- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Caiff unrhyw berson (“apelydd”) nad yw wedi ei fodloni â phenderfyniad gan y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig nad yw’r apelydd wedi ei gymhwyso i fod yn ymarferydd meddygol offthalmig, o fewn 1 mis gan ddechrau â’r dyddiad y cafodd yr apelydd hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw, neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir ar unrhyw bryd gan Weinidogion Cymru, apelio yn erbyn y penderfyniad drwy anfon at Weinidogion Cymru hysbysiad o apêl sy’n datgan y ffeithiau a’r dadleuon y mae’r apelydd yn dibynnu arnynt.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)penodi i benderfynu’r apêl bwyllgor apêl o 5 person y mae rhaid penodi o leiaf 3 ohonynt ar ôl ymgynghori â’r cyrff hynny neu’r sefydliadau hynny sy’n cynrychioli ymarferwyr meddygol y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn ymwneud â’r materion ynghylch cymhwyso’n ymarferydd meddygol offthalmig,
(b)atgyfeirio’r apêl i’r pwyllgor apêl hwnnw,
(c)anfon copi o’r hysbysiad o apêl i’r Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig ac at unrhyw bersonau eraill y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt fuddiant yn yr apêl, a
(d)rhoi gwybod i’r apelydd, y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig ac unrhyw bersonau eraill o’r fath bod yr apêl wedi ei hatgyfeirio i bwyllgor apêl ac am y cyfeiriad y mae rhaid i gyfathrebiadau ar gyfer y pwyllgor apêl gael eu hanfon iddo.
(3) Caiff y pwyllgor apêl gynnal gwrandawiad mewn cysylltiad ag apêl ar unrhyw adeg ac yn unrhyw le a gyfarwyddir ganddo, ac os gofynnir iddo gynnal gwrandawiad o’r fath gan yr apelydd neu’r Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig, rhaid iddo wneud hynny.
(4) Rhaid anfon hysbysiad o’r gwrandawiad, o leiaf 14 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad y gwrandawiad, drwy wasanaeth danfon cofnodedig at yr apelydd, i’r Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig ac at unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad o’r apêl ato o dan is-baragraff (2).
(5) Caiff naill ai’r apelydd neu’r Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig, o fewn 1 mis ar ôl cael gwybod bod yr apêl wedi ei hatgyfeirio i bwyllgor apêl, neu ar ôl cael gwybod y bydd gwrandawiad o’r apêl yn cael ei gynnal, roi hysbysiad ei fod yn dymuno ymddangos gerbron y pwyllgor apêl.
(6) Mae gan unrhyw barti i apêl hawlogaeth i ymddangos a chael ei glywed gan gwnsler neu gyfreithiwr ac—
(a)mae gan y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig hawlogaeth i ymddangos drwy aelod neu drwy ei glerc neu swyddog arall sydd wedi ei benodi’n briodol at y diben;
(b)mae gan yr apelydd hawlogaeth i ymddangos yn bersonol, drwy unrhyw aelod o deulu’r apelydd, drwy unrhyw gyfaill, neu drwy unrhyw swyddog neu unrhyw aelod o unrhyw sefydliad y mae’r apelydd yn aelod ohono.
(7) Mae pwyllgor apêl i gael yr un pwerau â’r holl rai sydd gan y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig, gan gynnwys yn benodol y pŵer i gymeradwyo, ac os yw wedi ei fodloni bod apelydd yn meddu ar y cymwysterau a ragnodir gan baragraff 1, rhaid iddo roi’r gymeradwyaeth honno.
(8) Rhaid i’r pwyllgor apêl, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, hysbysu’r apelydd, y Pwyllgor Cymwysterau Offthalmig, Gweinidogion Cymru ac unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru wedi anfon hysbysiad o’r apêl ato o dan baragraff (2), am ei benderfyniad.
(9) Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau eraill yn y paragraff hwn, caiff y pwyllgor apêl osod gweithdrefn yr apêl fel y mae’n ystyried yn briodol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: