- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
5 Ionawr 2023
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
9 Ionawr 2023
Yn dod i rym
31 Ionawr 2023
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2023.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Ionawr 2023.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i hysbysiadau galw am dalu sy’n ymwneud â blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 neu ar ôl hynny, ac a ddyroddir gan awdurdodau bilio Cymru neu ar eu rhan.
2.—(1) Mae paragraff 1 o Atodlen 2 (nodiadau esboniadol) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017(3) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y paragraff o’r enw Gwerth ardrethol, yn lle “2017” rhodder “2023” ac yn lle “2015” rhodder “2021”.
(3) Yn y paragraff o’r enw Ailbrisio, yn lle “2017” rhodder “2023” ac yn lle “2015” rhodder “2021”.
(4) Yn y paragraff o’r enw Newid yn y gwerth ardrethol, hepgorer y geiriau “Os na fydd y trethdalwr a’r swyddog prisio yn cytuno ar y prisiad o fewn 3 mis i wneud y cynnig, bydd y mater yn cael ei gyfeirio gan y swyddog prisio fel apêl gan y cynigydd i Dribiwnlys Prisio Cymru.”
(5) Yn y paragraff o’r enw Y lluosydd ardrethu annomestig, hepgorer y geiriau “ac, ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi fwy na chyfradd y cynnydd yn y mynegai prisiau manwerthu”.
(6) Yn y paragraff o’r enw Rhyddhad ardrethi trosiannol—
(a)yn lle “2016” rhodder “2022”;
(b)hepgorer y gair “bach”;
(c)yn lle “2017” rhodder “2023”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
5 Ionawr 2023
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”) (O.S. 2017/113 (Cy. 39)) yn darparu ar gyfer cynnwys hysbysiadau galw am dalu ardrethi annomestig a gyflwynir gan awdurdodau bilio yng Nghymru neu ar eu rhan.
Mae Atodlen 2 i Reoliadau 2017 yn rhagnodi’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y nodiadau esboniadol y mae rhaid iddynt fynd gyda hysbysiad galw am dalu.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 2017 o ganlyniad i’r ailbrisio ardrethu annomestig sy’n cael effaith o 1 Ebrill 2023 a’r rheolau rhagnodedig ar gyfer symiau a godir sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/1350 (Cy. 272)).
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
1998 p. 41. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 9 gan baragraff 89(2) o Atodlen 13 i Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 (p. 15). Diwygiwyd paragraff 2(2)(h) o Atodlen 9 gan adrannau 139 a 194(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a pharagraffau 1 a 44(1) a (3) o Atodlen 5 iddi a Rhan 2 o Atodlen 12 iddi, ac adran 8(1) a (3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17).
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2017/113 (Cy. 39), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/122 (Cy. 28) ac O.S. 2020/1250 (Cy. 283).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: