- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) Rhif 640/2014 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1306/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y system integredig gweinyddu a rheoli a’r amodau ar gyfer gwrthod taliadau neu eu tynnu’n ôl a chosbau gweinyddol sy’n gymwys i daliadau uniongyrchol, cymorth ar gyfer datblygu gwledig a thrawsgydymffurfio(1), wedi ei ddiwygio, i’r graddau y mae’n ymwneud â chymorth domestig ar gyfer datblygu gwledig, fel a ganlyn.
(2) Hepgorer Erthygl 1(j).
(3) Yn Erthygl 9—
(a)ym mharagraff 1, hepgorer yr is-baragraff olaf;
(b)ym mharagraff 3, hepgorer yr is-baragraff olaf.
(4) Hepgorer Erthygl 10.
(5) Yn Erthygl 13—
(a)ym mharagraff 1—
(i)hepgorer yr ail is-baragraff;
(ii)ar ôl yr is-baragraff olaf mewnosoder—
“All documents in support of an aid application or payment claim must be submitted by 31 December of that calendar year.”;
(b)ym mharagraff 3, yn yr is-baragraff olaf, yn lle “third” rhodder “second”.
(6) Hepgorer yr is-baragraff olaf yn Erthygl 16(1).
(7) Yn Erthygl 19a—
(a)yn y pennawd, ar ôl “of areas for” mewnosoder “agri-environment climate, organic farming,”;
(b)ym mharagraff 1, ar ôl “Articles” mewnosoder “28, 29”;
(c)yn lle paragraff 2 rhodder—
“2. The administrative penalty referred to in paragraph 1 shall be reduced by 50% if the difference between the area declared and the area determined does not exceed 10% of the area determined.”;
(d)hepgorer paragraffau 3 a 4.
(8) Yn Erthygl 35—
(a)ym mharagraff 1, yn lle “shall” rhodder “may”;
(b)ym mharagraff 2—
(i)yn lle “shall” rhodder “may”;
(ii)hepgorer “State aid”;
(c)ym mharagraff 3—
(i)yn yr is-baragraff cyntaf—
(aa)yn lle “shall” rhodder “may”;
(bb)yn lle “extent, duration and reoccurrence” rhodder “extent and duration”;
(ii)hepgorer yr is-baragraff olaf;
(d)ym mharagraff 5, hepgorer y frawddeg olaf;
(e)hepgorer paragraff 7.
(9) Hepgorer Pennod I o Deitl IV.
(10) Hepgorer brawddeg olaf Erthygl 38(1).
(11) Hepgorer Teitl V.
EUR 2014/640, a ddiwygiwyd mewn perthynas â chymorth gwledig gan O.S. 2020/90 ac mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2020/551. Mae EUR 2014/640 hefyd wedi ei ddiwygio gan O.S. 2019/765. Er hynny, yn rhinwedd y diwygiadau yn O.S. 2020/1445, nid yw’r diwygiadau hyn yn cael effaith mewn perthynas â chymorth ar gyfer datblygu gwledig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: