Atodlen 10 – Gorchmynion adennill meddiant ar seiliau disgresiwn etc.: rhesymoldeb
451.Mae Atodlen 10 yn pennu’r amgylchiadau y mae’n rhaid i’r llys eu hystyried (i’r graddau y mae’r llys yn ystyried eu bod yn berthnasol) mewn perthynas â gwneud gorchymyn adennill meddiant ar sail tor contract. Mae disgresiwn gan y llys o ran gwneud y gorchymyn ai peidio (yn wahanol i ‘seiliau absoliwt’, pan fo’n rhaid i’r llys wneud y gorchymyn a geisir os yw’r sail wedi ei phrofi, a siarad yn gyffredinol). Mae’r Atodlen hon hefyd yn gymwys pan fo’r llys yn ystyried a ddylai wneud gorchymyn ar sail rheoli ystad (gweler adran 210), a phan fo’r llys yn ystyried a ddylai ohirio achos neu ohirio ildio meddiant o dan orchymyn adennill meddiant (gweler adran 211).
452.Mae paragraffau 4 i 13 yn pennu’r amgylchiadau amrywiol. Yn gryno, y rhain yw:
Amgylchiadau o ran deiliad y contract;
Amgylchiadau o ran y landlord;
Amgylchiadau o ran personau eraill;
Pa un a yw’r landlord wedi cynnig, neu’n ymrwymo i gynnig, contract meddiannaeth newydd;
Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant ar sail tor contract;
Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant sy’n ymwneud ag adran 55 (ymddygiad gwaharddedig);
Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant yn ymwneud â Sail G o’r seiliau rheoli ystad (dim angen y llety ar yr olynydd wrth gefn); ac
Amgylchiadau sy’n berthnasol i hawliad meddiant ar Sail H o’r seiliau rheoli ystad (cyd-ddeiliad contract yn ymadael).
453.Mae paragraff 14 yn amlinellu amgylchiad na ddylai llys roi sylw iddo (yn ddarostyngedig i unrhyw ddyletswydd arall i roi sylw i’r amgylchiad hwnnw); hynny yw, y tebygolrwydd y darperir cymorth i ddeiliad y contract os aiff yn ddigartref.