- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 7.
3. Yn rheoliad 24 (grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl)—
(a)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Rhaid i swm y grant at gostau byw myfyrwyr anabl beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a)£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a
(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b)ym mharagraff (6), yn lle “baragraffau (7) ac (8)” rhodder “baragraff (8)”;
(c)hepgorer paragraff (7);
(d)ym mharagraff (8), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d), mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 23(12) yn digwydd”.
4. Yn rheoliad 71 (grant at gostau byw myfyrwyr dysgu o bell anabl)—
(a)yn lle paragraff (8) rhodder—
“(8) Rhaid i swm y grant o dan y rheoliad hwn beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a)£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr dysgu o bell cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a
(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr dysgu o bell cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b)ym mharagraff (9), yn lle “baragraffau (10) ac (11)” rhodder “baragraff (11)”;
(c)hepgorer paragraff (10);
(d)ym mharagraff (11), yn lle “mharagraff (8)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 65(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (8)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 65(4) yn digwydd”.
5. Yn rheoliad 88 (grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl)—
(a)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) Rhaid i swm y grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a)£31,831 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at wariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr rhan-amser cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn is-baragraff (b)); a
(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad; a
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o gwrs y myfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu at ddiben bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b)ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;
(c)hepgorer paragraff (5);
(d)ym mharagraff (6), yn lle “mharagraff (3)(a), (c) a (d) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol yn rheoliad 82(4) ddigwydd” rhodder “mharagraff (3)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 82(4) yn digwydd”.
6. Yn rheoliad 110 (myfyrwyr ôl-raddedig cymwys), ym mharagraff (8), yn lle “117(3)(c)(ii)” rhodder “117(2)(b)(ii)”.
7. Yn rheoliad 117 (swm y grant)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Rhaid i’r grant beidio â bod yn fwy na’r canlynol—
(a)£31,831 mewn perthynas â gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr; a
(b)y gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(i)yn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol yn y sefydliad;
(ii)yn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs, ar unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor neu at ddibenion bod yn bresennol yn yr Athrofa.”;
(b)yn lle paragraff (3) rhodder—
“(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr y “mathau o wariant cymwys” yw’r gwariant a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) a (b).”;
(c)ym mharagraff (4), yn lle “baragraffau (5) a (6)” rhodder “baragraff (6)”;
(d)hepgorer paragraff (5);
(e)ym mharagraff (6), yn lle “at y dibenion a bennir ym mharagraff (3)(a) ac (c) mewn perthynas â’r chwarteri hynny sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “at y dibenion a bennir ym mharagraff (2)(a) a (b) mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol a restrir yn rheoliad 111(2) yn digwydd”.
8. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 9 i 12.
9. Yn rheoliad 63 (swm y grant myfyriwr anabl), yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—
Achos 1
Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).
Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.
Achos 2
Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.”
10. Yn rheoliad 85 (talu benthyciadau cynhaliaeth a grantiau)—
(a)ym mharagraff (3), yn lle “baragraffau (4) a (5)” rhodder “baragraff (5)”;
(b)hepgorer paragraff (4).
11. Yn Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)—
(a)ym mharagraff 14(2), yn lle “chwarter neu’r chwarteri o’r flwyddyn academaidd sy’n dechrau ar ôl i’r digwyddiad perthnasol ddigwydd” rhodder “flwyddyn academaidd o’r dyddiad y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd”;
(b)ym mharagraff 18(6)(d), yn lle “un o’r dibenion” rhodder “math o wariant”;
(c)ym mharagraff 20—
(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Swm y grant myfyriwr ôl-raddedig anabl sy’n daladwy i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm—
(a)y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei fod yn briodol, ond
(b)nad yw’n fwy na swm cyfanredol y terfynau sy’n gymwys mewn cysylltiad â’r Achosion a restrir yn is-baragraff (2).”;
(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—
“(2) Yr Achosion a’r terfynau yw—
Achos 1
Gwariant sy’n ofynnol ar gynorthwyydd personol anfeddygol, eitemau mawr o offer arbenigol ac unrhyw wariant arall y mae’r myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn mynd iddo mewn cysylltiad â’r cwrs oherwydd anabledd y myfyriwr (ar wahân i’r gwariant a bennir yn Achos 2).
Terfyn o £31,831 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd o gwrs.
Achos 2
Gwariant ychwanegol yr eir iddo—
(a)o fewn y Deyrnas Unedig at ddiben bod yn bresennol mewn sefydliad, a
(b)o fewn y Deyrnas Unedig neu’r tu allan iddi at ddiben bod yn bresennol, fel rhan o’r cwrs presennol, am unrhyw gyfnod o astudio mewn sefydliad tramor (gan gynnwys Sefydliad Prifysgol Llundain ym Mharis).
Wedi ei gyfyngu i’r gwariant gwirioneddol yr eir iddo at y diben hwn.”
12. Yn Atodlen 7 (mynegai o dermau wedi eu diffinio), yn Nhabl 16 hepgorer—
(a)““gwariant cymwys” (mewn perthynas â grant myfyriwr ôl-raddedig anabl)” yn y golofn gyntaf, a
(b)y cofnod cyfatebol “Atodlen 4, paragraff 20(2)” yn yr ail golofn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: