- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn wedi ei wneud drwy arfer y pwerau a roddir gan Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (p. 22) (“Deddf 1981”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Milheintiau 1989 (O.S. 1989/285) er mwyn ychwanegu Coxiella burnetii at yr organeddau sydd wedi eu dynodi at ddibenion adran 29 o Ddeddf 1981 (organeddau y mae’r darpariaethau penodedig o’r Ddeddf yn gymwys iddynt). Mae dynodi Coxiella burnetii yn gymwys mewn perthynas ag achosion pan fo’r organedd hwnnw yn cael ei gario mewn unrhyw wartheg, defaid, camelidau neu eifr. Mae hefyd yn cymhwyso’r gofyniad i adrodd ar achosion o ganfod organeddau o’r genws salmonela a brwsela a ganfyddir mewn samplau a gymerir o anifeiliaid er mwyn cynnwys samplau a gymerir o gŵn.
Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Penodedig (Hysbysu) 1996 (O.S. 1996/2628) (“y Gorchymyn Clefydau Penodedig”). Mae’n gwneud y newidiadau a ganlyn—
(a)mae’r diffiniad o “disease” yn adran 88 o Ddeddf 1981, o ran ei chymhwyso i erthygl 3 (hysbysu am glefydau penodedig) o’r Gorchymyn Clefydau Penodedig, wedi ei estyn er mwyn cynnwys y clefydau a restrir yn yr Atodlen 1A newydd;
(b)mae erthygl 3(4) o’r Gorchymyn Clefydau Penodedig wedi ei diwygio er mwyn gwneud hysbysiad yn ofynnol gan berson sydd, yn dilyn dadansoddiad o sampl a gymerwyd o anifail neu garcas, yn amau’n rhesymol bod anifail neu garcas wedi ei heintio â campylobacteriosis cenhedlol buchol, dolur rhydd feirysol buchol, feirws syndrom atgenhedlu ac anadlu’r moch, rhinotraceitis buchol neu fylfaweinwst llinorog heintus, paratwbercwlosis neu dricomonosis (a restrir yn yr Atodlen 1A newydd);
(c)mae erthyglau newydd 4A a 4B wedi eu mewnosod yn y Gorchymyn Clefydau Penodedig i’w gwneud yn ofynnol hysbysu am achos, neu achos a amheuir, o Batrachochytrium salamandrivorans mewn amffibiad a feirws Ebola mewn primat; a
(d)mae’r rhestr o glefydau penodedig yn Rhan I o Atodlen 1 i’r Gorchymyn Clefydau Penodedig wedi ei diwygio er mwyn cynnwys pliwroniwmonia gafraidd heintus, llynmeirch (Burkholderia mallei) a swrra (Trypanosoma evansi).
Mae erthygl 4 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Clefydau Dofednod (Cymru) 2003 (O.S. 2003/1079 (Cy. 148)) er mwyn ychwanegu dyletswydd newydd i hysbysu Gweinidogion Cymru am achosion hysbys neu achosion a amheuir o Mycoplasmosis Adar a Clamydiosis Adar mewn rhywogaethau penodol o adar. Mae hefyd yn cael gwared ar y gofyniad i Orchymyn datganiadol gael ei wneud pan fydd clefyd dynodedig mewn dofednod yn cael ei gadarnhau ac yn rhoi yn ei le y gofyniad i ddatganiad gael ei wneud yn hytrach na hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad ni chynhaliwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: