys pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i un is-ymgymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth is-ymgymeriad arall. Yn yr achosion hyn, rhaid dyroddi’r hysbysiad yn unol â’r weithdrefn a nodir yn adran 87. Ond mewn achos pan fo ACC yn dyroddi hysbysiad i un is-ymgymeriad at ddibenion gwirio sefyllfa dreth y rhiant-ymgymeriad (ac unrhyw is-ymgymeriadau eraill) mae is-adran (2) yn berthnasol.
97.Mae adran 91 yn darparu’r trefniadau ar gyfer dyroddi hysbysiad trydydd parti i rywun heblaw un o’r partneriaid pan fo ACC yn dymuno gwirio sefyllfa dreth dau neu ragor o bersonau mewn partneriaeth fusnes. Dylai hysbysiad a ddyroddir o dan yr adran hon: datgan ei ddiben; ac mewn amgylchiadau arferol, gynnwys enw’r bartneriaeth y mae’r hysbysiad yn gymwys iddo a chael ei gopïo i o leiaf un o’r partneriaid. Pan geisir cymeradwyaeth y tribiwnlys i ddyroddi hysbysiad, caiff y tribiwnlys ddatgymhwyso’r gofyniad i enwi’r trethdalwr a dyroddi copi o’r hysbysiad os yw’n fodlon bod gan ACC sail dros gredu y gallai cydymffurfio â’r gofynion hyn gael effaith negyddol ar asesu neu gasglu trethi.