- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch awdurdodiadau cynhyrchion bwyd rheoleiddiedig o ran Cymru. Gwneir Rhan 2 a’r Atodlenni yn unol â Rheoliad (EU) 2015/2283 a ddargedwir ar fwydydd newydd. Gwneir Rhan 3 yn unol â Rheoliad (EC) Rhif 2065/2003 a ddargedwir ar gyflasynnau mwg a ddefnyddir neu y bwriedir iddynt gael eu defnyddio mewn bwydydd neu arnynt.
Mae Rhan 2 a’r Atodlenni yn diweddaru, o ran Cymru, y rhestr o fwydydd newydd awdurdodedig yn Atodiad 1 i Reoliad (EU) 2017/2470 a ddargedwir sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o fwydydd newydd—
mae Atodlen 1 yn diwygio’r cofnod presennol ar gyfer 2’-Ffwcosyl-lactos/Deuffwcosyl-lactos (2’FL/DFL) er mwyn awdurdodi rhoi ar y farchnad y bwyd newydd hwnnw i’w ddefnyddio mewn diodydd wedi eu seilio ar laeth a chynhyrchion tebyg a fwriedir ar gyfer plant ifanc;
mae Atodlen 2 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad straen penodol o Olew Schizochytrium sp. (FCC-3204) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn atchwanegiadau bwyd, ac ar gyfer fformiwla babanod a fformiwla ddilynol;
mae Atodlen 3 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad straen penodol o Olew Schizochytrium sp. (WZU477) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio mewn fformiwla babanod a fformiwla ddilynol;
mae Atodlen 4 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad halen sodiwm 3’-Sialyl-lactos (3’-SL) (ffynhonnell ficrobaidd) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau o fwyd penodedig;
mae Atodlen 5 yn mewnosod cofnod newydd, sy’n awdurdodi rhoi ar y farchnad halen sodiwm 6’-Sialyl-lactos (6’-SL) (ffynhonnell ficrobaidd) fel bwyd newydd i’w ddefnyddio yn y categorïau o fwyd penodedig.
Mae Rhan 3 yn cynnwys addasiadau i’r awdurdodiadau ar gyfer pum cynnyrch cynradd sy’n creu cyflas mwg yn yr Atodiad i Reoliad (EU) Rhif 1321/2013 a ddargedwir sy’n sefydlu rhestr yr Undeb o gynhyrchion cynradd a awdurdodir i greu cyflas mwg i’w defnyddio yn y modd hwnnw mewn bwydydd neu arnynt. Mae’r diwygiadau’n newid enwau a chyfeiriadau deiliaid awdurdodiad awdurdodiadau’r priod gynhyrchion.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: