Search Legislation

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 686 (Cy. 172)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 3.35 p.m. ar 8 Mehefin 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 5.45 p.m. ar 8 Mehefin 2021

Yn dod i rym

am 6.00 p.m. ar 8 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 p.m. ar 8 Mehefin 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 1, paragraff 4—

(a)yn is-baragraff (2)(e), yn lle “o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre” rhodder “mewn mangre reoleiddiedig lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol”;

(b)yn is-baragraff (2)(f)(i), hepgorer “, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo”;

(c)ar ôl is-baragraff (2)(g) mewnosoder—

(h)digwyddiad a gynhelir i unrhyw raddau o dan do mewn mangre reoleiddiedig ac—

(i)lle nad yw mwy na 6 o bobl yn bresennol, neu

(ii)lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu, os yw’r fangre reoleiddiedig yn lety gwyliau neu lety teithio, o’r un aelwyd estynedig;

(i)digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig (ac eithrio mewn llety gwyliau neu lety teithio) ac—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu

(ii)lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd;

(j)digwyddiad a gynhelir yn yr awyr agored mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig neu yn yr awyr agored mewn llety gwyliau neu lety teithio ac—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, neu

(ii)lle mae’r holl bobl sy’n bresennol yn aelodau o’r un aelwyd neu’r un aelwyd estynedig.;

(d)ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—

(2A) Wrth bennu, at ddibenion is-baragraff (2), nifer y personau sy’n bresennol mewn digwyddiad, nid yw’r canlynol i’w hystyried—

(a)unrhyw blant o dan 11 oed,

(b)gofalwr unrhyw berson sy’n bresennol, neu

(c)unrhyw berson sy’n gweithio yn y digwyddiad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.35 p.m. ar 8 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r diwygiad yn gwneud yn glir effaith y gwaharddiad ar drefnu digwyddiadau ym mharagraff 4 o Atodlen 1 i’r prif Reoliadau.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources