Trosolwg Cyffredinol O’R Ddeddf
8.Mae’r Ddeddf wedi ei rhannu’n 11 o Rannau a 3 Atodlen–
Rhan 1 – Rheoleiddio gwasanaethau gofal cymdeithasol
Rhan 2 – Trosolwg o Rannau 3 i 8 a’u Dehongli
Rhan 3 – Gofal Cymdeithasol Cymru
Rhan 4 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
Rhan 5 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol: Safonau ymddygiad, addysg etc.
Rhan 6 – Gweithwyr Gofal Cymdeithasol: Addasrwydd i ymarfer
Rhan 7 – Gorchmynion sy’n gwahardd gwaith mewn gofal cymdeithasol: Personau anghofrestredig
Rhan 8 – Gofal Cymdeithasol Cymru: Dyletswydd i sefydlu paneli etc.
Rhan 9 – Cydweithredu a chydweithio gan y cyrff rheoleiddiol etc.
Rhan 10 – Amrywiol a chyffredinol
Rhan 11 – Darpariaethau terfynol
9.Mae’r Ddeddf yn cyflwyno system newydd o reoleiddio gwasanaethau gofal a chymorth, gan ddisodli’r un a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”). Mae Rhan 1 yn nodi’r prosesau rheoleiddio sy’n gymwys i berson sy’n gwneud cais i ddarparu gwasanaeth gofal cymdeithasol yng Nghymru sy’n cael ei reoleiddio o dan y Ddeddf, ac yna’n darparu’r gwasanaeth hwnnw. Mae hefyd yn darparu manylion mewn cysylltiad â rheoleiddio swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol ac yn sefydlu’r prosesau newydd i awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru wneud asesiad o’r farchnad gofal a chymorth.
10.Mae Rhan 3 yn ailenwi Cyngor Gofal Cymru yn Gofal Cymdeithasol Cymru (“GCC”). GCC yw’r corff sy’n rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru. Yn ychwanegol at hyn, mae’r Rhan hon yn rhoi’r pŵer i GCC i roi cyngor a chynhorthwy ac i gynnal astudiaethau at ddibenion gwella safonau’r gofal cymdeithasol a ddarperir yng Nghymru.
11.Mae Rhannau 4 - 8 yn disodli’r darpariaethau perthnasol yn Neddf 2000 sy’n ymwneud â chofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol, rheolau ynghylch addasrwydd gweithwyr o’r fath i ymarfer etc. Cyn hyn, roedd llawer o’r rheolau manwl yn y maes hwn i’w gweld mewn rheolau a wnaed gan Gyngor Gofal Cymru drwy ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf 2000. Mae llawer o’r manylder hwnnw bellach yn y Ddeddf ei hun; mae pwerau GCC i wneud rheolau o dan y Ddeddf yn ymwneud yn bennaf â materion gweithdrefnol. Mae’r Rhannau hyn wedi eu llywio hefyd gan adroddiad diweddar Comisiwn y Gyfraith ar reoleiddio gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol - http://www.lawcom.gov.uk/wp-content/uploads/2015/03/lc345_regulation_of_healthcare_professionals.pdf.
12.Mae Rhan 9 yn cynnwys darpariaeth ynghylch rhannu gwybodaeth a chydweithio rhwng Gweinidogion Cymru fel rheoleiddiwr gwasanaethau gofal cymdeithasol, GCC a chyrff perthnasol eraill.
13.Mae Rhan 10 yn manylu ar bwerau Gweinidogion Cymru i gychwyn ymchwiliad i unrhyw fater sy’n ymwneud â darparu gofal a chymorth. Mae hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae dogfennau i gael eu hanfon a phryd y cânt eu trin fel rhai sydd wedi eu dosbarthu at ddibenion y Ddeddf.
14.Mae Rhan 11 yn cynnwys y darpariaethau terfynol cyffredinol, gan gynnwys darpariaethau ynghylch mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol, pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth o dan y Ddeddf, cychwyn a dehongli.