Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 722 (Cy. 183)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 1.39 p.m. ar 18 Mehefin 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 4.00 p.m. ar 18 Mehefin 2021

Yn dod i rym

21 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 13) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Mehefin 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn lle rheoliad 16 rhodder—

Gofyniad i gymryd pob mesur rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws

16.(1) At ddibenion lleihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws mewn mangre reoleiddiedig, neu ledaenu’r coronaferiws gan y rheini sydd wedi bod mewn mangre reoleiddiedig, rhaid i’r person cyfrifol gymryd y camau a ganlyn—

Cam 1

Cynnal asesiad penodol o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre, ac wrth wneud hynny ymgynghori â phersonau sy’n gweithio yn y fangre neu gynrychiolwyr y personau hynny.

Cam 2

Darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Cam 3

Cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau—

(a)y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng unrhyw bersonau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir;

(b)pan fo’n ofynnol i bersonau aros i fynd i’r fangre, y cynhelir pellter o 2 fetr rhyngddynt, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp a ganiateir.

Cam 4

Cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo personau yn ymgynnull yn agos at ei gilydd, megis—

(a)ceisio rhwystro’r personau a ganlyn rhag bod yn bresennol yn y fangre—

(i)unrhyw berson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws yn y 10 niwrnod blaenorol,

(ii)unrhyw berson sydd wedi cael cysylltiad agos yn y 10 niwrnod blaenorol â pherson sydd wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws,

(iii)unrhyw berson sy’n profi symptomau sy’n gysylltiedig â COVID-19;

(b)sicrhau bod personau sy’n ymgynnull yn y fangre yn ymgynnull yn yr awyr agored pan fo hyn yn ymarferol;

(c)cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb rhwng personau yn y fangre, er enghraifft drwy—

(i)newid trefn mangre gan gynnwys lleoliad dodrefn a gweithfannau;

(ii)rheoli’r defnydd o fynedfeydd, tramwyfeydd, grisiau a lifftiau;

(iii)rheoli’r defnydd o gyfleusterau a rennir megis toiledau a cheginau;

(iv)fel arall, rheoli’r defnydd o unrhyw ran arall o’r fangre neu fynediad iddi;

(v)gosod rhwystrau neu sgriniau;

(d)cyfyngu ar hyd yr amser y caniateir i bersonau fod yn bresennol yn y fangre;

(e)ceisio sicrhau bod y fangre wedi ei hawyru’n dda;

(f)cynnal hylendid da yn y fangre;

(g)darparu, neu ei gwneud yn ofynnol defnyddio, cyfarpar diogelu personol.

(2) Wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol o dan Gam 3, caniateir rhoi sylw i fesurau a gymerir o dan Gam 4 i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo unrhyw berson o fewn pellter o 2 fetr i berson arall.

(3) Mae mesurau y gellir eu cymryd o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)peidio â gwneud gweithgareddau penodol;

(b)cau rhan o’r fangre;

(c)caniatáu i berson sydd fel arfer yn gweithio yn y fangre ynysu, a’i alluogi i wneud hynny, oherwydd iddo gael canlyniad positif am y coronafeirws neu am ei fod wedi dod i gysylltiad agos â rhywun sydd wedi cael canlyniad positif, am gyfnod—

(i)a argymhellir mewn canllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru;

(ii)a bennir mewn hysbysiad a roddir i’r person gan swyddog olrhain cysylltiadau;

(d)casglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bob person yn y fangre a’i chadw am 21 o ddiwrnodau at ddiben ei darparu i unrhyw un o’r canlynol, ar eu cais neu ar ei gais—

(i)Gweinidogion Cymru;

(ii)swyddog olrhain cysylltiadau;

(e)cymryd mesurau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth gyswllt o’r fath yn gywir.

(4) Rhaid i asesiad o dan Gam 1—

(a)bodloni gofynion rheoliad 3 o Reoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999(3) (“Rheoliadau 1999”), a

(b)cael ei gynnal—

(i)pa un a yw’r person cyfrifol eisoes wedi cynnal asesiad o dan y rheoliad hwnnw ai peidio, a

(ii)pa un a yw’r rheoliad hwnnw yn gymwys i’r person cyfrifol ai peidio.

(5) At ddibenion paragraff (4)—

(a)mae rheoliad 3 o Reoliadau 1999 i’w ddarllen fel pe bai’r geiriau “by regulations 16, 17 and 17A of the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5) (Wales) Regulations 2020” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau “by or under the relevant statutory provisions”, yn y ddau le y maent yn digwydd, a

(b)os na fyddai rheoliad 3 o Reoliadau 1999 yn gymwys i berson cyfrifol oni bai am baragraff (4)(b)(ii)—

(i)mae’r rheoliad hwnnw i’w drin fel pe bai’n gymwys i’r person fel pe bai’r person yn gyflogwr, a

(ii)mae personau sy’n gweithio yn y fangre i’w trin, at ddibenion y rheoliad hwnnw fel y mae’n gymwys yn rhinwedd paragraff (4)(b)(ii), fel pe baent wedi eu cyflogi gan y person cyfrifol.

(6) At ddibenion Cam 3, ystyr “grŵp a ganiateir” yw—

(a)pan fo’r fangre mewn ardal Lefel Rhybudd 1 neu ardal Lefel Rhybudd 2, grŵp—

(i)sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bobl, heb gyfrif unrhyw bersonau o dan 11 oed nac unrhyw ofalwr i berson yn y grŵp, neu

(ii)sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd;

(b)pan fo’r fangre mewn ardal Lefel Rhybudd 3 neu ardal Lefel Rhybudd 4, grŵp sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd ac unrhyw ofalwr i aelod o’r aelwyd.

(3Yn rheoliad 17(1), ar ôl “person cyfrifol” mewnosoder “o dan Gam 4 o’r rheoliad hwnnw”.

(4Yn rheoliad 17A, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “person cyfrifol” mewnosoder “o dan Gam 4 o’r rheoliad hwnnw”.

(5Yn rheoliad 57—

(a)ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (g) mewnosoder—

(ga)“COVID-19” yw dynodiad swyddogol y clefyd y gellir ei achosi gan y coronafeirws;;

(b)ym mharagraff (9)(a), yn lle “bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed yn yr awyr agored” rhodder “neu fwyta neu yfed bwyd a diod”.

(6Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 2(5)—

(i)ym mharagraff (e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, heb gyfrif bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre,” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig”;

(ii)ar ôl paragraff (k) mewnosoder—

(ka)cymryd rhan mewn cynulliad rheoleiddiedig o blant ysgol gynradd mewn llety gwyliau neu lety teithio, neu hwyluso’r cynulliad hwnnw, pan fo’r cynulliad yn ymwneud ag—

(i)cynulliad rheoleiddeidig a ddisgrifir ym mharagraff (k), neu

(ii)cynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at y diben a ddisgrifir yn is-baragraff (4)(i);;

(b)ar ôl paragraff 2(5) mewnosoder—

(6) At ddibenion y paragraff hwn a pharagraff 4—

(a)ystyr “plentyn ysgol gynradd” yw plentyn sydd ym mlwyddyn 6 neu’n is mewn ysgol yng Nghymru neu y byddai ym mlwyddyn 6 neu’n is pe bai’r plentyn yn mynychu ysgol yng Nghymru,

(b)mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” gan adran 4 o Ddeddf Addysg 1996,

(c)mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr ag a roddir i “school year” yn adran 579(1) o’r Ddeddf honno,

(d)ystyr “blwyddyn 6” yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed, ac

(e)ystyr “grŵp blwyddyn” yw grŵp o blant mewn ysgol, y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran.;

(c)ym mharagraff 4—

(i)yn is-baragraff (2)—

(aa)ym mharagraff (e), hepgorer “lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol,”;

(bb)ar ôl paragraff (g) mewnosoder—

(ga) cynulliad rheoleiddiedig o blant ysgol gynradd mewn llety gwyliau neu lety teithio, pan fo’r cynulliad yn ymwneud ag—

(i)cynulliad rheoleiddeidig a ddisgrifir ym mharagraff (g), neu

(ii)cynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at ddiben cael gafael ar wasanaethau addysgol neu gael gwasanaethau addysgol yn unol â pharagraff 2(4)(i);;

(cc)ym mharagraff (h)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), ar ôl “mangre reoleiddiedig” mewnosoder “(ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio)”;

(ii)yn is-baragraff (ii), hepgorer “neu, os yw’r fangre reoleiddiedig yn lety gwyliau neu lety teithio, o’r un aelwyd estynedig”;

(dd)ar ôl paragraff (i) mewnosoder—

(ia)digwyddiad sy’n unrhyw un o’r canlynol, pan fo’n cael ei gynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw—

(i)arddangosiad ffilm,

(ii)perfformiad adloniant pan na fo mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored,

(iii)marchnad, neu

(iv)gwasanaeth crefyddol;

(ib)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol;;

(ee)ar ôl paragraff (j) mewnosoder—

(k)digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio a lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.;

(ii)yn is-baragraff (3), hepgorer paragraffau (c) a (d).

(7Yn Atodlen 2, paragraff 4—

(a)yn is-baragraff (2)—

(i)ym mharagraff (e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu gynulliad yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol”;

(ii)ym mharagraff (f)(i), hepgorer “heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo,”;

(iii)ym mharagraff (g)(i), hepgorer “heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo,”;

(iv)ar ôl paragraff (h) mewnosoder—

(i)digwyddiad a gynhelir mewn mangre reoleiddiedig, ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio, ac—

(i)lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu

(ii)lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd;

(j)digwyddiad sy’n unrhyw un o’r canlynol, pan fo’n cael ei gynnal mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw—

(i)arddangosiad ffilm,

(ii)perfformiad adloniant pan na fo mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored,

(iii)marchnad, neu

(iv)gwasanaeth crefyddol;

(k)digwyddiad chwaraeon elît os athletwyr elît a phersonau sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo yw’r unig bobl sy’n bresennol;

(l)digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig neu yn yr awyr agored mewn llety gwyliau neu lety teithio ac—

(i)lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu

(ii)lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig;

(m)digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn llety gwyliau neu lety teithio a lle y mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.;

(b)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n bresennol mewn digwyddiad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed,

(b)gofalwr unrhyw berson sy’n bresennol, neu

(c)unrhyw berson sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.;

(c)yn is-baragraff (3), hepgorer paragraffau (c) a (d).

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 1.39 p.m. ar 18 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn disodli rheoliad 16 o’r prif Reoliadau. Mae’r rheoliad 16 newydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gyfrifol am “mangre reoleiddiedig” gymryd y camau a ganlyn.

Cam 1 – cynnal asesiad o’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws yn y fangre.

Cam 2 – darparu gwybodaeth i’r rheini sy’n mynd i’r fangre neu’n gweithio ynddi ynglŷn â sut i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws.

Cam 3 – cymryd pob mesur rhesymol i sicrhau y cynhelir pellter o 2 fetr rhwng personau yn y fangre, ac eithrio rhwng aelodau o grŵp sy’n cynnwys dim mwy na 6 o bersonau neu aelodau o’r un aelwyd ar Lefelau Rhybudd 1 a 2, neu ar Lefelau Rhybudd 3 a 4, sy’n cynnwys aelodau o’r un aelwyd.

Cam 4 – cymryd mesurau rhesymol i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws sy’n codi pan fo personau yn ymgynnull yn agos at ei gilydd. Gall y mesurau gynnwys ceisio rhwystro personau sy’n profi symptomau COVID-19 rhag mynd i’r fangre, sicrhau bod pobl yn ymgynnull yn yr awyr agored yn hytrach na thu mewn pan fo’n ymarferol gwneud hynny, cyfyngu ar ryngweithio agos wyneb yn wyneb, ceisio sicrhau bod y fangre wedi ei hawyru’n dda, a chynnal hylendid da. Gallant hefyd gynnwys mesurau megis peidio â chynnal gweithgareddau penodol a chasglu gwybodaeth gyswllt oddi wrth bersonau yn y fangre.

Wrth benderfynu i ba raddau y mae’n rhesymol cymryd mesur penodol o dan Gam 3, caiff y person sy’n gyfrifol am y fangre rhoi sylw i fesurau a gymerir o dan Gam 4 i liniaru’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws pan fo unrhyw berson o fewn 2 fetr i berson arall.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau (sy’n nodi’r cyfyngiadau a’r gofynion sy’n cael effaith yng Nghymru ar hyn o bryd fel ardal Lefel Rhybudd 1) er mwyn—

  • dileu’r terfyn blaenorol o 30 ar nifer y bobl y caniateir iddynt ymgynnull i ddathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu i ddathlu bywyd person ymadawedig – bydd y niferoedd uchaf a ganiateir yn cael eu pennu yn awr yng ngoleuni’r asesiad risg a gynhelir o dan reoliad 16 o’r prif Reoliadau a’r camau a’r mesurau rhesymol a gymerir o dan y rheoliad hwnnw;

  • caniatáu i blant ysgol gynradd ymgynnull mewn llety gwyliau neu lety teithio (er enghraifft, er mwyn aros dros nos) pan fo’r cynulliad yn ymwneud â chynulliad rheoleiddiedig er datblygiad neu lesiant plant, megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol mewn mannau megis canolfannau addysg awyr agored, neu’n ymwneud â chynulliad y mae’r plant yn cymryd rhan ynddo at ddiben cael gafael ar addysg neu gael addysg;

  • ei gwneud yn glir nad yw’r gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau yn gymwys i berfformiad adloniant a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw a lle nad yw mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 2 i’r prif Reoliadau (sy’n ymwneud ag ardaloedd Lefel Rhybudd 2) er mwyn gwneud yn glir effaith y gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau, gan gynnwys nad yw’n gymwys i berfformiad adloniant a gynhelir mewn mangre a ddefnyddir fel arfer at y diben hwnnw a lle nad yw mwy na 200 o bobl yn bresennol neu pan y’i cynhelir yn yr awyr agored.

Maent hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i’r prif Reoliadau, gan gynnwys diwygio rheoliad 57 er mwyn ei gwneud yn glir nad yw digwyddiad yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n cael ei gynnal “yn yr awyr agored” dim ond oherwydd bod cyfleusterau o dan do yn cael eu darparu ar gyfer bwyta bwyd ac yfed diod.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(3)

O.S. 1999/3242. Diwygiwyd rheoliad 3 gan O.S. 2005/1541, O.S. 2015/21 ac O.S. 2015/1637.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources