- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 2(5)
1 | Corff yn rhoi cyhoeddusrwydd i safonau |
Safon 64: | Rhaid ichi sicrhau bod dogfen sy’n cofnodi’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau hynny, ar gael ar eich gwefan. |
2 | Corff yn cyhoeddi gweithdrefn gwyno |
Safon 65: | Rhaid ichi— (a) sicrhau bod gennych weithdrefn gwyno sy’n delio â sut yr ydych yn bwriadu delio â chwynion ynglŷn â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy, a (b) cyhoeddi dogfen sy’n cofnodi’r weithdrefn honno ar eich gwefan. |
3 | Corff yn llunio adroddiad blynyddol ynglŷn â safonau |
Safon 66: | (1) Rhaid ichi lunio adroddiad (“adroddiad blynyddol”), yn Gymraeg, mewn perthynas â phob blwyddyn ariannol, sy’n delio â’r modd y bu ichi gydymffurfio â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy yn ystod y flwyddyn honno. (2) Rhaid i’r adroddiad blynyddol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn (pan fo’n berthnasol, i’r graddau yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â’r safonau y cyfeirir atynt)— (a)nifer y cwynion a gawsoch yn ystod y flwyddyn o dan sylw a oedd yn ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau yr oeddech o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 60); (b)nifer y cyflogeion sy’n meddu ar sgiliau yn y Gymraeg ar ddiwedd y flwyddyn o dan sylw (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 62); (c)nifer (ar sail y cofnodion a gadwasoch yn unol â safon 63) y swyddi newydd a’r swyddi gwag a hysbysebwyd gennych yn ystod y flwyddyn a gategoreiddiwyd fel swyddi sy’n gofyn— (i)bod sgiliau yn y Gymraeg yn hanfodol; (ii)bod angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir rhywun i’r swydd; (iii)bod sgiliau yn y Gymraeg yn ddymunol; neu (iv)nad oedd sgiliau yn y Gymraeg yn angenrheidiol. (3) Rhaid ichi gyhoeddi’r adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach na 6 mis yn dilyn diwedd y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi. (4) Rhaid ichi sicrhau bod copi cyfredol o’ch adroddiad blynyddol ar gael ar eich gwefan. |
4 | Corff yn darparu gwybodaeth i Gomisiynydd y Gymraeg |
Safon 67: | Rhaid ichi ddarparu i Gomisiynydd y Gymraeg (os bydd yn gofyn amdani) unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â’ch cydymffurfedd â’r safonau cyflenwi gwasanaethau, y safonau llunio polisi neu’r safonau gweithredu yr ydych o dan ddyletswydd i gydymffurfio â hwy. |
5 | Rhaid dehongli’r safonau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen hon fel a ganlyn. |
6 | At ddiben safon 66, ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn ariannol y corff ei hun. |
7 | At ddiben y safonau, nid yw gofyniad i lunio neu gyhoeddi unrhyw ddeunydd ysgrifenedig yn Gymraeg yn golygu y dylid llunio neu gyhoeddi’r deunydd hwnnw yn Gymraeg yn unig, ac nid yw’n golygu ychwaith y dylid llunio’r deunydd yn Gymraeg yn gyntaf (oni bai bod hynny yn cael ei ddatgan yn benodol yn y safon). |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: