- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Mae Deddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1 yn Atodlen 2—
(a)yn lle’r disgrifiad o “Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol” rhodder—
“Person sy’n bodloni’r gofynion a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 14(1)(a)(ii) ac sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu unrhyw un neu ragor o’r gwasanaethau a bennir mewn rheoliadau a wneir o dan yr adran honno mewn ysgol.”;
(b)yn y disgrifiad o “Gweithiwr cymorth dysgu mewn addysg bellach” hepgorer y geiriau “, ac eithrio athro neu athrawes addysg bellach,”;
(c)mewnosoder ar ôl y cofnod ar gyfer “Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith”—
Athro neu athrawes ysgol annibynnol | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol | Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol mewn neu ar ran ysgol annibynnol yng Nghymru. |
Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru. |
Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Person sy’n cefnogi (neu sy’n dymuno cefnogi) y gwaith o ddarparu gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol mewn neu ar ran sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol yng Nghymru.” |
(3) Ym mharagraff 3 yn y lleoedd priodol mewnosoder—
““gwasanaethau athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;”;
““gwasanaethau athro neu athrawes ysgol annibynnol” (“independent school teacher services”) yw gwasanaethau a bennir felly mewn gorchymyn a wneir o dan baragraff 2;”;
“mae i “sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” (“independent special post-16 institution”) yr ystyr a roddir yn adran 56(6) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2);”;
“mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996.”
(4) Yn Nhabl 3 yn Atodlen 4, yn y lleoedd priodol yn y Tabl mewnosoder—
Gair neu ymadrodd | Gair neu ymadrodd yn y Saesneg | Darpariaeth berthnasol |
“Athro neu athrawes sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Independent special post-16 institution teacher | Atodlen 2” |
“Athro neu athrawes ysgol annibynnol | Independent school teacher | Atodlen 2” |
“Dysgu seiliedig ar waith | Work based learning | Atodlen 2” |
“Gwasanaethau datblygu ieuenctid | Youth development services | Atodlen 2” |
“Gwasanaethau ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | Work based learning practitioner services | Atodlen 2” |
“Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Independent special post-16 institution learning support worker | Atodlen 2” |
“Gweithiwr cymorth dysgu mewn ysgol annibynnol | Independent school learning support worker | Atodlen 2” |
“Gweithiwr cymorth ieuenctid | Youth support worker | Atodlen 2” |
“Gweithiwr ieuenctid | Youth worker | Atodlen 2” |
“Sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol | Independent special post-16 institution | Atodlen 2” |
“Ymarferydd dysgu seiliedig ar waith | Work based learning practitioner | Atodlen 2” |
“Ysgol annibynnol | Independent school | Atodlen 2” |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: