Adrannau 32 i 34 – Methiant i gydymffurfio â’r Cod
92.Mae adrannau 32 i 34 yn darparu pwerau gorfodi i CCAUC os yw wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu, neu’n debygol o fethu, â chydymffurfio â gofynion y Cod.
93.Caiff CCAUC roi cyfarwyddydau i gorff llywodraethu sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gymryd, neu beidio â chymryd, camau penodedig i:
ymdrin â’r methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y Cod. Er enghraifft, i ddarparu gwybodaeth nad yw wedi ei rhoi ac sy’n ofynnol o dan y Cod o fewn cyfnod penodedig o amser neu i wneud newidiadau i reolaeth ariannol i sicrhau bod sefydliad yn cydymffurfio â’r Cod unwaith eto; neu
atal methiant i gydymffurfio â gofyniad yn y Cod. Er enghraifft, os oedd sefydliad yn bwriadu ymrwymo i drafodiad a oedd yn golygu ei bod yn ofynnol cael cydsyniad CCAUC, i gyfarwyddo sefydliad i beidio ag ymrwymo i’r trafodiad hwnnw heb gael cydsyniad CCAUC.
94.Bydd y gweithdrefnau hysbysiad rhybuddio ac adolygu yn adrannau 41 i 44 yn gymwys i gyfarwyddydau o dan adran 33.
95.Mae adran 34 yn caniatáu i CCAUC roi cyngor neu gymorth i gorff llywodraethu sefydliad rheoleiddiedig neu gynnal neu drefnu adolygiad o sefydliad pan fo wedi ei fodloni bod sefydliad rheoleiddiedig wedi methu neu’n debygol o fethu â chydymffurfio â gofynion y Cod. Mae’r cyngor a’r cymorth a roddir gan CCAUC i’w rhoi gyda golwg ar wella’r ffordd y mae materion ariannol sefydliad rheoleiddiedig yn cael eu trefnu a’u rheoli.
96.Ar hyn o bryd, os yw CCAUC yn nodi enghreifftiau o reolaeth ariannol annigonol mae’n gallu sefydlu timau cymorth i helpu sefydliad i wneud gwelliannau. Rhagwelir y byddai CCAUC yn dymuno i’r dull hwn o weithredu barhau. Caiff CCAUC geisio defnyddio’r pŵer hwn i drefnu i dîm cymorth helpu sefydliad i wella’r ffordd y mae ei faterion ariannol yn cael eu trefnu a’u rheoli pan fo CCAUC wedi nodi methiant i gydymffurfio â’r Cod. Fel arall, caiff CCAUC drefnu adolygiad wedi ei dargedu o sefydliad penodol gan archwilwyr arbenigol, er enghraifft pan fo CCAUC wedi ei fodloni bod methiant i gydymffurfio â’r Cod yn debygol.