- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2021.![]()
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
1 Gorffennaf 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
6 Gorffennaf 2021
Yn dod i rym
1 Awst 2021
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2021.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
2. Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2021/2022.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
3. Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;
ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2021/2022 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(3) neu o dan Ran 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(4) mewn cysylltiad â chwrs llawnamser;
ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw;
ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
ystyr “Blwyddyn Academaidd 2021/2022” (“Academic Year 2021/2022”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2021 ond cyn 1 Medi 2022;
ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008(5);
ystyr “Dyddiad Ad-dalu” (“Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998(6));
mae i “Dyddiad Bodloni” (“Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;
mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998(7) neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008;
mae i “Swm Penodedig” (“Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
4. Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
5. Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw bod Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar y Dyddiad Ad-dalu—
(a)nad yw’r benthyciwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998,
(b)nad oes gan y benthyciwr gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath, ac
(c)nad yw’r benthyciwr wedi cael unrhyw o’i atebolrwydd i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu (gan gynnwys dilead o £0.00) o dan ddarpariaethau—
(i)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010(8),
(ii)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011(9),
(iii)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012(10),
(iv)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2013(11),
(v)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014(12),
(vi)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2015(13),
(vii)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016(14),
(viii)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2017(15),
(ix)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018(16),
(x)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2019(17), neu
(xi)Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2020(18).
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
6. Y Swm Penodedig yw’r swm lleiaf o’r canlynol—
(a)£1,500, neu
(b)yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
(2) At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
(3) At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998(19).
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
8. O dan yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
9. Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5 heb ei fodloni neu heb eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y maent yn ystyried y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni (“y Dyddiad Bodloni”).LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.8.2021, gweler rhl. 1(2)
Jeremy Miles
Gweinidog Y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
1 Gorffennaf 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawnamser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2021/2022.
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(2)(g) a (3)(d) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8). Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42(6), i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2019/1094, O.S. 2019/1192 (Cy. 209), O.S. 2020/142 (Cy. 25), O.S. 2020/153 (Cy. 27)), O.S. 2020/708 (Cy. 159), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/73 (Cy. 19) ac O.S. 2021/481 (Cy. 148).
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164), O.S. 2018/814 (Cy. 165), O.S. 2019/235 (Cy. 54), O.S. 2019/1094, O.S. 2019/1192 (Cy. 209), O.S. 2020/142 (Cy. 25), O.S. 2020/153 (Cy. 27), O.S. 2020/708 (Cy. 159), O.S. 2020/1302 (Cy. 287), O.S. 2021/9 (Cy. 4), O.S. 2021/73 (Cy. 19) ac O.S. 2021/481 (Cy. 148).
Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei gael yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470).
Diwygiwyd adran 23 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), O.S. 2002/808 ac O.S. 2010/1158.
Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y swm yr ystyrir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly’r swm yr ystyrir ei fod yn dal yn daladwy yn unol â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470). Gweler yn benodol reoliadau 17, 29, 44 ac 76.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: