Search Legislation

Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2025 Rhif 331 (Cy. 66)

Cynrychiolaeth Y Bobl, Cymru

Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025

Gwnaed

12 Mawrth 2025

Yn dod i rym

14 Mawrth 2025

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 26(1), (2), (3)(a), (4) a (5), ac 71(1) o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 26(7) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, dod i rym a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mawrth 2025.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i etholiadau penodedig.

(4Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag—

(a)etholiad i Senedd Cymru, y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar neu cyn 6 Ebrill 2026;

(b)etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru, y cynhelir y polau ar eu cyfer ar neu cyn 5 Mai 2027.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “anerchiad etholiadol” (“election address”) yw cyfathrebiad post a gymeradwywyd yn derfynol y caniateir ei anfon, yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf 2006(2), yn rhydd rhag unrhyw dâl am bostio ac sydd i’w gyflwyno neu a gyflwynwyd i’w gyhoeddi ar y platfform;

ystyr “datganiad ymgeisydd” (“candidate statement”) yw datganiad sydd wedi ei lunio i’w gyhoeddi ar y platfform ac sy’n cefnogi ymgeisyddiaeth, ar gyfer etholiad cyffredin i brif gyngor yng Nghymru, y mae’r ymgeisydd yn sefyll ynddo;

ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006(3);

ystyr “dyddiad cyflwyno” (“submission date”) yw’r dyddiad y mae’n ofynnol gan reoliad 13(3)(a) ei gynnwys mewn hysbysiad o’r broses gyflwyno ar gyfer anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr;

ystyr “etholiadau penodedig” (“specified elections”) yw—

(a)

etholiadau i Senedd Cymru;

(b)

etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru;

ystyr “gofynion perthnasol” (“relevant requirements”) yw—

(a)

mewn perthynas ag anerchiad etholiadol, y gofynion a osodir gan reoliadau 8(2) a 9;

(b)

mewn perthynas â datganiad ymgeisydd, y gofynion a osodir gan reoliadau 11 a 12;

ystyr “gweithredwr y platfform” (“the platform operator”) yw’r person a bennir yn rheoliad 3;

ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” (“registered political party”) yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000(4);

ystyr “y platfform” (“the platform”) yw’r cyfleuster electronig, a elwir yn blatfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig, a sefydlwyd gan y Rheoliadau hyn ac sydd i ddarparu gwybodaeth gyfredol i etholwyr, neu fynediad at wybodaeth gyfredol o ffynonellau electronig eraill, am etholiadau penodedig;

ystyr “Rheolau 2021” (“the 2021 Rules”) yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021(5);

ystyr “ymgeisydd” (“candidate”) yw (yn ôl gofynion y cyd-destun)—

(a)

unigolyn sy’n ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd;

(b)

ymgeisydd ar restr o ymgeiswyr i fod yn Aelodau o’r Senedd a gyflwynir gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan adran 7 o Ddeddf 2006;

(c)

ymgeisydd mewn etholiad cyffredin i brif gyngor yng Nghymru.

RHAN 2SEFYDLU A GWEITHREDU’R PLATFFORM

Gweithredwr y platfform

3.  Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a sefydlwyd o dan adran 20E o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013(6) wedi ei bennu’n weithredwr y platfform.

Swyddogaethau gweithredwr y platfform

4.—(1Rhaid i weithredwr y platfform sefydlu a gweithredu’r platfform yn unol â’r Rheoliadau hyn.

(2Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan baragraff (1), rhaid i weithredwr y platfform—

(a)gwneud trefniadau i benodi trydydd parti i greu ac adeiladu cyfleuster electronig (megis system ar-lein);

(b)sicrhau bod y platfform yn darparu, yn lletya ac yn cyhoeddi gwybodaeth mewn modd gwleidyddol niwtral am—

(i)etholiadau penodedig,

(ii)ymgeiswyr, a

(iii)pleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n sefyll mewn etholiadau i Senedd Cymru;

(c)cynnal y platfform drwy gadw’r wybodaeth gyhoeddedig yn gyfredol;

(d)sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu cyfleusterau electronig a chynnwys y platfform rhag mynediad, ymyrraeth neu ddefnydd anawdurdodedig;

(e)darparu system i wirio bod anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr, a gyflwynir i’r platfform i’w cyhoeddi, yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar y platfform.

Canllawiau

5.—(1Rhaid i weithredwr y platfform ddarparu canllawiau ynghylch gweithredu’r platfform.

(2Rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth am y canlynol—

(a)y gwasanaeth a ddarperir gan y platfform a’r mecanweithiau a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw;

(b)y dogfennau y caiff gweinyddwyr etholiadol eu hanfon at weithredwr y platfform i’w cyhoeddi ar y platfform;

(c)fformat gofynnol unrhyw ddogfennau a gyflwynir i weithredwr y platfform;

(d)y modd y caiff gweinyddwyr etholiadol gyhoeddi gwybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6, a fyddai’n cynorthwyo gweithredwr y platfform i gael yr wybodaeth honno a’i chyhoeddi ar y platfform;

(e)sut y caniateir llunio anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr a’u hanfon at weithredwr y platfform.

(3Caiff y canllawiau gynnwys unrhyw fater arall a fydd yn cynorthwyo gweithredwr y platfform i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â gweithredu’r platfform.

(4Rhaid i’r canllawiau gael eu cyhoeddi ar y platfform gan weithredwr y platfform.

RHAN 3GWYBODAETH A HYGYRCHEDD

Gwybodaeth i’w chyhoeddi ar y platfform

6.—(1Rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu cyhoeddi, y canlynol mewn perthynas â phob etholiad penodedig—

(a)hysbysiad o etholiad sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006(7);

(ii)rheol 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021;

(iii)rheol 3 o Atodlen 2 i Reolau 2021;

(b)datganiadau’r rhai a enwebwyd sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006(8);

(ii)rheol 13 o Atodlen 1 i Reolau 2021;

(iii)rheol 13 o Atodlen 2 i Reolau 2021;

(c)hysbysiad y bleidlais sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006(9);

(ii)rheol 27(1) o Atodlen 1 i Reolau 2021;

(iii)rheol 27(1) o Atodlen 2 i Reolau 2021;

(d)anerchiad etholiadol, yn unol â rheoliad 14;

(e)datganiad ymgeisydd, yn unol â rheoliad 14;

(f)hysbysiad o safle pob gorsaf bleidleisio a’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawlogaeth i bleidleisio yno, sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006(10);

(ii)rheol 27(3) o Atodlen 1 i Reolau 2021;

(iii)rheol 27(3) o Atodlen 2 i Reolau 2021;

(g)trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio;

(h)datganiad o’r canlyniadau sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—

(i)gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006(11);

(ii)rheol 60(3) neu 60W(3) o Atodlen 1 i Reolau 2021;

(iii)rheol 64(3) neu 64Z1(3) o Atodlen 2 i Reolau 2021.

(2Caiff gweithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu cyhoeddi, yr wybodaeth a ganlyn ar y platfform—

(a)gwybodaeth am y system etholiadol a’r broses bleidleisio mewn perthynas ag etholiadau penodedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i—

(i)datganoli etholiadau penodedig;

(ii)disgrifiad ac esboniad o’r gwahanol lefelau o lywodraeth sy’n bodoli yng Nghymru a’u cyfrifoldebau priodol;

(iii)y gwahanol etholiadau sy’n digwydd yng Nghymru a’r systemau pleidleisio a ddefnyddir ym mhob etholiad;

(b)gwybodaeth am drefniadau etholiadol a phrosesau etholiadol ar gyfer etholiadau penodedig gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i—

(i)cymhwysedd i bleidleisio;

(ii)cofrestru i bleidleisio, gan gynnwys cofrestru dienw a phleidleisio absennol;

(iii)y broses ymarferol o bleidleisio, gan gynnwys gwybodaeth am sut, pryd a ble i bleidleisio wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, drwy’r post neu drwy ddirprwy;

(iv)hawliau hygyrchedd i bleidleiswyr wrth bleidleisio;

(v)manylion cyswllt ar gyfer timau etholiadol lleol sy’n rhoi cymorth i etholwyr ar gyfer pob ardal yng Nghymru;

(vi)manylion cyswllt ar gyfer cynrychiolwyr etholedig ar gyfer pob etholaeth Senedd Cymru neu ward etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru;

(c)unrhyw wybodaeth arall am etholiadau penodedig y mae gweithredwr y platfform yn ystyried ei bod yn briodol.

(3Caiff yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys—

(a)gwybodaeth ffeithiol a gynhyrchir gan weithredwr y platfform;

(b)dolenni neu gyfeiriadau at leoliadau perthnasol eraill ar y we.

Hygyrchedd gwybodaeth

7.  Rhaid i weithredwr y platfform gymryd camau rhesymol i sicrhau—

(a)bod y platfform a’i gynnwys yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch i etholwyr, a

(b)bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y platfform yn chwiliadwy, pan fo’n berthnasol, yn ôl cod post, etholaeth Senedd Cymru neu ward etholiadol llywodraeth leol.

RHAN 4ANERCHIADAU ETHOLIADOL A DATGANIADAU YMGEISWYR

Anerchiad etholiadol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru

8.—(1Yn ystod etholiad Senedd Cymru, caniateir cyflwyno anerchiad etholiadol i weithredwr y platfform gan—

(a)ymgeisydd unigol a luniodd yr anerchiad etholiadol neu y’i lluniwyd ar ei ran;

(b)asiant etholiad person o’r fath;

(c)plaid wleidyddol gofrestredig, sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, a luniodd yr anerchiad etholiadol neu y’i lluniwyd ar ei rhan;

(d)asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig o’r fath.

(2O ran anerchiad etholiadol—

(a)ni chaiff ond cynnwys materion sy’n ymwneud â’r etholiad,

(b)rhaid iddo gael ei gyflwyno i weithredwr y platfform fel y pennir yn yr hysbysiad o’r broses gyflwyno a gyhoeddir o dan reoliad 13, ac

(c)rhaid iddo gael ei gyflwyno gyda thystiolaeth o gymeradwyaeth derfynol gan y darparwr gwasanaeth cyffredinol ar gyfer y cyfathrebiad post.

(3Yn y rheoliad hwn—

mae i “darparwr gwasanaeth cyffredinol” (“universal service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011(12);

ystyr “tystiolaeth o gymeradwyaeth derfynol” (“evidence of final approval”) yw’r gymeradwyaeth a’r cod gwirio gwaith celf a anfonir oddi wrth y darparwr gwasanaeth cyffredinol at yr ymgeisydd neu i’r blaid wleidyddol gofrestredig.

9.  Ni chaniateir i anerchiad etholiadol gynnwys unrhyw ddeunydd—

(a)sy’n anllad, yn dramgwyddus neu’n anweddus, neu

(b)y byddai ei gyhoeddi yn debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd.

Datganiad ymgeisydd ar gyfer etholiadau cyffredin prif gynghorau

10.  Yn ystod etholiad cyffredin i brif gyngor yng Nghymru, caiff ymgeisydd, neu asiant ymgeisydd, anfon datganiad ymgeisydd at weithredwr y platfform i’w gyhoeddi ar y platfform.

11.—(1O ran datganiad ymgeisydd—

(a)rhaid iddo fod yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith,

(b)rhaid iddo ddefnyddio sgript Times New Roman,

(c)ni chaiff fod yn fwy na 180 o eiriau, a

(d)rhaid iddo fod am yr ymgeisydd a’r rhesymau pam y mae’r ymgeisydd yn ceisio cael ei ethol.

(2Rhaid i ddatganiad ymgeisydd gynnwys, heb gyfrif tuag at y terfyn geiriau—

(a)unrhyw ddisgrifiad sydd wedi ei gynnwys yn y papur enwebu o dan reol 5(3)(b) o Atodlen 1, neu reol 5(3)(b) o Atodlen 2, i Reolau 2021, a

(b)yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad o aelodaeth plaid sydd wedi ei gynnwys yn y papur enwebu o dan reol 5(3)(c) o Atodlen 1, neu reol 5(3)(c) o Atodlen 2, i Reolau 2021.

(3Ni chaiff datganiad ymgeisydd (gan gynnwys unrhyw ffotograff o dan baragraff (4)) gynnwys unrhyw ddeunydd—

(a)sy’n anllad, yn dramgwyddus neu’n anweddus;

(b)y byddai ei gyhoeddi yn debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd;

(c)sy’n gyfystyr â hysbysebu neu a allai arwain at fudd masnachol;

(d)a allai gamarwain neu ddrysu pleidleiswyr o ran y system etholiadol a ddefnyddir yn yr etholiad neu o ran effaith rhoi eu pleidlais.

(4Caiff datganiad ymgeisydd gynnwys un ffotograff o’r ymgeisydd ac, os yw’n gwneud hynny—

(a)rhaid i’r ffotograff fod yn ddiweddar, a

(b)ni chaiff y ffotograff ddangos neb arall.

12.  Rhaid cyflwyno datganiad ymgeisydd—

(a)i weithredwr y platfform fel y pennir yn yr hysbysiad o’r broses gyflwyno a gyhoeddir o dan reoliad 13;

(b)gyda datganiad gan yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd yn cadarnhau—

(i)bod y datganiad ymgeisydd wedi cael ei lunio gan yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd,

(ii)bod y datganiad ymgeisydd yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol, a

(iii)mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd yw’r wybodaeth yn y datganiad ymgeisydd.

Hysbysiad o’r broses gyflwyno

13.—(1Ar gyfer pob etholiad penodedig, rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi ar y platfform hysbysiad o’r broses gyflwyno ar gyfer anerchiadau etholiadol neu ddatganiadau ymgeiswyr.

(2Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad o’r broses gyflwyno ar y platfform cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o’r etholiad.

(3Rhaid i’r hysbysiad o’r broses gyflwyno gynnwys—

(a)dyddiad y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd i’w gyhoeddi ar y platfform (“dyddiad cyflwyno”),

(b)y broses ar gyfer cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd, gan gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut i anfon y ddogfen at weithredwr y platfform a’r fformat electronig sy’n ofynnol os caiff ei chyflwyno’n electronig, ac

(c)unrhyw wybodaeth arall y mae gweithredwr y platfform yn ystyried ei bod yn briodol er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr, eu hasiantau, a phleidiau gwleidyddol cofrestredig wrth gyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd.

Cyhoeddi anerchiadau etholiadol neu ddatganiadau ymgeiswyr

14.—(1Rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu cyhoeddi, ar y platfform, anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd—

(a)sy’n dod i law ar neu cyn y dyddiad cyflwyno, a

(b)sy’n cydymffurfio â’r gofynion perthnasol.

(2Rhaid cyhoeddi’r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo ddod i law gweithredwr y platfform a, beth bynnag, heb fod yn hwyrach na’r pedwerydd diwrnod cyn diwrnod y pôl.

(3Mae’r diwrnodau a ganlyn i’w diystyru at ddibenion cyfrifo’r dyddiad cau y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—

(a)dydd Sadwrn;

(b)dydd Sul;

(c)Noswyl Nadolig;

(d)Dydd Nadolig;

(e)Dydd Gwener y Groglith;

(f)diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(13);

(g)diwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch cyhoeddus neu alaru cyhoeddus.

Cyffredinol

15.  Rhaid i weithredwr y platfform sicrhau bod trefniadau ar waith i alluogi cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd yn electronig neu ar ffurf copi caled.

Atebolrwydd am anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr

16.—(1Nid yw unrhyw berson i fynd i unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol mewn cysylltiad â chyhoeddi cynnwys anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd ar y platfform, ac eithrio—

(a)yr ymgeiswyr neu’r ymgeisydd y mae’r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd yn ymwneud â hwy neu ag ef, a

(b)yr asiant etholiad ar gyfer yr ymgeisydd neu ar gyfer y blaid wleidyddol gofrestredig, sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, y mae’r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd yn ymwneud ag ef neu â hi.

RHAN 5ADRODDIADAU

Adroddiadau gan Weinidogion Cymru ar swyddogaethau a arferir mewn perthynas â’r platfform

17.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar gyfer pob etholiad penodedig sy’n nodi sut y mae swyddogaethau a roddir i weithredwr y platfform gan y Rheoliadau hyn wedi cael eu harfer mewn perthynas â’r etholiad hwnnw.

(2Rhaid cyhoeddi adroddiad o dan baragraff (1)—

(a)yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiad Senedd Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad hwnnw;

(b)yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiadau cyffredin prif gynghorau, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiadau hynny.

(3Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys, mewn perthynas â’r etholiad y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef—

(a)sut y mae gweithredwr y platfform wedi ymgysylltu â phartneriaid sy’n awdurdodau lleol, gweinyddwyr etholiadol a darparwyr gwybodaeth eraill wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r etholiad;

(b)crynodeb o’r wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi ar y platfform i gefnogi etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad penodedig;

(c)gwerthusiad o ran y defnydd o’r platfform, gan gynnwys i ba raddau y mae rhannau o’r platfform wedi cael eu cyrchu gan ddefnyddwyr;

(d)asesiad o gost gweithredu’r platfform, gan gynnwys costau cynnal a chadw.

18.  Rhaid i weithredwr y platfform roi i Weinidogion Cymru unrhyw gymorth a gwybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â llunio adroddiad o dan reoliad 17(1).

19.  Rhaid i adroddiad a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 17(1) gael ei osod gerbron Senedd Cymru.

Jayne Bryant

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru

12 Mawrth 2025

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig, fel sy’n ofynnol gan adran 26 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (dsc 5) (“Deddf 2024”). Mae’r Rheoliadau’n darparu ar gyfer sefydlu’r platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig a fydd yn darparu gwybodaeth gyfredol, neu fynediad at wybodaeth gyfredol o ffynonellau electronig eraill, i etholwyr er mwyn eu cefnogi i gymryd rhan yn yr etholiadau a bennir yn rheoliad 1, sef etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru.

Mae rheoliad 3 yn pennu’r Bwrdd Rheoli Etholiadol (“BRhE”), a sefydlwyd gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru, o dan adran 20E o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 (dccc 4) (fel y’i diwygiwyd gan adran 1 o Ddeddf 2024), yn weithredwr y platfform.

Mae rheoliad 4 yn rhoi swyddogaethau sefydlu a gweithredu’r platfform i weithredwr y platfform ac yn nodi’r hyn y mae rhaid i’r gweithredwr ei wneud wrth gyflawni’r swyddogaethau hynny. Mae rheoliad 5 yn gosod dyletswydd ar y BRhE i ddarparu canllawiau ynghylch gweithredu’r platfform.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r wybodaeth y mae rhaid ei rhoi ar y platfform, gan gynnwys gwybodaeth benodol sy’n ymwneud ag ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n sefyll mewn etholiad, a gwybodaeth y mae’n ddyletswydd ar swyddogion canlyniadau ei chyhoeddi yn ystod y broses etholiadol. Mae’r rheoliad hefyd yn rhoi disgresiwn i weithredwr y platfform gyhoeddi gwybodaeth arall i gynorthwyo etholwyr.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y platfform gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y platfform yn hygyrch i etholwyr.

Mae rheoliadau 8 a 9 yn darparu, ar gyfer etholiadau Senedd Cymru, y caiff ymgeiswyr unigol, plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, neu asiantiaid etholiad ddarparu anerchiad etholiadol i weithredwr y platfform i’w gyhoeddi ar y platfform. Mae’r darpariaethau’n ymdrin â’r modd y mae anerchiadau etholiadol i’w cyflwyno ac yn nodi deunydd na chaniateir ei gynnwys ynddynt.

Ar gyfer etholiadau cyffredin prif gynghorau yng Nghymru, mae rheoliadau 10 i 12 yn nodi y caiff ymgeiswyr, neu asiant etholiad yr ymgeisydd, ddarparu datganiad ymgeisydd i weithredwr y platfform i’w gyhoeddi ar y platfform. Mae’r darpariaethau’n rhagnodi fformat a chynnwys y ddogfen.

Hysbysir ymgeiswyr am y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd gan weithredwr y platfform drwy hysbysiad o’r broses gyflwyno fel yr amlinellir yn rheoliad 13.

Mae rheoliad 14 yn darparu bod rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi ar y platfform anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd sy’n cydymffurfio â’r gofynion yn y Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwr y platfform sicrhau ei fod yn gwneud trefniadau i alluogi cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd yn electronig neu ar ffurf copi caled.

Mae rheoliad 16 yn darparu na chaiff neb ond ymgeiswyr a’r asiant etholiad ar gyfer yr ymgeisydd neu ar gyfer y blaid wleidyddol gofrestredig, sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, fynd i unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol am gyhoeddi cynnwys anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd ar y platfform.

Mae rheoliadau 17 i 19 yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi a gosod gerbron Senedd Cymru adroddiadau ar gyfer pob etholiad penodedig ynghylch sut y mae’r platfform wedi ei sefydlu a’i weithredu. Rhaid i weithredwr y platfform roi cymorth a gwybodaeth i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â llunio adroddiad.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2024 dsc 5. Mae adran 26(9) yn diffinio “penodedig” ac “a bennir” i olygu wedi ei bennu mewn rheoliadau o dan is-adran (1).

(2)

Ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn, y gorchymyn perthnasol a wnaed o dan adran 13 yw O.S. 2007/236 ac mae erthygl 65 ohono yn darparu ar gyfer hawl i anfon cyfathrebiad post yn rhydd rhag unrhyw dâl am bostio.

(3)

2006 p. 32. Gwneir diwygiadau perthnasol gan adran 5(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4), paragraff 2(1), (15), (16), (17) a (19) o Atodlen 1 i Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac adran 8 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (dsc 4).

(5)

O.S. 2021/1459 (Cy. 374). Gwneir diwygiadau perthnasol gan reolau 4 ac 8 o O.S. 2023/1064 (Cy. 180).

(6)

2013 dccc 4. Mewnosodwyd adran 20E gan adran 1(2) o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024. Newidiwyd enw byr Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 i’r enw hwnnw o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 gan adran 11 o Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 (dsc 4).

(7)

Ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn, y ddarpariaeth berthnasol yw rheol 3 o Atodlen 5 i O.S. 2007/236.

(8)

Ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn, y darpariaethau perthnasol yw rheolau 16 a 17 o Atodlen 5 i O.S. 2007/236.

(9)

Ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn, y ddarpariaeth berthnasol yw rheol 32 o Atodlen 5 i O.S. 2007/236.

(10)

Ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn, y ddarpariaeth berthnasol yw rheol 32(2) o Atodlen 5 i O.S. 2007/236.

(11)

Ar yr adeg y gwnaed y Rheoliadau hyn, y darpariaethau perthnasol yw rheolau 62 a 64 o Atodlen 5 i O.S. 2007/236.

(12)

2011 p. 5, gweler adran 65.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources