- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).
Mae’r Rheoliadau yn disodli rheoliad 16 o’r prif Reoliadau. Mae’r rheoliad 16 newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am “mangre reoleiddiedig” gymryd y camau a ganlyn.
Cam 1 – cynnal asesiad o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre.
Cam 2 – darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.
Cam 3 – cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bersonau neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, neu ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd.
Cam 4 – cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo personau yn ymgynnull yn agos at ei gilydd. Gall y mesurau gynnwys ceisio rhwystro personau sy’n profi symptomau COVID-19 rhag mynd i’r fangre, sicrhau bod pobl yn ymgynnull yn yr awyr agored yn hytrach na thu mewn pan fo’n ymarferol gwneud hynny, cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb, ceisio sicrhau bod y fangre wedi ei hawyru’n dda, a chynnal hylendid da. Gallant hefyd gynnwys mesurau megis peidio â chynnal gweithgareddau penodol a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bersonau yn y fangre.
Wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol o dan Gam 3, caiff y person sy’n gyfrifol am y fangre rhoi sylw i fesurau a gymerir o dan Gam 4 i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws pan fo unrhyw berson o fewn 2 fetr i berson arall.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau (sy’n nodi’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n cael effaith yng Nghymru ar hyn o bryd fel ardal Lefel Rhybudd 1) er mwyn—
dileu’r terfyn blaenorol o 30 ar nifer y bobl y caniateir iddynt ymgynnull i ddathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu i ddathlu bywyd person ymadawedig – bydd y niferoedd uchaf a ganiateir yn cael eu pennu yn awr yng ngoleuni’r asesiad risg a gynhelir o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau a’r camau a’r mesurau rhesymol a gymerir o dan y rheoliad hwnnw;
caniatáu i blant ysgol gynradd ymgynnull mewn llety gwyliau neu lety teithio (er enghraifft, er mwyn aros dros nos) pan fo’r cynulliad yn ymwneud â chynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant, megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol mewn mannau megis canolfannau addysg awyr agored, neu’n ymwneud â chynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at ddiben cael gafael ar addysg neu gael addysg;
ei gwneud yn glir nad yw’r gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau yn gymwys i berfformiad adloniant a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw a lle nad yw mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (sy’n ymwneud ag ardaloedd Lefel Rhybudd 2) er mwyn gwneud yn glir effaith y gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau, gan gynnwys nad yw’n gymwys i berfformiad adloniant a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw a lle nad yw mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored.
Maent hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i’r prif Reoliadau, gan gynnwys diwygio rheoliad 57 er mwyn ei gwneud yn glir nad yw digwyddiad yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal “yn yr awyr agored” dim ond oherwydd bod cyfleusterau o dan do yn cael eu darparu ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: