Pennod 1: Seiliau amhariad
Adran 117 - Addasrwydd i ymarfer
168.Mae’r Rhan hon yn nodi’r fframwaith ar gyfer ymchwilio i honiadau o amhariad ar addasrwydd personau cofrestredig i ymarfer a’r fframwaith sy’n llywodraethu gwrandawiadau addasrwydd i ymarfer. Mae adran 164 yn nodi ystyr person cofrestredig ac yn cadarnhau ei fod yn golygu person sydd wedi ei gofrestru yn y rhan gweithwyr cymdeithasol o’r gofrestr, mewn rhan ychwanegol neu yn y rhan i ymwelwyr Ewropeaidd o’r gofrestr. Felly, nid yw Rhan 6 o’r Ddeddf ond yn gymwys i weithwyr gofal cymdeithasol y mae’n ofynnol iddynt gofrestru, er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol. Nid yw’n gymwys i weithwyr gofal cymdeithasol anghofrestredig.
169.Bydd paneli addasrwydd i ymarfer yn gwneud penderfyniadau ynghylch a oes amhariad ar addasrwydd person cofrestredig i ymarfer. Mae’r paneli hyn hefyd yn penderfynu ar ba sancsiynau sy’n briodol yn dilyn ystyriaeth o achos (gweler adran 174 am y ddarpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i GCC sefydlu paneli addasrwydd i ymarfer a’r nodyn esboniadol sy’n mynd gydag adrannau 174 a 175 am esboniad o gyfansoddiad a gweithdrefnau’r paneli).
170.Mae adran 117 yn darparu mai dim ond am un neu ragor o’r seiliau a bennir yn is-adran (1) y caniateir ystyried bod amhariad ar addasrwydd person i ymarfer.
171.Yn is-adran (1)(a), mae’n debygol y bydd tystiolaeth o “perfformiad diffygiol fel gweithiwr gofal cymdeithasol” yn cynnwys methiannau i gydymffurfio â’r safonau ymddygiad ac ymarfer y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol eu cyrraedd, a nodir yn y codau ymarfer a ddyroddir gan GCC o dan adran 112, er na fydd personau sy’n gwerthuso perfformiad gweithiwr gofal cymdeithasol wedi eu cyfyngu i ystyried cydymffurfedd â’r codau yn unig. Bwriedir i’r sail hon ymwneud â methiannau difrifol neu fynych i ddilyn y safonau ymddygiad y disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol sy’n ymarfer eu cyrraedd. Felly, gallai un achos o driniaeth esgeulus fod yn gyfystyr â pherfformiad diffygiol, yn yr un modd ag y gallai methiannau technegol mynych neu wyro oddi wrth arferion da dro ar ôl tro fod yn gyfystyr ag ef.
172.Yn is-adran (1)(b), mae camymddwyn difrifol yn cyfeirio at ymddygiad a all neu na all fod yn gysylltiedig ag arfer sgiliau proffesiynol, ond bod yr ymddygiad hwnnw yn dwyn gwarth ar y person cofrestredig ac felly yn gwneud niwed i allu’r person hwnnw i ymarfer yn ddiogel ac i enw da’r proffesiwn. Felly mae modd i ymddygiad gweithiwr gofal cymdeithasol y tu allan i’w waith proffesiynol arwain at gamau pan fo posibilrwydd y bydd hyder y cyhoedd mewn gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael ei danseilio os na chymerir camau.
173.Yn is-adran (1)(c), mae “rhestr wahardd” yn cyfeirio at restr o unigolion y bernir eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion hyglwyf. Mae’r rhestr yn cael ei chynnal yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006. Yn yr Alban cynhelir y rhestr gan Disclosure Scotland o dan Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007. Yn nodweddiadol mae personau wedi eu gwahardd oherwydd iddynt gyflawni troseddau sy’n ymwneud â cham-drin plant neu oedolion hyglwyf.
174.Mae dyfarniadau gan gorff perthnasol yn ddyfarniadau a wneir gan reoleiddwyr cyfatebol gweithwyr gofal cymdeithasol a rheoleiddiwr nyrsio a bydwreigiaeth y Deyrnas Unedig: yr NMC. Er enghraifft, pe bai rheoleiddiwr gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr, sef y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal, yn penderfynu nad oedd gweithiwr cymdeithasol yn addas i ymarfer, gallai’r cofrestrydd ddibynnu ar y penderfyniad hwnnw i wrthod cais y gweithiwr cymdeithasol hwnnw i gofrestru â GCC. Bydd hyn yn atal personau rhag osgoi penderfyniad un rheoleiddiwr drwy gofrestru ag un arall. Yn yr un modd, caiff canfyddiadau a wneir yn y cyd-destun Cymreig ynghylch addasrwydd person i ymarfer lywio penderfyniadau mewn perthynas â chofrestrau sy’n cael eu cynnal gan reoleiddwyr eraill yn y Deyrnas Unedig a’r tu hwnt.
175.Mewn cysylltiad ag is-adran (1)(e), fel arfer, ni fydd angen i GCC gymryd rhan dim ond oherwydd bod gweithiwr gofal cymdeithasol yn sâl. Dim ond os oes gan weithiwr gofal cymdeithasol gyflwr meddygol (gan gynnwys bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol) sy’n cael effaith ar ei allu i ymarfer i safon dderbyniol y dylid dibynnu ar y sail hon.
176.Ni fydd pob canfyddiad o amhariad o dan is-adran (1) yn golygu’n awtomatig fod amhariad ar addasrwydd y person cofrestredig i ymarfer. Ystyrir ffactorau perthnasol eraill gan gynnwys, er enghraifft, mewn achos sy’n ymwneud â pherfformiad diffygiol, a oes modd datrys y problemau o dan sylw yn hawdd neu a oes camau wedi eu cymryd i fynd i’r afael â’r broblem.