- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
(1)Cyn diwedd y cyfnod cyllidebol cyntaf, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru yn nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
(a)y cynnydd a wnaed tuag at gyrraedd—
(i)y cyllidebau carbon sydd wedi eu gosod o dan y Rhan hon,
(ii)y targedau allyriadau interim, a
(iii)targed allyriadau 2050,
(b)a yw’r cyllidebau a’r targedau hynny yn debygol o gael eu cyrraedd, ac
(c)unrhyw fesurau pellach sy’n angenrheidiol er mwyn cyrraedd y cyllidebau a’r targedau hynny.
(2)Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad terfynol ar gyfer cyfnod cyllidebol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 41, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
(a)y modd y cyrhaeddwyd neu nas cyrhaeddwyd y gyllideb garbon ar gyfer y cyfnod,
(b)y camau a gymerwyd gan Weinidogion Cymru i leihau allyriadau net Cymru o nwyon tŷ gwydr yn ystod y cyfnod, a
(c)y materion a nodir yn is-adran (1).
(3)Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2030 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
(a)a yw’r targed allyriadau interim ar gyfer 2040 a tharged allyriadau 2050 y targedau uchaf y gellir eu cyflawni, a
(b)os nad y targed uchaf y gellir ei gyflawni yw’r naill neu’r llall ohonynt, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
(4)Yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl i Weinidogion Cymru osod y datganiad o dan adran 43 mewn perthynas â 2040 gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i’r corff cynghori anfon adroddiad at Weinidogion Cymru sy’n nodi safbwyntiau’r corff ynghylch—
(a)a yw targed allyriadau 2050 y targed uchaf y gellir ei gyflawni,
(b)os nad ydyw, beth yw’r targed uchaf y gellir ei gyflawni.
(5)Caniateir cyfuno adroddiad o dan is-adran (3) neu (4) ag adroddiad o dan is-adran (2).
(6)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o bob adroddiad a dderbynnir ganddynt o dan yr adran hon gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(7)Rhaid i Weinidogion Cymru osod ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddim hwyrach na chwe mis ar ôl cael yr adroddiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: