Search Legislation

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 367 (Cy. 112)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021

Gwnaed

19 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

23 Mawrth 2021

Yn dod i rym

14 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 22(3) a (4) a 32(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym ar 14 Ebrill 2021.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2013” yw Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013(2).

Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013

2.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013, yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion”, yn lle “ym mis Mehefin 2018 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”” rhodder “ar wefan llyw.cymru(3) ar 18 Tachwedd 2020 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion””.

Hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion a ddilynir gan lywodraethwr sydd i’w drin fel pe bai’n bodloni’r gofynion hyfforddi o dan Reoliadau 2013

3.—(1Mae llywodraethwr a gwblhaodd, rhwng 18 Tachwedd 2020 a’r adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym, hyfforddiant i lywodraethwyr ynghylch data perfformiad ysgolion a bennir yn nogfen 2020 a ddarperir gan awdurdod lleol neu ar ei ran i’w drin, at ddiben rheoliad 5(1) a (3) o Reoliadau 2013, fel pe bai wedi cwblhau’r hyfforddiant gofynnol ar ddata perfformiad ysgolion.

(2Yn y rheoliad hwn—

ystyr “dogfen 2020” (“the 2020 document”) yw’r ddogfen hyfforddi ar ddata perfformiad ysgolion a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru ar wefan llyw.cymru ar 18 Tachwedd 2020 o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion”;

mae i “hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“school performance data training”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2013.

Darpariaeth arbed

4.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i lywodraethwr a gwblhaodd, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013.

Kirsty Williams

Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru

19 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Gofynion Hyfforddi ar gyfer Llywodraethwyr) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”) yn nodi’r gofynion hyfforddi ar gyfer llywodraethwyr mewn ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Mae’r gofynion hyfforddi mewn perthynas â data perfformiad ysgolion wedi eu nodi ar hyn o bryd mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru ar ddeall data ysgolion”, y cyfeirir ati yn y diffiniad o “yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion” (“dogfen 2018”) yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2013. Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r diffiniad hwnnw er mwyn rhoi yn lle’r cyfeiriad at Ddogfen 2018 gyfeiriad at yr hyfforddiant newydd ar ddata perfformiad ysgolion a nodir mewn dogfen o’r enw “Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru: deall rôl data o ran cefnogi hunanwerthuso a gwella mewn ysgolion” a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 (“dogfen 2020”). Gellir ei gweld ar wefan Llywodraeth Cymru: www.llyw.cymru.

Mae rheoliad 3 yn darparu bod llywodraethwyr ysgol a gwblhaodd yr hyfforddiant ar ddata perfformiad ysgolion yn nogfen 2020, cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, i’w trin fel pe baent yn bodloni’r gofynion hyfforddi ar ddata perfformiad ysgolion o dan Reoliadau 2013.

Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth arbed y mae ganddi’r effaith fel nad oes rhaid i lywodraethwyr ysgol presennol gwblhau’r hyfforddiant yn nogfen 2020 os ydynt eisoes wedi cwblhau’r hyfforddiant sy’n ofynnol gan Reoliadau 2013 cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources